5 Ffordd i Wella eich Lles Meddyliol a Chysylltu â Natur
Cysylltu â Natur ar gyfer eich Lles
Thema Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni yw ‘cysylltu â natur’. Yn ystod y flwyddyn anodd ddiwethaf mae llawer ohonom wedi mwynhau pleser natur wrth i ni ailddarganfod ein hardaloedd lleol yn ystod y pandemig.
Mae nifer o astudiaethau ymchwil wedi dangos bod profi natur yn cael effaith gadarnhaol ar ein lles meddyliol, yn lleihau straen a chynyddu emosiynau cadarnhaol. Mae natur ym mhobman – o flodau dant y llew yn gwasgu drwy grac yn y palmant i’r adar yn hedfan heibio’r ffenest, nid oes angen i ni fod yn byw drws nesaf i warchodfa natur er mwyn gallu profi budd natur ar gyfer ein lles.
Hoffem rannu ychydig o syniadau gyda chi ynglŷn â sut y gallwch wella eich lles meddyliol a chysylltu â natur ar yr un pryd, gan ddefnyddio’r 5 Ffordd at Les: Cysylltu, Bod yn fywiog, Bod yn sylwgar, Dysgu a Rhoi. Cofiwch – nid oes yn rhaid i chi fod allan yn yr awyr agored i gael budd o fyd natur!
Cysylltu â phobl eraill
Cysylltwch â phobl eraill drwy natur drwy naill ai gyfarfod yn yr awyr agored neu rannu pethau megis rhaglenni dogfen a lluniau bywyd gwyllt gyda ffrindiau ac anwyliaid.
- Ewch â’ch teulu am bicnic yn eich man gwyrdd lleol
- Ewch am dro gyda ffrind a gweld faint o anifeiliaid, blodau neu goed y gallwch ddod o hyd iddynt
- Ffoniwch ffrind neu aelod o’r teulu sy’n byw’n bell a sôn wrth eich gilydd am y bywyd gwyllt y gallwch ei weld drwy eich ffenest
- Tynnwch lun o rywbeth hardd rydych yn dod o hyd iddo ym myd natur a’i anfon at un o’ch anwyliaid
Byddwch yn egnïol ym myd natur
- Ymestynnwch eich cyhyrau, cerddwch, rhedwch, nofiwch. Gwnewch eich peth eich hun!…byddwch yn egnïol yn yr awyr agored, neu os na allwch fynd allan, agorwch y ffenestri neu amgylchynwch eich hun â phlanhigion
- Ewch i redeg neu am dro ar y beic gyda ffrind yn eich mannau gwyrdd lleol
- Cerddwch o amgylch eich cymdogaeth a gweld a allwch ddod o hyd i fywyd gwyllt nad ydych wedi’i weld o’r blaen
Sylwch ar fyd natur
- Eisteddwch tu allan a gwrandewch ar synau’r adar neu bryfed
- Talwch sylw i nifer y lliwiau y gallwch eu gweld yn eich gardd neu barc lleol
- Heuwch hedyn a gwyliwch ef yn egino a thyfu bob dydd
- Sylwch ar wahanol weadau ar ddeilen, carreg, rhisgl coeden
- Treuliwch funud i arogli blodyn neu berlysiau yn yr ardd
Dysgwch sgiliau neu wybodaeth newydd
- Dysgwch sut i adnabod y mathau o goed sydd yn eich ardal
- Dysgwch enw blodyn gwyllt gwahanol bob diwrnod yr wythnos hon
- Ymarferwch sgil megis gwasgu blodau neu arddio
- Gwyliwch raglen ddogfen neu gwrandewch ar bodlediad am natur
Rhowch i eraill
- Gwirfoddolwch ar gyfer prosiect cadwraeth natur
- Tyfwch ffrwythau neu lysiau i’w rhannu gyda ffrindiau a chymdogion
- Edrychwch i weld sawl darn o sbwriel allwch chi ei gasglu yn eich ardal leol
- Rhowch fwydwr adar allan a gwyliwch yr adar yn cyrraedd i fwyta
5 Ffordd at Les
Gallwch ddysgu rhagor am y 5 Ffordd at Les a sut y gallant eich helpu i ofalu am eich lles meddyliol.
Cysylltwch â natur ar gyfer eich lles meddyliol
Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau rhoi cynnig ar y gweithgareddau hyn yr wythnos hon a thrwy gydol y flwyddyn.
Rhowch wybod i ni sut hwyl a gewch arni drwy ein tagio @melo_cymru a defnyddio’r hashnodau #MeloMHA #CysylltuaNatur #WythnosYmwybyddiaethIechydMeddwl
Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr wythnos er mwyn dysgu rhagor am sut y gall cysylltu â natur roi hwb i’ch lles meddyliol!
– John Muir
Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol
Er mwn elwa gan ein cynghorion ar gyfer amsugno rhyfeddod natur, ewch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a dysgu mwy!