Canfod pleserau bach bywyd: Emma Palmer yn sôn am yr Her 5 Diwrnod 5 Ffordd
Cerdded
Bod yn Fywiog | Bod yn Sylwgar | Cysylltu | Rhoi
Rwy’n mwynhau bod allan yn yr awyr agored a bod yn fywiog, sylwi ar harddwch cefn gwlad, cysylltu â ffrindiau ac â natur. Hyd yn oed ar y dyddiau pan fydd llais yn fy mhen yn dweud y byddai’n brafiach aros yn y gwely, fe fyddaf bob amser yn teimlo’n well wrth fynd allan i’r awyr agored. Rydw i wedi dechrau ei ystyried fel buddsoddi ynof fi fy hun – gall y gwaith tŷ aros!
Oherwydd fy nghariad at yr amgylchedd rwy’n gwirfoddoli i Stump Up for Trees, elusen sydd â’r nod o blannu miliynau o goed yn yr ardal er mwyn brwydo effeithiau newid yn yr hinsawdd a cholled cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Dyma fy ffordd i o roi’n ôl i’r gymuned ac i’r amgylchedd. Mae hefyd yn fy ngalluogi i fod yn fywiog trwy gerdded y bryniau, cysylltu â gwahanol bobl, dysgu am yr amgylchedd ac mae hefyd yn rhoi digon o amser i mi sylwi ar harddwch y dirwedd sydd o’m cwmpas.

Beicio
Bod yn Fywiog | Bod yn Sylwgar | Cysylltu | Dal ati i Ddysgu
Yn ogystal â cherdded, rydw i hefyd yn hoffi mynd ar fy meic a chysylltu â beicwyr eraill. Fodd bynnag, fi fydd yr un yng nghefn y grŵp yn aml, gan fy mod yn hoffi treulio amser yn sylwi ar y bywyd gwyllt. Rwy’n ceisio adnabod popeth y byddaf yn ei weld a dysgu mwy amdanynt. Weithiau fe fyddant hwythau yr un mor chwilfrydig â fi, fel y ceffylau sydd i’w gweld yn y llun isod! Fe fyddaf bob amser yn cadw llygad allan am unrhyw anifeiliaid a fydd efallai wedi’u hanafu. Yn anffodus byddant yn aml mewn cyflwr sydd y tu hwnt i achubiaeth ond weithiau gellir eu hachub. Sylwais ar y titw tomos las hwn yn gorwedd ar ei gefn ar y ffordd, roeddwn i’n tybio ei fod wedi cael ei daro gan gar. Codais ef i fyny a’i gadw’n gynnes nes fy mod yn siŵr ei bod yn ddiogel iddo hedfan i ffwrdd unwaith eto. Mae’n deimlad rhyfeddol pan fydd hynny’n digwydd.
Os na allaf fynd allan i gefn gwlad, rwy’n hoffi gwneud ymarfer corff yn fy nghartref ac mae fy nghath bob amser yn awyddus i ymuno i mewn! Rydw i wedi canfod ei bod yn haws rhoi ei mat ei hun iddi yn hytrach na’i bod yn ceisio rhannu fy un i!

Elusen
Cysylltu | Rhoi
Mae gweithio o gartref yn golygu fy mod weithiau’n ateb y drws i alwyr diwahoddiad, ac yn ddiweddar cnociodd dyn fy nrws yn chwilio am gyfraniadau i elusen lloches cŵn. Yn ogystal â noddi ci, tynnais ei lun a’i rannu ar fy sianeli cyfryngau cymdeithasol er mwyn helpu i gynyddu’r gefnogaeth yn y gymuned leol. Roedd gwneud hynny yn deimlad da, nid dim ond cefnogi achos gwerth chweil ond hefyd i helpu’r gwirfoddolwr gan cnocio drysau a chodi arian yn waith caled.
Fy Ngardd
Bod yn Fywiog | Bod yn Sylwgar | Cysylltu | Dal ati i Ddysgu | Rhoi
Rwy’n ffodus iawn bod gen i fy ngardd. Rwy’n teimlo ei bod yn bwysig iawn ar gyfer fy lles, ac mae’n fy nghadw’n gorfforol fywiog ac yn fy helpu i gadw’n heini. Mae yna wastad gymaint i’w ddysgu am fy ngardd, o enwau’r planhigion i sut i greu cynefinoedd bywyd gwyllt, tyfu llysiau a sut i arddio’n gynaliadwy, mae’n addysg barhaus! Rydw i wedi gweithio’n galed i wneud fy ngardd yn gynefin ar gyfer bywyd gwyllt. Rydw i wedi gosod llawer o flychau, adar gan gynnwys un yn fy nghoeden afalau. Rydw i wedi cloddio pwll, wedi gosod tŷ gwenyn a hyd yn oed wedi adeiladu cartref i ddraenogod!
Rwy’n cael cymaint o fudd o arddio, y llawenydd dyddiol o ofalu am blanhigion a bywyd gwyllt, rhoi cartref i natur ac mae gwylio bywyd gwyllt yn ffynnu yn y man rydw i newydd ei greu yn bleser pur. Rwy’n gwneud yn siŵr fy mod yn sylwi ar yr holl greaduriaid y gallaf eu gweld. Hyd yma rydym wed gweld brogaod, ystlumod, draenogod, gwenyn, gloÿnnod byw a chymaint o bryfed gwahanol! Mae’r gwrychoedd bob amser yn llawn adar, ac mae’n deimlad cyffrous iawn i weld yr adar ysglyfaethus a’r tylluanod pan fyddant yn ymweld.
Rydw i hefyd wedi dechrau tyfu llysiau, y byddaf yn eu rhannu gyda fy nheulu, fy ffrindiau a’m cymdogion, ac wrth gwrs y bywyd gwyllt! Bydd cnwd swmpus ar y goeden afalau bob blwyddyn a byddaf yn eu gosod ar wal yr ardd fel y gall unrhyw un sy’n pasio heibio helpu eu hunain iddynt.
Fy ngardd yw fy hoff le i aros am ychydig a sylwi. Mae’n newid bob dydd, ac mae blas y cynnyrch cartref, harddwch, synau ac arogleuon hyfryd yr ardd yn rhoi cymaint o bleser i mi. Efallai mai dim ond gardd gefn fach yw hi, ond mae’n golygu popeth i mi ac i’r bywyd gwyllt.

Eich tro chi!
Ydych chi eisiau gwella eich lles meddyliol? Ymunwch yn yr Her 5Diwrnod5Ffordd nawr a defnyddiwch y 5 ffordd seiliedig ar dystiolaeth hyn i wella eich lles!
Nôl i’r newyddion
I weld cynghorion ac adnoddau am lesiant, ewch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a dysgu mwy!