Plant a Phobl Ifanc
Ffyrdd i bobl ifanc feithrin rhagor o gadernid meddyliol
Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc
Mae’r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn cysylltu pobl ifanc, rhwng 11 a 25 oed, â gwefannau, apiau, llinellau cymorth a mwy i feithrin cadernid.
I gael dolenni cyflym i’r rhan berthnasol o’r pecyn cymorth, cliciwch ar un o’r dewisiadau isod neu ewch yn syth i wefan Hwb.
Coronafeirws a’ch lles
Yn y rhestr chwarae hon, cewch adnoddau sy’n rhoi awgrymiadau, cyngor ac arweiniad ar y coronafeirws a ffyrdd y gallwch gynnal eich iechyd meddwl. Os oes gennych chi gwestiynau am y feirws, y cyfyngiadau symud, neu ffyrdd o gadw’n iach, dyma’r lle i chi.
Gweld y rhestr chwarae Coronafeirws →
Argyfwng
Yn y rhestr chwarae hon, ceir gwybodaeth am sut i fynd ati i gael y cymorth gorau i chi, waeth beth fydd hwnnw.
Gweld y rhestr chwarae argyfwng →
Gorbryder
Yn y rhestr chwarae hon, cewch bob math o adnoddau ar-lein i’ch helpu pan fyddwch yn teimlo’n orbryderus neu dan straen. Gall hyn fod yn bersonol iawn, felly cymerwch eich amser i ddod o hyd i’r hyn sydd orau i chi.
Gweld y rhestr chwarae gorbryder →
Cadw’n iach
Tra bo rhestrau chwarae eraill y pecyn cymorth iechyd meddwl hwn yn ymwneud â gofalu am eich lles meddyliol, bydd y rhestr chwarae hon yn eich helpu i wneud ymarfer corff. Bydd defnyddio’r adnoddau hyn yn helpu i roi hwb i’ch ffitrwydd ac yn tanio’r ymennydd felly beth amdani?
Gweld y rhestr chwarae cadw’n iach →
Hwyliau isel
Yn y rhestr chwarae hon, cewch adnoddau sy’n rhoi cyngor, syniadau ac anogaeth i’ch helpu i ymateb i heriau bywyd. Does dim ots sut ydych chi’n teimlo, mae yna wastad ffyrdd i ddiogelu a chryfhau eich iechyd meddwl.
Gweld y rhestr chwarae hwyliau isel →
Colled
Bydd profiad pawb o golled yn wahanol, ac yn y rhestr chwarae hon ceir ystod o wahanol adnoddau, felly cymerwch eich amser i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi. Cofiwch fod yna bob amser bobl a all eich helpu, yn athrawon, aelod o’r teulu/gofalwr, ffrind neu eich meddyg teulu.
Gweld rhestr chwarae colled →
Dolenni cyflym i adnoddau lles meddyliol
Dewiswch un o’r pynciau isod i ddod o hyd i’r adnoddau lles meddyliol perthnasol