Apiau Lles Meddyliol
Apiau ar gyfer eich lles meddyliol
eQuoo: Gêm Ffitrwydd Emosiynol
Gêm ryngweithiol seiliedig ar dystiolaeth a all roi hwb i iechyd meddwl ac emosiynol.
distrACT
Mae’r ap yn cynnig cyngor a gwybodaeth am hunan-niweidio ac am feddyliau’n ymwneud â hunanladdiad a gall eich helpu i ddarganfod technegau ac adnoddau hunangymorth a allai wneud i chi deimlo’n well.
Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael.
PTSD Coach
Ar gyfer y rheini sydd ag, neu a allai fod ag, anhwylder straen wedi trawma (PTSD) – mae’r adnoddau’n amrywio o sgiliau ymlacio a hunan-siarad cadarnhaol i reoli dicter a strategaethau hunangymorth cyffredin eraill.
Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael.
Stay Alive
Adnodd atal hunanladdiad i’ch helpu i gadw’n ddiogel mewn argyfwng. Gallwch ei ddefnyddio os ydych chi’n meddwl am gyflawni hunanladdiad neu os ydych chi’n poeni am rywun arall a allai fod yn ystyried lladd ei hun.
Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael.
Stress and Anxiety Companion
Nod yr ap hwn yw brwydro yn erbyn meddyliau negyddol a helpu i reoli straen a gorbryder.
Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael.
Student Health App
Ar gyfer myfyrwyr sy’n chwilio am wybodaeth ynglŷn â phryderon iechyd corfforol a meddyliol a ffyrdd i deimlo’n fwy hyderus ynglŷn â gofalu am eu hiechyd a’u lles.
Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael.
Adnoddau iechyd meddwl eraill
Gallwch archwilio rhagor o’n hadnoddau lles meddyliol isod
Sain a Fideo
Adnoddau sain a fideo i’ch helpu i ganfod pethau syml y gallwch eu gwneud i ofalu am eich lles meddyliol.
Rhagor o wybodaeth →
Llyfrau a Thaflenni
Darganfod llyfrau a argymhellir i’ch helpu i ofalu am eich iechyd a’ch lles.
Rhagor o wybodaeth →
Plant a Phobl Ifanc
Pecyn cymorth iechyd meddwl sy’n benodol ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed i ofalu am eich lles meddyliol.
Rhagor o wybodaeth →
Ymwadiad
Darllenwch ein hymwadiad sy’n ymwneud ag adnoddau allanol.