Pobl sydd ag Anabledd Dysgu
Ffynonellau cefnogaeth ac adnoddau lles ar gyfer pobl sydd ag anabledd dysgu
Beyond Words
Mae’r ap hwn yn darparu llyfrgell gynhwysfawr o storïau lluniau i gefnogwyr, sy’n rhoi cyfleoedd i bobl sydd ag anableddau dysgu ddeall sefyllfaoedd yn well, gwneud penderfyniadau gwybodus, archwilio eu teimladau a’u hemosiynau, a rhannu eu profiadau eu hunain. Dylai plant ac oedolion sy’n agored i niwed gael eu cefnogi bob amser wrth edrych ar yr ap BW Story.
Ap Daylio
Gall yr ap hwn eich helpu i gadw golwg ar sut rydych chi’n teimlo a’ch helpu chi i ddod i adnabod eich hun fel y gallwch wneud mwy o bethau rydych chi’n eu mwynhau.
Canllawiau hawdd eu deall
Efallai y byddwch am edrych ar y daflen hon gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo/ynddi, megis gweithiwr gofal iechyd.
Canllawiau hawdd eu deall
Taflenni hawdd eu deall ar gyfer; Cam-drin, Alcohol, Dicter, Pryder, Pan fo Rhywun yn Marw, Dementia, Iselder, Cam-drin Domestig, Anhwylderau Bwyta, Sut i Ymlacio, OCD Obsesiynau a Gorfodaethau, Panig a Phyliau o Banig, Hunan-niweidio, Dyddiadur Cysgu, Cysgu.
Gweld taflenni hawdd eu deall →
Feeling Down: Looking After My Mental Health
Mae Feeling Down – Looking After My Mental Health yn ganllaw hawdd ei ddarllen i bobl sydd ag anableddau dysgu. Gellir ei ddefnyddio gyda neu heb gefnogaeth. Yn y canllaw hwn ceir cyngor a gwybodaeth ynglŷn â sut i ofalu am eich hun a chael y gorau o fywyd. Mae’r canllaw mewn 5 rhan.
Ar gael yn Saesneg yn unig.

Fforwm Cymru Gyfan
Mae Fforwm Cymru Gyfan yn cynrychioli barn Rhieni a Gofalwyr pobl ag anableddau dysgu yn genedlaethol, ar y cyd ac fel unigolion.
Ar gael yn Saesneg yn unig.

Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan
Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn sefydliad a arweinir gan ddynion a menywod sydd ag anabledd dysgu.

Ymddygiad Heriol
Gwybodaeth am ymddygiad heriol a materion cysylltiedig. Amrywiaeth o daflenni gwybodaeth, pecynnau a DVDau.
Ar gael yn Saesneg yn unig.

Anabledd Dysgu Cymru
Elusen genedlaethol yw Anabledd Dysgu Cymru. Ar ar ei gwefan gallwch ddod o hyd i gyngor a gwybodaeth gan gynnwys deunyddiau hawdd eu darllen.

Mencap Cymru
Mae Mencap Cymru yn elusen genedlaethol sydd â llinell gymorth, sy’n cynnig cyngor, yn rhoi arweiniad i chi o ran eich hawliau yn ogystal â gwybodaeth a chefnogaeth.

Adnoddau iechyd meddwl eraill
Gallwch archwilio rhagor o’n hadnoddau lles meddyliol isod
Ymwybyddiaeth Fyfyriol
Darganfod grym ymwybyddiaeth fyfyriol – ffordd i ymateb i bwysau bob dydd bywyd mewn modd tawelach.
Rhagor o wybodaeth →
Pobl sydd â Phroblemau gyda’r Cof
Ystod eang o wybodaeth ar gyfer unrhyw un yr effeithir arnynt gan broblemau cysylltiedig â’r cof.
Rhagor o wybodaeth →
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Gwefannau defnyddiol ychwanegol sy’n cynnwys gwybodaeth a chyngor i ofalu am eich lles meddyliol.
Rhagor o wybodaeth →
Ymwadiad
Darllenwch ein hymwadiad sy’n ymwneud ag adnoddau allanol.