Rwy’n teimlo’n hunanladdol
Beth i’w wneud os ydych chi’n teimlo’n hunanladdol
Mae fy mywyd mewn perygl uniongyrchol
Os teimlwch y gallech geisio lladd eich hun, neu y gallech niweidio eich hun yn ddifrifol, mae’n bwysig eich bod yn ceisio cymorth brys:
- Ffoniwch 999 am ambiwlans.
- Ewch yn syth i A&E, os gallwch chi.
- Neu ffoniwch eich tîm argyfwng lleol, os yw eu rhif gennych.
- Mae’n hanfodol eich bod chi’n siarad â rhywun am sut rydych chi’n teimlo a chyrraedd rhywle rydych chi’n teimlo’n ddiogel.
- Mae cefnogaeth am ddim ar gael ar hyn o bryd i’ch cadw’n ddiogel. Defnyddiwch linellau cymorth a llinellau testun i gael cymorth.
If you can’t do this by yourself, ask someone to help you. Mental health crisis and emergencies are serious. You are not a burden, and you are not wasting anyone’s time.
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod angen cymorth brys, mae'n argyfwng.
Os na allwch gadw’ch hun yn ddiogel, mae’n argyfwng. Mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Nid ydych yn gwastraffu amser neb.
Dolenni cyflym i gymorth ac adnoddau lles meddyliol
Adnoddau Hunangymorth
Adnoddau hunangymorth sydd wedi'u cymeradwyo'n broffesiynol i'ch helpu i wella'ch lles meddyliol.
Archwiliwch adnoddau →
Cyrsiau Lles Meddyliol
Cyrsiau manwl i'ch helpu i ddysgu sgiliau i reoli a gwella eich lles meddyliol.
Pori cyrsiau →
Llinellau Cymorth a Chefnogaeth
Gwasanaethau cymorth y gallwch eu cyrraedd dros y ffôn, neges destun, e-bost neu wefannau i helpu i'ch cadw'n ddiogel.
Dod o hyd i linellau cymorth →