Isod fe welwch ddolenni i’ch helpu i ddod o hyd i ystod eang o weithgareddau a chefnogaeth i hybu eich lles yn eich ardal.
Dewiswch opsiwn i fynd i’r adran berthnasol ar y dudalen.
Angen cymorth brys nawr?
Is ydych chi’n teimlo bod angen cymorth brys arnoch nawr, defnyddiwch y cysylltiadau yn y ddolen isod.
Cysylltu
Dod o hyd i gyfleoedd lleol yn eich ardal er mwyn cysylltu ag eraill.
Chwilio cyfleoedd cysylltu →
Bod yn fywiog
Darganfod cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol yn eich ardal er mwyn eich cadw’n fywiog.
Chwilio cyfleoedd bywiog →
Bod yn sylwgar
Darganfod cyfleoedd lleol i aros yn fyfyriol a bod yn ymwybodol o’r presennol.
Chwilio cyfleoedd bod yn sylwgar →
Dal ati i ddysgu
Dod o hyd i gyfleoedd lleol er mwyn parhau i ddysgu pethau newydd.
Chwilio cyfleoedd dysgu →
Rhoi
Dod o hyd i gyfleoedd lleol yn eich ardal er mwyn eu rhoi i eraill yn eich cymuned.
Chwilio cyfleoedd rhoi →
Dewis Cymru
Dewis Cymru yw’r man i fynd iddo os ydych yn chwilio am wybodaeth neu gyngor am les ar eich cyfer chi neu rywun arall. Gallwch bori Dewis Cymru drwy ddewis yr hyn sy’n bwysig i chi a thrwy chwilio yn ôl cod post. Ar bob tudalen ceir dolen i’n cyfeirlyfr adnoddau, lle byddwch yn dod o hyd i sefydliadau a gwasanaethau lleol a chenedlaethol a allai o bosibl eich helpu.

Lles ar gyfer plant a phobl ifanc
Dewiswch ‘Plant a phobl ifanc‘ ac fe ddowch o hyd i ystod o wybodaeth yn ymwneud â
- Bod yn ddiogel a theimlo’n ddiogel,
- Bod yn iach,
- Dysgu a datblygu,
- Cymryd rhan, bod yn gymdeithasol a gwneud cyfraniad cadarnhaol,
- Rheoli arian a chartref
Lles ar gyfer oedolion
Dewiswch ‘Oedolion’ ac fe ddowch o hyd o ystod o wybodaeth yn ymwneud â
- Bod yn iach,
- Bod yn gymdeithasol,
- Bod gartref,
- Bod yn ddiogel,
- Rheol eich arian,
- Gofalu am rywun

Rhwydweithiau Lles Integredig Gwent
Nod y wefan hon yw eich helpu chi a ni i weithio ar y cyd er mwyn cefnogi lles, yn ogystal â darparu gwybodaeth a chyngor ynglŷn â sut y gallwch helpu eich hun, eich teulu, ffrindiau, cymdogion a chymunedau.

Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Gwent (GAVO)
Mae GAVO yn cefnogi ac yn cynghori sefydliadau, grwpiau cymunedol ac unigolion ynglŷn â phob agwedd ar wirfoddoli ac yn darparu hyfforddiant a chyngor i wirfoddolwyr.
Prosiectau lleol gan GAVO
Blaenau Gwent:
Mae Cymunedau ar gyfer Gwaith yn canolbwyntio ar leihau nifer y bobl rhwng 16 a 24 oed sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a chynyddu cyflogadwyedd ymhlith oedolion sy’n economaidd anweithgar / di-waith yn hirdymor.
Caerffili:
Mae’r Tîm Datblygu Iaith Gynnar yn cynorthwyo i gefnogi plant ifanc a theuluoedd ledled y fwrdeistref drwy grwpiau llawn hwyl lle gallant archwilio, chwarae, dysgu a mwynhau iaith.
Sir Fynwy:
Mae Cydlynydd Gofalwyr GAVO yn cefnogi gofalwyr drwy eu cadw’n hysbys a hybu eu lles a’u hawliau. Mae’r Cydlynydd Gofalwyr hefyd yn trefnu teithiau dydd a gweithgareddau llawn hwyl eraill drwy gydol y flwyddyn er mwyn rhoi seibiant gwirioneddol haeddiannol i ofalwyr.
Casnewydd:
Mae Swyddog Cyfranogiad Rhieni Casnewydd GAVO yn rhoi cefnogaeth i rieni a gofalwyr drwy sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a gwneud yn siŵr y gwneir penderfyniadau gyda rhieni ac nid drostynt – gwrandewir ar, a rhoddir ystyriaeth ddifrifol i, bob barn a safbwynt. Gall rhieni hefyd gael cymorth i sefydlu eu grwpiau cefnogi rhieni eu hunain.
Mae’r Tîm Rhaglen Addysg i Gleifion yn darparu ystod wych o gyrsiau a gweithdai hunanreoli iechyd a lles ar gyfer pobl sy’n byw gyda, neu’n gofalu am rywun sydd â, chyflwr iechyd. Mae hyn yn cynnwys: Byw gyda Chyflyrau Iechyd Hirdymor, Byw gyda Phoen Cronig a Chanser – ‘Thriving & Surviving’. Cyflwynir yr holl gyrsiau gan Diwtoriaid Gwirfoddol cyfeillgar, sydd â chyflyrau iechyd tebyg ac sydd wedi bod yn gyfranogwyr ar gwrs Rhaglen Addysg i Gleifion yn y gorffennol. Mewn ymateb i’r cyfnod clo cyntaf, cynigir y cyrsiau hyn nawr yn rhithwir drwy Zoom.

Cynghrair Gwirfoddol Torfaen (TVA)
Mae TVA yn darparu cymorth a chyngor i wirfoddolwyr, y rheini sy’n dymuno dechrau gwirfoddoli a sefydliadau sy’n recriwtio gwirfoddolwyr. Mae TVA yn cefnogi sefydliadau yn y gymuned a datblygiad mentrau cymdeithasol yn Nhorfaen a’r cyffiniau.
Infoengine
Cyfeiriadur o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol sy’n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth yng Nghymru yw Infoengine.
Gallwch ddod o hyd i wasanaethau lleol yn eich ardal drwy ddefnyddio’r bar chwilio ar y dde neu drwy fynd i wefan Infoengine gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Cysylltwyr Cymunedol
Mae Cysylltwyr Cymunedol yn gweithio gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled yr ardal i ddarparu gwybodaeth a chyngor am gefnogaeth, eich helpu i ddod o hyd i weithgareddau yn eich ardal a’ch helpu i gyfarfod â mwy o bobl yn eich cymuned.
Nod Cysylltwyr Cymunedol yw:
- Hybu lles
- Lleihau ynysigrwydd cymdeithasol
- Helpu pobl i deimlo’n rhan o’u cymuned
- Hybu annibyniaeth
- Darparu gwybodaeth a chyngor ynglŷn â grwpiau cymunedol a gweithgareddau addas

Gweithgareddau lleol gan Gysylltwyr Cymunedol
Blaenau Gwent:
Mae gan Gyngor Blaenau Gwent nifer o ‘Gysylltwyr Cymunedol’ sy’n gweithio ledled y fwrdeistref er mwyn ailgysylltu pobl â’u cymunedau. Mae Cysylltwyr Cymunedol hefyd yn gweithio gyda nifer o grwpiau a sefydliadau o fewn cymunedau er mwyn cynorthwyo pobl i ganfod gweithgareddau a grwpiau a allai fod o fudd i’w lles.
Blaenau Gwent 01495 315700
Caerffili:
Mae gan Gyngor Caerffili Gysylltwyr Cymunedol sy’n gweithio gydag oedolion ledled y fwrdeistref. Eu nod fydd ailgysylltu pobl â’u cymunedau drwy eu cynorthwyo i ddod o hyd i weithgareddau a grwpiau addas, gan gysylltu pobl sydd â diddordebau tebyg ac annog cyfranogi o fewn eu cymuned.
Sir Fynwy:
Mae Cysylltiadau Cymunedol yn cefnogi pobl sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol yn Sir Fynwy i deimlo’n rhan o’u cymuned drwy ddarparu cyfeillion gwirfoddol. Rydym yn dod â phobl ynghyd naill ai un i un neu mewn grwpiau gweithgaredd cymdeithasol.
Sir Fynwy 01600 888481
Casnewydd:
Mae Cysylltwyr Cymunedol yn gweithio gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled ardal Casnewydd i ddarparu gwybodaeth a chyngor am gefnogaeth, eich helpu i ddod o hyd i weithgareddau yn eich ardal a’ch helpu i gyfarfod â mwy o bobl yn eich cymuned.
Casnewydd 01633 656656
Torfaen
Mae Cysylltwyr Cymunedol Torfaen yn cefnogi ac yn galluogi pobl i ddod o hyd i weithgareddau, grwpiau a rhwydweithiau addas sy’n uno pobl o’r un bryd a allai fod â diddordebau tebyg. Mae hyn yn helpu i annog cyfranogiad ac ymgysylltiad yn y gymuned ac mae’n meithrin hunanhyder, cadernid a lles.
Torfaen 01495 742397
Dolenni cyflym i adnoddau lles meddyliol
Dewiswch un o’r pynciau isod i ddod o hyd i’r adnoddau lles meddyliol perthnasol