Atal Hunanladdiad: Taith Baton of Hope yn dod i Gaerdydd
Cafodd Baton of Hope ei dechrau gan Mike McCarthy a Steve Phillip a ddaeth i gysylltiad â’i gilydd yn dilyn marwolaethau eu meibion, Ross a Jordan, oherwydd hunanladdiad.

“Daethpwyd â ni at ein gilydd drwy amgylchiadau trasig – dau dad yn rhannu galar cyffredin. Pob un eisiau gwneud gwahaniaeth, ac yn benderfynol na ddylai marwolaeth ein meibion fod yn ofer. Trwy ein cyfeillgarwch sylweddolom y gallem, drwy greu undod pwrpas, newid pethau a chreu mudiad y gobeithiwn fydd yn atal cymaint o bobl rhag cymryd eu bywydau eu hunain.”
– Steve Phillip, Baton of Hope
Mae eu menter yn rhan o fudiad cynyddol sy’n dyheu am gymdeithas heb hunanladdiadau, gyda’r ymwybyddiaeth bod modd atal y rhan fwyaf o hunanladdiadau. Baton of Hope UK fydd y fenter ymwybyddiaeth ac atal hunanladdiad fwyaf y mae’r DU wedi’i gweld erioed, a bydd yn ysgogi sgyrsiau angenrheidiol ac annog gweithredu. Nod y fenter yw lleihau’r stigma, gwella sut rydym yn gofyn cwestiynau i bobl, gwrando, a chyfeirio pobl at y cymorth cywir. Cred Baton of Hope ‘Gyda’n gilydd gallwn achub bywydau’.

Un o drigolion Gwent, Liz Probert, i ddal y Baton of Hope yng Nghaerdydd
Bydd Liz Probert, o Dorfaen yng Ngwent, yn dal y Baton of Hope yng Nghaerdydd, ar ôl colli ei gŵr i hunanladdiad. Clywsom ganddi cyn iddi gydio yn y baton er cof am ei gŵr:
“Yn bersonol, mae gen i brofiad o ddelio â hunanladdiad pan gymerodd fy ngŵr ei fywyd ei hun 3 blynedd yn ôl.
Nid yw delio â’r canlyniadau yn sefyllfa braf.
Siaradais â phawb y gallwn, gwnaeth hynny i mi deimlo’n well.
Byddaf yn cerdded gyda’r Baton of Hope yn uchel ar ran yr holl bobl hynny sydd wedi lladd eu hunain yn Nhorfaen a’r cyffiniau. Rwy’n teimlo’n falch fy mod yn cymryd rhan a byddaf yn sefyll ochr yn ochr â phobl eraill sydd wedi mynd drwy’r un profiad.
Fy ngeiriau i gloi yw… byddwch yn garedig â’ch gilydd ac estynnwch allan am help. Mae help ar gael i bawb.”
– Liz Probert, sy’n cynrychioli Gwent yn Baton of Hope Caerdydd
Taith Baton of Hope
Bydd y Baton yn teithio drwy’r wlad cyn ymweld â Chaerdydd ar 1 Gorffennaf 2023. Ym mhob ardal dewiswyd person i gario’r baton; bydd personoliaethau nodedig, arweinwyr, a phobl â’u straeon ysbrydoledig eu hunain o obaith yn cario’r Baton rhwng dydd Sul 25 Mehefin a dydd Iau 6 Gorffennaf. Bydd Fatboy Slim, Chris Boardman a Will Vaulks ymhlith y rheini fydd yn cario’r Baton i ddangos cefnogaeth.

Hoffem ddymuno pob lwc i Liz a phawb sy’n cymryd rhan wrth iddynt ddal y Baton of Hope er cof am y rheini sydd wedi marw drwy hunanladdiad.
“Mae Gobaith. Os bydd mwy o bobl yn siarad yn agored am iechyd meddwl a hunanladdiad, yn sylwi ar yr arwyddion, yn gofyn y cwestiynau cywir, ac yn gwrando heb farnu, gallwn wneud gwahaniaeth.”
– Baton of Hope
Cael cymorth brys ar gyfer teimladau neu brofiadau hunanladdol:
Os ydych chi’n cael meddyliau neu deimladau hunanladdol, nid ydych ar eich pen eich hun.
Mae cymorth a chefnogaeth ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Nid oes angen i unrhyw un brofi’r teimladau anodd hyn ar eu pen eu hunain.
Gweler ein pwnc teimladau hunanladdol →
Os ydych yn poeni am rywun sy’n teimlo’n hunanladdol
Gweler ein gwybodaeth a mannau cyfeirio am gefnogaeth.
Os effeithiwyd arnoch chi neu rywun rydych yn ei adnabod gan farwolaeth drwy hunanladdiad
Mae help ar gael yn ein hadran cymorth brys. Os ydych yn byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan/Gwent ac yr effeithiwyd arnoch gan farwolaeth drwy hunanladdiad, mae cymorth arbenigol am ddim ar gael i chi.
Nôl i’r newyddion
I weld cynghorion ac adnoddau am lesiant, ewch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a dysgu mwy!