5 Ffordd at Les
Camau syml y gallwch eu cymryd i wella eich lles meddyliol
5 ffordd i wella eich lles meddyliol
Darllen mwy amYmgyrch #5Diwrnod5Ffrodd!↓
Mae pump cam y gall pawb ohonom eu cymryd er mwyn diogelu a gwella ein lles meddyliol. Yr enw arnynt yw’r Pum Ffordd at Les.
Fe’u datblygwyd gan y Sefydliad Economeg Newydd. Cewch ragor o wybodaeth amdanynt yma.
Y Pum Ffordd at Les yw:
- Cysylltu
- Bod yn Fywiog
- Bod yn Sylwgar
- Dal ati i Ddysgu
- Rhoi

1. Cysylltu
Cawn fudd cadarnhaol a theimladau da wrth gysylltu â phobl o’n cwmpas. Efallai y bydd hi weithiau’n anoddach nag arfer i gadw mewn cysylltiad â phobl rydym yn poeni amdanynt ac efallai y bydd angen i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd i aros mewn cysylltiad.
2. Bod yn Fywiog
Mae bod yn fywiog yn dda ar gyfer ein cyrff a’n meddyliau. Mae gweithgarwch rheolaidd yn helpu i leihau straen a gorbryder, yn rhoi hwb i’r hyder ac yn gwella lefelau egni. Mae llawer o weithgareddau am ddim i’w cael, dan do ac yn yr awyr agored, megis cerdded, beicio, garddio ac ioga. Mae’n bwysig dod o hyd i rywbeth rydych yn ei fwynhau ac sy’n addas ar gyfer eich gallu ac unrhyw gyflyrau iechyd a allai fod gennych.
Dim yn siŵr lle i ddechrau?
3. Bod yn Sylwgar
Gall rhoi mwy o sylw i’r presennol, eich meddyliau a’ch teimladau, eich corff a’r byd o’ch cwmpas, helpu i wella eich lles meddyliol. Mae enghreifftiau’n cynnwys eistedd yn dawel i wylio’r cymylau, rhoi sylw i’ch anadlu, neu arafu i lawr a sylwi go iawn ar y bwyd yr ydych yn ei fwyta. Yr enw a roddir ar y dull hwn yn aml yw Ymwybyddiaeth Fyfyriol.
4. Dal ati i Ddysgu
Gall dysgu rhywbeth newydd wella ein hyder. Rydym yn argymell gosod tasg i’ch hun y byddwch yn mwynhau ei chyflawni, megis:
- Ymgymryd â her newydd i wneud neu drwsio rhywbeth
- Ail-gydio mewn hen hobi sy’n eich herio, boed hynny’n ysgrifennu storïau, coginio, gwnïo, garddio neu chwarae gemau bwrdd
- Rhoi cynnig ar gwrs ar-lein, mae digon o rai i’w cael am ddim
5. Rhoi
Mae gwneud rhywbeth da dros ffrind, neu ddieithryn, yn fwy na dim ond bod yn dda iddynt hwy. Mae bod yn garedig i eraill yn helpu i leihau eich teimlad chi o straen a gorbryder. Nid yw gwên neu ddweud ‘helo’ wrth rywun yn costio dim ac mae’n gwneud i bobl deimlo’n gysylltiedig. Gall gweithredoedd bychan o garedigrwydd, megis helpu rhywun gyda’u siopa neu dreulio amser yn gwrando ar rywun, helpu’r rheini sy’n derbyn ac yn rhoi i deimlo’n dda.
Ymgyrch #5Diwrnod5Ffrodd
Mae Melo yn cynnal her Haf drwy gydol misoedd Gorffennaf ac Awst er mwyn hyrwyddo’r 5 Ffordd at Les. Yr her #5Diwrnod5Ffrodd yw gwneud cymaint o’r 5 Ffordd at Les ag y gallwch mewn 5 diwrnod.Gallwch wneud cyn lleied neu gymaint ag yr ydych yn ei ddymuno.
Am ragor o wybodaeth ac awgrymiadau yn y dyfodol, edrychwch ar ein blog diweddaraf: Ymgyrch #5Diwrnod5Ffrodd!
Lawrlwythwch eich dyddiadur #5Diwrnod5Ffrodd er mwy cofnodi’r hyn rydych yn ei wneud a sut rydych yn teimlo wedi hynny!
5 Ffrodd Ddalen
Cheatsheets
Cynlluniwr Wythnosol
Postiadau Cyfryngau Cymdeithasol
5 Ffrodd Ddalen
Cheatsheets
Cynlluniwr Wythnosol
Postiadau Cyfryngau Cymdeithasol
Padlet Pum Ffordd
Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles (DCW: DCHW) sy’n helpu pobl i ddysgu sgiliau TG, i fynd ar-lein a defnyddio technoleg ddigidol. Yn ogystal â helpu pobl sy’n gwbl newydd i’r byd ar-lein, mae’r rhaglen yn cefnogi pobl i ddefnyddio technoleg er mwyn helpu i wella eu hiechyd a’u lles.
Datblygwyd y padlet i gyd-fynd â’r Pum Ffordd at Les. Mae yna ystod eang o adnoddau y gellir eu defnyddio i gadw pobl yn brysur mewn amrywiol ffyrdd.
5 Ffordd at Les
Adnoddau i’w lawrlwytho
Adnoddau cysylltu
Adnoddau bod yn fywiog
Adnoddau bod yn sylwgar
Adnoddau dysgu
Adnoddau rhoi
Rhannu
Os ydych yn teimlo bod y wefan neu unrhyw rai o’r adnoddau yn ddefnyddiol, rhannwch hwy gyda’ch teulu a ffrindiau.
Defnyddiwch y dolenni isod i’n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol.
Cyrsiau Lles
Darganfod grym dysgu a’r hyn y gall ei wneud, nid dim ond i’ch iechyd meddwl, ond i iechyd meddwl y rheini sydd o’ch cwmpas.
Darganfod cyrsiau lles →