Cymorth Cyntaf Hunanladdiad ‘Lite’ – Hyfforddiant Rhithwir
Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Hunanladdiad
Trosolwg o’r cwrs:
Gan addysgu theori ac ymarfer sgiliau ymyrraeth hunanladdiad y gellir eu cymhwyso mewn unrhyw leoliad proffesiynol neu bersonol, cyflwynir y rhaglen hon dros 3 awr fel sesiwn ymwybyddiaeth atal hunanladdiad. Dim ond yr hyfforddwyr atal hunanladdiad mwyaf profiadol yr ydym yn eu defnyddio i gyflwyno’r profiad dysgu unigryw hwn: i unrhyw un sydd am gael mwy o ddealltwriaeth a hyder i ymyrryd â phobl sydd mewn perygl o hunanladdiad.
Mae’r cwrs Cymorth Cyntaf Hunanladdiad ‘Lite’ (Rhithwir) yn rhoi’r wybodaeth a’r offer i ddysgwyr ddeall mai hunanladdiad yw un o’r marwolaethau y gellir ei atal fwyaf a gall rhai sgiliau sylfaenol helpu rhywun sy’n meddwl am hunanladdiad i aros yn ddiogel rhag eu meddyliau ac aros yn fyw.
Trosolwg o’r cwrs:
Cyflwynir Cymorth Cyntaf Hunanladdiad ‘Lite’ mewn 2 ran, pob un yn para 90 munud. Mae’r rhaglen yn dysgu’r sgiliau sydd eu hangen i adnabod rhywun a allai fod yn meddwl am hunanladdiad ac i drosglwyddo’r person i swyddog cymorth cyntaf hunanladdiad.
Rhan 1 – 90 munud
- Cyflwyniad i’r sesiwn; y rhaglen, ein hunain ac atal hunanladdiad
- Stigma, Goroeswyr profedigaeth drwy hunanladdiad a’r Niwed Cudd
- Meddyliau hunanladdol ac ymddygiad hunanladdol
- Bwriad ymddygiad o gymharu â Chanlyniad ymddygiad
- Achosion Posibl Meddyliau Hunanladdol
- Hunanladdiad – yr effaith ehangol
–Egwyl–
Rhan 2 – 90 munud
- ‘I’m really glad you told me’ clyweledol
- Canllawiau Diogelwch Hunanladdiad
- Adnabod a holi am hunanladdiad
- Atgyfeirio person at swyddogion cymorth cyntaf hunanladdiad
Mae hyfforddiant Cymorth Cyntaf Hunanladdiad Lite (Rhithwir) yn cynnig canlyniadau dysgu sy’n seiliedig ar wybodaeth ac yn ffeithiol. Gellir defnyddio’r hyfforddiant hwn fel rhaglen ar ei phen ei hun neu fel rhan gyntaf taith i ddysgu sgiliau atal hunanladdiad.
Mae’r rhaglen undydd Cymorth Cyntaf Hunanladdiad drwy Ddeall Ymyriadau Hunanladdiad yn rhaglen gymhwyster City & Guilds ac yn gam nesaf i bobl sydd eisiau dull dysgu mwy manwl sy’n seiliedig ar ymarfer. Mae’r wybodaeth yn SFALV yn hawdd ei deall i bobl o bob lefel sgiliau a’r rheini heb unrhyw wybodaeth flaenorol o’r pwnc. Fe’i cynlluniwyd i ddiwallu anghenion grwpiau rhithwir a gellir ei ddefnyddio fel rhagflaenydd i’r Rhaglen Cymorth Cyntaf Hunanladdiad undydd.
Sail Tystiolaeth:
Dangosodd dau werthusiad annibynnol yn 2016 a 2017 gan Dr Paul Rogers newid ystadegol sylweddol mewn 14 o 19 o fesurau. Roedd mwy o hyder a llai o bryder wrth ddelio â hunanladdiad ymhlith y canlyniadau mwyaf blaenllaw.
Dulliau cyflwyno:
Addysgir dros 3 awr gan ddefnyddio dysgu Socratig wedi’i hwyluso gan diwtor, sesiynau ymarfer dan arweiniad tiwtor, darlithoedd byr, gwaith grŵp a chyflwyniadau clyweledol. Mae rhai elfennau rhyngweithiol ac mae’n brofiad dysgu sy’n ennyn diddordeb emosiynol.
Gofyniad cyn hyfforddi:
Nid oes angen profiad na hyfforddiant blaenorol. Gofynnir i gyfranogwyr hunan-fyfyrio a chydymdeimlo â pherson sy’n meddwl am hunanladdiad. Nid oes disgwyl i gyfranogwyr rannu profiadau personol.
Pwy ddylai fynychu?
Rheolwyr ac ymarferwyr amlsector gan gynnwys iechyd, tai, gofal cymdeithasol, addysg, cyfiawnder troseddol, gweithredwyr canolfannau galwadau, gweithwyr yn y sectorau preifat, gwirfoddol a chyhoeddus a grwpiau neu aelodau cymunedol.
Sut i archebu cwrs:
A fyddech cystal â nodi bod yr hyfforddiant hwn ar gyfer pobl sy’n byw neu’n gweithio yng Ngwent yn unig.
I archebu cwrs wyneb yn wyneb neu i wneud cais am gwrs mewnol ar gyfer eich sefydliad cysylltwch ag un o’n Hyfforddwyr yn uniongyrchol:
Ar gyfer Blaenau Gwent cysylltwch â Sheree yn [email protected]
Ar gyfer Caerffili cysylltwch ag Imogen yn [email protected]
Ar gyfer Sir Fynwy cysylltwch â Bernadette yn [email protected]
Ar gyfer Casnewydd cysylltwch â Lisa yn [email protected]
Ar gyfer Torfaen cysylltwch â Victoria yn [email protected]
Ar gyfer sefydliadau Gwent gyfan cysylltwch â Sarah yn [email protected]
Os ydych y tu allan i sir Gwent a bod gennych ddiddordeb yn y cyrsiau hyn, gweler isod:
I archebu lle ar gwrs ar-lein cliciwch y dolenni isod:
Archwiliwch ragor o ffyrdd o ofalu am eich lles meddyliol
Llinellau Cymorth a Chefnogaeth
Gwasanaethau cymorth y gallwch eu cyrraedd dros y ffôn, neges destun, e-bost neu wefannau i helpu i'ch cadw'n ddiogel.
Dod o hyd i linellau cymorth →
Adnoddau Hunangymorth
Adnoddau hunangymorth sydd wedi'u cymeradwyo'n broffesiynol i'ch helpu i wella'ch lles meddyliol.
Archwiliwch adnoddau →
Cymryd Rhan yn eich Cymuned
Dod o hyd i gyfleoedd yn eich ardal leol i ofalu am eich lles gan gynnwys digwyddiadau a gweithgareddau.
Darganfod mwy →