Llyfrau a Thaflenni
Gofalwch am eich lles meddyliol gyda llyfrau a deunydd darllen am ddim
Mae Darllen yn Well yn eich helpu i ddeall a rheoli eich iechyd a’ch lles gan ddefnyddio deunydd darllen defnyddiol
Mae’r llyfrau i gyd wedi’u dewis a’u hargymell gan arbenigwyr iechyd, yn ogystal â phobl sy’n byw gyda’r cyflyrau yr ymdrinnir â hwy a’u perthnasau a gofalwyr.
Mae tair rhestr lyfrau ar gael:
Darllen yn Well ar gyfer iechyd meddwl
Mae Darllen yn Well ar gyfer iechyd meddwl yn darparu gwybodaeth a chymorth defnyddiol ar gyfer rheoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Mae rhai llyfrau hefryd yn cynnwys storïau personol.
Gweld y rhestr ddarllen iechyd meddwl →
Darllen yn Well i blant
Mae Darllen yn Well i blant yn darparu gwybodaeth, storïau a chyngor gyda sicrwydd ansawdd i gefnogi lles meddyliol plant. Maent wedi’u dewis a’u hargymell gan weithwyr iechyd proffesiynol a’u cynhyrchu ar y cyd gyda phlant a theuluoedd.
Gweld y rhestr ddarllen i blant →
Darllen yn Well ar gyfer dementia
Mae llyfrau Darllen yn Well ar bresgripsiwn ar gyfer dementia yn argymell llyfrau y gallech deimlo sy’n ddefnyddiol os oes gennych ddementia, os ydych yn gofalu am rywun sydd â dementia neu os hoffech wybod rhagor am y cyflwr.
Gweld y rhestr ddarllen dementia →
Gwasanaethau llyfrgell
Mae llyfrau ar gael o’ch gwasanaeth llyfrgell lleol. Erychwch ar wefan eich gwasanaeth llyfrgell i weld yr amseroedd agor presennol a’r gwasanaethau a gynigir.
Mae aelodaeth o’r llyfrgell am ddim i bawb ac nid oes taliadau hwyr ar gyfer unrhyw rai o’r llyfrau yn y 3 Cynllun Darllen yn Well.
Mae nifer o’r teitlau ym mhob cynllun ar gael yn Gymraeg, gyda theitlau newydd yn cael eu hychwanegu pan ddônt ar gael.
Borrowbox
Mae rhai o’r llyfrau ar gael ar ffurf e-lyfrau ac e-lyfrau llafar drwy Borrowbox, y darparwr e-lyfrau ac e-lyfrau llafar ar gyfer holl lyfrgelloedd Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i:
Llyfrau i Godi’r Galon
Cynllun hyrwyddo cenedlaethol sy’n cynnwys teitlau i godi’r ysbryd yw Llyfrau i Godi’r Galon, ac mae’n cynnwys nofelau, barddoniaeth a llyfrau ffeithiol. Argymhellir yr holl lyfrau gan ddarllenwyr a grwpiau darllen.
Gallwch gael gwybod rhagor am raglenni darllen eraill drwy wefan Reading Agency isod.
Reading Agency
Elusen genedlaethol yw Reading Agency sy’n mynd i’r afael â heriau mawr bywyd drwy rym profedig darllen. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Reading Agency i gyflwyno Darllen yn Well ym mhob un o’r 22 awdurdod llyfrgell yng Nghymru.
Taflenni hunangymorth
Dewch i hyd i’r taflenni hunangymorth perthnasol er mwyn eich hysbysu a’ch cefnogi drwy’r pynciau.
Taflenni hunangymorth
Taflenni hunangymorth ar gyfer; Cam-drin, Alcohol, Pryder, Galar, Rheoli Dicter, Iselder a Hwyliau Isel, Trais Domestig, Anhwylderau Bwyta, Meddwl am Fwyd, Pryder Iechyd, Clywed Lleisiau, Obsesiynau a Gorfodaethau, Panig, Straen wedi Trawma, Iselder Ôl-enedigol, Pryder Carcharorion, Iselder a Hwyliau Isel Carcharorion, Trallod wedi Trawma ymhlith Carcharorion, Hunan-niweidio, Swildod a Phryder Cymdeithasol, Problemau Cysgu, Straen.
Gweld y taflenni hunangymorth →
Canllawiau hawdd eu deall
Efallai y byddwch am edrych ar y daflen hon gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo/ynddi, megis gweithiwr gofal iechyd.
Taflenni hawdd eu deall ar gyfer; Cam-drin, Alcohol, Dicter, Pryder, Pan fo Rhywun yn Marw, Dementia, Iselder, Cam-drin Domestig, Anhwylderau Bwyta, Sut i Ymlacio, OCD Obsesiynau a Gorfodaethau, Panig a Phyliau o Banig, Hunan-niweidio, Dyddiadur Cysgu, Cysgu.
Gweld taflenni hawdd eu deall →
Rhannu
Os ydych yn teimlo bod y wefan neu unrhyw rai o’r adnoddau yn ddefnyddiol, rhannwch hwy gyda’ch teulu a ffrindiau.
Defnyddiwch y dolenni isod i’n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol.
Cyrsiau Lles
Darganfod grym dysgu a’r hyn y gall ei wneud, nid dim ond i’ch iechyd meddwl, ond i iechyd meddwl y rheini sydd o’ch cwmpas.
Darganfod cyrsiau lles →