Skip to main content

Poeni am rywun yn teimlo’n hunanladdol

Beth i’w wneud os ydych chi’n poeni am rywun sy’n teimlo’n hunanladdol

Suicide and Suicidal Thoughts

Os teimlwch fod eu bywyd mewn perygl dybryd:

  • Os bydd rhywun yn dweud wrthych eu bod yn teimlo’n hunanladdol, cynghorwch nhw i gysylltu â gwasanaeth am ddim y GIG: Iechyd Meddwl 111 Opsiwn 2. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ac mae am ddim i’w ffonio o ffôn symudol (hyd yn oed pan nad oes gan y galwr gredyd yn weddill) neu o linell dir. Byddant yn darparu cefnogaeth ar unwaith dros y ffôn i’w helpu i ymdopi â sut mae’n teimlo ac, os oes angen, trefnir atgyfeiriad i wasanaethau iechyd meddwl. Os bydd angen, trefnir asesiad meddwl brys neu argyfwng.
  • Fel arall, gallant gysylltu â’u meddyg teulu a gofyn am apwyntiad brys neu gysylltu â llinell gymorth broffesiynol am ddim arall.
  • Mae tystiolaeth yn dangos y gall gofyn i rywun a ydynt yn teimlo’n hunanladdol helpu i’w hamddiffyn. Os ydych chi’n teimlo y gallwch, anogwch nhw i siarad am sut maent yn teimlo. Yna gwrandewch yn dosturiol a heb farnu. Cymerwch nhw o ddifrif. Nid oes rhaid i chi allu datrys eu problemau. Anogwch nhw i ofyn am gyngor, a rhowch wybod iddynt fod cymorth proffesiynol a chyfrinachol am ddim ar gael ar unwaith.
  • I gael cyngor ar sut i gael y sgwrs hon, gweler ein tudalen Teimladau Hunanladdol. Mae gwybodaeth ddefnyddiol hefyd ar wefan y Samariaid i helpu pobl i gefnogi rhywun sy’n cael meddyliau hunanladdol. Hefyd, mae HOPELINE PAPYRUS yn rhoi cyngor i unrhyw un sy’n pryderu y gallai person ifanc o dan 35 oed fod yn meddwl am hunanladdiad.
  • Anogwch nhw i godi’r ffôn, anfon neges destun neu e-bost. Atgoffwch nhw ei bod yn bwysig nad ydynt yn cael trafferthion gyda theimladau anodd ar eu pen eu hunain. Mae ystod eang o gymorth proffesiynol ar gael. Gweler ein dolen am fwy o wybodaeth. Neu anogwch nhw i siarad â rhywun maent yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddynt.
  • Fe allent ffonio’r Samariaid. Mae gan y Samariaid wasanaeth y gellir ei ffonio am ddim 24 awr y dydd, 365 diwrnod yr wythnos. Os ydych chi eisiau siarad â rhywun yn gyfrinachol, ffoniwch nhw ar 116 123.
  • Os ydynt dan 35 oed, gallant ffonio HOPELINE UK PAPYRUS ar 0800 068 4141. Neu anfon neges destun at 07860039967, neu e-bostio pat@papyrus-uk.org. Llinell gymorth am ddim i blant a phobl ifanc dan 35 oed sy’n cael meddyliau hunanladdol yw hon. Mae HOPELINE PAPYRUS hefyd yn cynnig cyngor i unrhyw un sy’n pryderu y gallai person ifanc fod yn meddwl am hunanladdiad.
  • Rhowch wybod iddynt fod ystod eang o adnoddau ar ein gwefan, megis apiau a gwefannau, a allai fod yn ddefnyddiol iddynt.

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod angen cymorth brys, mae'n argyfwng.

Os na allwch gadw’ch hun yn ddiogel, mae’n argyfwng. Mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Nid ydych yn gwastraffu amser neb.

Dolenni cyflym i gymorth ac adnoddau lles meddyliol

Self-Help Wellbeing Resources

Adnoddau Hunangymorth

Adnoddau hunangymorth sydd wedi'u cymeradwyo'n broffesiynol i'ch helpu i wella'ch lles meddyliol.

Archwiliwch adnoddau →

Local Opportunities for Mental Wellbeing in your Community

Cyrsiau Lles Meddyliol

Cyrsiau manwl i'ch helpu i ddysgu sgiliau i reoli a gwella eich lles meddyliol.

Pori cyrsiau →

Mental Health Helplines Support

Llinellau Cymorth a Chefnogaeth

Gwasanaethau cymorth y gallwch eu cyrraedd dros y ffôn, neges destun, e-bost neu wefannau i helpu i'ch cadw'n ddiogel.

Dod o hyd i linellau cymorth →