Bywyd ACTif
Gall y cwrs eich helpu chi i gymryd mwy o reolaeth dros eich gweithredoedd, fel bod bywyd o ddydd i ddydd yn dod yn llai trallodus ac yn fwy pleserus.
Datblygwyd y cwrs ar eich cyfer gan Dr Neil Frude a bydd yn eich helpu chi i ganfod yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i chi ac yn rhoi’r sgiliau i chi allu byw eich bywyd gyda mwy o hyder a mwy o ymdeimlad o bwrpas.
Sut i fynychu
Dechreuwch y cwrs drwy glicio ar fideo ACT 1 isod. Mae pedwar fideo a phob un yn para tua 40 munud. Gallwch gael saib ar unrhyw adeg a dod yn ôl atynt os bydd angen i chi gael hoe.
Rydym yn argymell cymryd diwrnod neu ddau rhwng pob fideo er mwyn ymarfer y dysgu.
Adnoddau am ddim a gwybodaeth am y cwrs
Rhagor o wybodaeth →
ACT 1
Nid Chi yw Eich Meddw
Dysgwch am sut mae eich Meddwl yn gweithio – a sut y mae’n aml yn gweithio yn eich erbyn. Ond drwy gymryd mwy o reolaeth, gallwch atal eich Meddwl rhag difetha pethau i chi.
ACT 2
Wynebu Bywyd
Rydym yn aml yn gwneud ymdrech fawr i osgoi neu newid pethau na ellir eu newid, a gall hyn wneud pethau’n waeth i ni. Mae’n aml yn well Derbyn.
ACT 3
Bod yn Ofalgar
Mae Ymwybyddiaeth Ofalgar yn ein galluogi i ganolbwyntio mwy ar y presennol – ac mae manteision hyn yn bwerus iawn. Dysgwch sut i ymarfer y grefft o ‘sylwi yn unig’.
Ymarferwch eich sgiliau gydag Ymarferion Sain
Rhagor o wybodaeth →
ACT 4
Byw yn Ddoeth, Byw yn Dda
Beth sy’n bwysig i chi? Beth ydych chi wir yn poeni amdano? Darganfyddwch sut y gall gweithredu yn unol â’ch gwerthoedd fod y ffordd orau i chi gael bywyd gwell.
Bywyd ACTif datblygwyd gan

Dr Neil Frude
Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol

Dr Neil Frude
Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol
Cynhyrchwyd gan

Adnoddau ychwanegol i’ch helpu i reoli eich lefelau straen
5 Ffordd at Les
Darganfod y pum cam y gall pawb ohonom eu cymryd i ddiogelu a gwella ein lles meddyliol.
Rhagor o wybodaeth →
Ymwybyddiaeth Fyfyriol
Darganfod grym ymwybyddiaeth fyfyriol – ffordd i ymateb i bwysau bob dydd bywyd mewn modd tawelach.
Rhagor o wybodaeth →
Cefnogaeth Ychwanegol
Deunyddiau hunangymorth ychwanegol ar gyfer pryder, iselder, hunan-barch a mwy.
Rhagor o wybodaeth →