Pobl sydd â Phroblemau gyda’r Cof
Cymorth ac adnoddau cefnogaeth ar gyfer pobl sydd â phroblemau cysylltiedig â’r cof
Cymdeithas Alzheimer
Ystod eang o ffeithlenni a llyfrynnau sydd wedi’u creu i gefnogi a rhoi gwybodaeth i unrhyw un yr effeithir arnynt gan ddementia.
Ar gael yn Saesneg yn unig.

BBC Reminiscence Archive
Mae’r archif hon yn rhoi mynediad at ddetholiad o gynnwys o Archifau’r BBC, a fwriadwyd i gefnogi therapi hel atgofion.
Dim ond yn Saesneg y mae hon ar gael.

BBC Music Memories
Bwriad y wefan hon yw defnyddio cerddoriaeth i helpu pobl i ailgysylltu â’u hatgofion mwyaf pwerus.
Dim ond yn Saesneg y mae hon ar gael.

Colour Collections
Mae llyfrgelloedd, archifau a sefydliadau diwylliannol eraill ledled y byd yn rhannu taflenni lliwio a llyfrau am ddim yn seiliedig ar ddeunyddiau yn eu casgliadau. Maent ar gael i’w lawrlwytho a’u hargraffu.
Ar gael yn Saesneg yn unig.

Dementia UK
Amrywiaeth o daflenni gan nyrsys arbenigol dementia ar gyfer y rheini sydd â dementia a’u teuluoedd a’u gofalwyr, mewn sawl iaith.

Rhwydwaith Arloesedd ar gyfer Iechyd (HIN)
Canllaw ar gyfer adnoddau ar-lein i’r rheini sy’n darparu gofal ar gyfer pobl sydd â dementia.
Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o apiau a gwefannau – efallai y bydd angen rhywfaint o gefnogaeth arnoch i gael mynediad at rai ohonynt.
Ar gael yn Saesneg yn unig.

M4D Radio
Gorsaf radio ar-lein yn unig ar gyfer pobl sydd â dementia a’u gofalwyr.
Dim ond yn Saesneg y mae hon ar gael.

Cefnogaeth Dementia Prin
Adnoddau celfyddydol a chreadigol sy’n addas ar gyfer unigolion sydd â dementia.
Ar gael yn Saesneg yn unig.

The Sporting Memories
Defnyddio atgofion chwaraeon a gweithgarwch corfforol, i helpu gydag unigrwydd, hwyliau isel a dementia.
Ar gael yn Saesneg yn unig.

Adnoddau iechyd meddwl eraill
Gallwch archwilio rhagor o’n hadnoddau lles meddyliol isod
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Gwefannau defnyddiol ychwanegol sy’n cynnwys gwybodaeth a chyngor i ofalu am eich lles meddyliol.
Rhagor o wybodaeth →
5 Ffordd at Les
Darganfod y pum cam y gall pawb ohonom eu cymryd i ddiogelu a gwella ein lles meddyliol.
Rhagor o wybodaeth →
Cefnogaeth Ychwanegol
Deunyddiau hunangymorth ychwanegol ar gyfer pryder, iselder, hunan-barch a mwy.
Rhagor o wybodaeth →
Ymwadiad
Darllenwch ein hymwadiad sy’n ymwneud ag adnoddau allanol.