Bywyd ACTif, cwrs Pobl F/fyddar (fideo BSL)
Fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o’r cwrs hynangymorth Bywyd ACTif, sydd ar-lein ac yn rhad ac am ddim ar gyfer pobl a fyddai’n hoffi rhywfaint o gefnogaeth gyda’u llesiant emosiynol a meddyliol. Rydym yn gwybod bod adnoddau hygyrch i gefnogi pobl F/fyddar yn gyfyngedig. Argymhellir y cwrs hwn i bobl a fydd yn gallu darganfod ffyrdd newydd o ymdopi â straen bob dydd, gorbryder a hwyliau isel.
Dyluniwyd “Bywyd ACTif” ar gyfer pob oedolyn ledled Cymru sy’n 16 oed ac yn hŷn sydd eisiau deall eu meddyliau a’u teimladau ac i ddysgu sgiliau ymarferol a fydd yn eu galluogi i ymddwyn mewn ffyrdd a fydd yn gwneud eu bywydau yn fwy difyr.
Wedi’i ddatblygu gan y Seicolegydd Dr Neil Frude, mae’r cwrs am ddim yn cynnwys pedwar fideo ar-lein sy’n bedwar deg munud o hyd. Nid oes rhaid i chi danysgrifio. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am y fideos yma.
Sut i fynychu
Dechreuwch y cwrs drwy glicio ar fideo ACT 1 isod. Mae pedwar fideo a phob un yn para tua 40 munud. Gallwch gael saib ar unrhyw adeg a dod yn ôl atynt os bydd angen i chi gael hoe.
Rydym yn argymell cymryd diwrnod neu ddau rhwng pob fideo er mwyn ymarfer y dysgu.
Adnoddau am ddim a gwybodaeth am y cwrs
Rhagor o wybodaeth →
ACT 1
Lles fyddar – Nid Chi yw Eich Meddw
Dysgwch am sut mae eich Meddwl yn gweithio – a sut y mae’n aml yn gweithio yn eich erbyn. Ond drwy gymryd mwy o reolaeth, gallwch atal eich Meddwl rhag difetha pethau i chi.
ACT 2
Wynebu Eich Bywyd
Rydym yn aml yn gwneud ymdrech fawr i osgoi neu newid pethau na ellir eu newid, a gall hyn wneud pethau’n waeth i ni. Mae’n aml yn well Derbyn.
ACT 3
Bod yn Ystyriol
Mae Ymwybyddiaeth Ofalgar yn ein galluogi i ganolbwyntio mwy ar y presennol – ac mae manteision hyn yn bwerus iawn. Dysgwch sut i ymarfer y grefft o ‘sylwi yn unig’.
ACT 4
Byw yn Ddoeth, Byw yn Dda
Beth sy’n bwysig i chi? Beth ydych chi wir yn poeni amdano? Darganfyddwch sut y gall gweithredu yn unol â’ch gwerthoedd fod y ffordd orau i chi gael bywyd gwell.
Bywyd ACTif datblygwyd gan

Dr Neil Frude
Consultant Clinical Psychologist

Dr Neil Frude
Consultant Clinical Psychologist
Cynhyrchwyd gan

Adnoddau ychwanegol i’ch helpu lles meddwyl
Adnoddau Hunangymorth
Adnoddau hunangymorth sydd wedi'u cymeradwyo'n broffesiynol i'ch helpu i wella'ch lles meddyliol.
Archwiliwch adnoddau →
Cymryd Rhan yn eich Cymuned
Dod o hyd i gyfleoedd yn eich ardal leol i ofalu am eich lles gan gynnwys digwyddiadau a gweithgareddau.
Darganfod mwy →
Llinellau Cymorth a Chefnogaeth
Gwasanaethau cymorth y gallwch eu cyrraedd dros y ffôn, neges destun, e-bost neu wefannau i helpu i'ch cadw'n ddiogel.
Dod o hyd i linellau cymorth →