Meddyliau am hunanladdiad
Beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl am hunanladdiad
Rwy’n meddwl am hunanladdiad
- Os ydych chi’n teimlo eich bod chi eisiau marw, mae cymorth a chefnogaeth gyfrinachol am ddim ar gael nawr i’ch cadw’n ddiogel.
- Gallwch godi’r ffôn, anfon neges destun neu e-bost. Mae staff hyfforddedig yn aros i siarad â chi, waeth pa mor anodd. Dewch o hyd i linellau cymorth yma.
- Gallwch chi hefyd siarad â rhywun rydych chi’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo. Peidiwch ymaflyd â’ch teimladau ar eich pen eich hun.
- Gall y ffynonellau cymorth eraill hyn fod o gymorth hefyd.
- Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, mewn perygl uniongyrchol cliciwch yma.
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod angen cymorth brys, mae'n argyfwng.
Os na allwch gadw’ch hun yn ddiogel, mae’n argyfwng. Mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Nid ydych yn gwastraffu amser neb.
Dolenni cyflym i gymorth ac adnoddau lles meddyliol
Adnoddau Hunangymorth
Adnoddau hunangymorth sydd wedi'u cymeradwyo'n broffesiynol i'ch helpu i wella'ch lles meddyliol.
Archwiliwch adnoddau →
Cyrsiau Lles Meddyliol
Cyrsiau manwl i'ch helpu i ddysgu sgiliau i reoli a gwella eich lles meddyliol.
Pori cyrsiau →
Llinellau Cymorth a Chefnogaeth
Gwasanaethau cymorth y gallwch eu cyrraedd dros y ffôn, neges destun, e-bost neu wefannau i helpu i'ch cadw'n ddiogel.
Dod o hyd i linellau cymorth →