Skip to main content

Rhaglen Hyfforddiant Connect 5 Gwent

Trainer leading a Gwent Connect 5 Training online

Ydych chi’n gweithio neu’n gwirfoddoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a elwir yn ardal ‘Gwent’ (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd neu Dorfaen)?

Hoffech chi ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd i’ch helpu i wella eich lles meddyliol?

Hoffech chi gael yr hyder, y wybodaeth, y sgiliau a’r adnoddau i gael sgyrsiau effeithiol gydag eraill am eu lles meddyliol?

Hoffech chi ddatblygu mwy o ymwybyddiaeth a dysgu strategaethau ar gyfer hunan-dosturi?

Os ydych, yna mae Connect 5 Gwent i chi!

Isod fe welwch ddolenni i’ch helpu i ddysgu mwy am raglen Connect 5 Gwent. Dewiswch opsiwn i fynd i lawr i’r adran berthnasol ar y dudalen.

Ydych chi’n poeni ammdanoch eich hun neu rywun arall?

Os ydych chi’n poeni amdanoch eich hun, rhywun sy’n annwyl i chi, ffrind neu gydweithiwr, mae’n bwysig ceisio cymorth.

Ceisio cymorth nawr

Beth yw Connect 5 Gwent?

Mae Connect 5 Gwent yn fwy na dim ond rhaglen hyfforddi – mae’n fenter gweithlu lles meddyliol.

Mae’n darparu:

  • Hyfforddiant o ansawdd uchel wedi’i ariannu’n llawn
  • Mynediad at ddysgu drwy ddeunyddiau cwrs cynhwysfawr]
  • Cyfeirio at ffynonellau eraill o wybodaeth ynghylch iechyd meddwl a lles
  • Cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwyr.

Ei nod yw gwreiddio diwylliant o dosturi mewn sefydliadau lleol drwy arfogi staff â’r wybodaeth a’r sgiliau i wella eu lles meddyliol eu hunain, yn ogystal â chael yr hyder a’r adnoddau i gael sgyrsiau effeithiol ag eraill.

Gwent Connect 5 Course
Taflen Connect 5 Gwent
Taflen Connect 5 Gwent

Gweld y daflen ar-lein fyw.

Dim ond yn Saesneg y mae hon ar gael.

Lawrlwytho nawr ↓

Taflen Connect 5 Gwent
Poster Connect 5 Gwent

Gweld y daflen ar-lein fyw.

Dim ond yn Saesneg y mae hon ar gael.

Lawrlwytho nawr ↓

Beth yw diben Connect 5 Gwent?

Mae Connect 5 Gwent yn rhoi gwybodaeth a sgiliau i gyfranogwyr yr hyfforddiant i wella eu lles meddyliol eu hunain. Mae hefyd yn cynyddu eu hyder i gael sgyrsiau pob dydd am iechyd a lles meddyliol gan gynnwys ymwybyddiaeth o hunanladdiad.

Mae hyfforddiant Connect 5 Gwent yn darparu pecyn cymorth atal cydweithredol seiliedig ar dystiolaeth sy’n hyrwyddo gwybodaeth, dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth seicolegol a datblygiad sgiliau. Mae hyn yn annog y rheini sydd wedi’u hyfforddi i ofalu am eu hunain a hefyd cefnogi’r bobl y maent yn cysylltu â nhw i wneud hynny.

Group of people talking at a table

Modiwlau Hyfforddiant

Mae tri modiwl hyfforddiant a phob un yn gynyddol o ran sgiliau. Nid oes angen i’r cyfranogwyr fynychu pob un o’r tri modiwl ond rhaid eu mynychu mewn modd dilynol.

Level 1, brief advice

Modiwl 1
Cyngor Byr (Hanner Diwrnod)

Cyflwyniad i Connect 5 Gwent ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwella ei les meddyliol ac sydd â’r cyfle i roi cyngor byr am les.

Level 2, brief interventions

Modiwl 2
Ymyriad Byr (Hanner Diwrnod)

Mae hwn yn adeiladu ar Fodiwl 1 fel bod cyfranogwyr yn deall anghenion lles ac yn gallu cynnig ymyriadau lles byr untro fel rhan o’u rôl.

Level 3, extended brief interventions

Modiwl 3
Ymyriad Byr Estynedig (Hanner Diwrnod)

Ehangu ar y wybodaeth a’r sgiliau a ddatblygwyd ym modiwlau 1 a 2 er mwyn ysgogi a chefnogi pobl i wneud newidiadau i wella eu hiechyd a lles meddyliol.

Training Connect 5

Faint mae’n gostio?

Mae rhaglen hyfforddiant Connect 5 Gwent am ddim ac wedi’i hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Certificate

Beth sydd wedi’i gynnwys?

Bydd yr holl gyfranogwyr yn derbyn copïau o adnoddau hyfforddiant Connect 5 Gwent, gwybodaeth ynglŷn â lle i ddod o hyd i adnoddau lleol yn ogystal â thystysgrif presenoldeb. Trwy gofrestru gan ddefnyddio Offeryn Rheoli Digwyddiad Connect 5 Gwent gallwch gael mynediad at yr adnoddau hyn a dilyn eich cynnydd.

Sut cyflwynir Connect 5 Gwent?

Ar hyn o bryd cyflwynir y 3 ar-lein. Y platfform a ffafrir yw Zoom, er y gall rhai hyfforddwyr eu cyflwyno drwy Microsoft Teams. Pan fydd y canllawiau pellter cymdeithasol yn caniatáu hynny, cynigir y cwrs wyneb yn wyneb hefyd.

Pwy sy’n darparu’r hyfforddiant yng Ngwent?

Darperir Connect 5 Gwent gan:

  • ‘Hyfforddwyr mewnol’ o sefydliadau/cyflogwyr lleol mawr (gweler rhestr o’r sefydliadau sy’n cymryd rhan isod) a;
  • Hyfforddwyr profiadol o sefydliadau iechyd meddwl nid er elw lleol (gweler y manylion isod).

Mae ein holl hyfforddwyr wedi mynychu cwrs Hyfforddiant i Hyfforddwyr Connect 5 Gwent ac yn cytuno i gefnogaeth, hyfforddiant a sicrwydd ansawdd parhaus ar gyfer eu darpariaeth. Gweler rhestr o’n hyfforddwyr isod.

Anogir cyflogwyr mawr lleol i gyflwyno’r hyfforddiant yn fewnol. Mae rhaglen Connect 5 Gwent yn darparu mynediad at gwrs Hyfforddiant i Hyfforddwyr am ddim. Mae gan Hyfforddwyr Connect 5 Gwent fynediad at ddeunyddiau hyrwyddo diderfyn, deunyddiau hyfforddi a chymorth parhaus gan dîm y rhaglen a’u cymheiriaid. Os ydych chi eisiau ymuno â’n tîm o Hyfforddwyr, gweler isod.

 

 

Gweler rhestr o hyfforddwyr lleol isod ↓

Training video

Sut ydw i’n archebu lle?

Os nad ydych yn gweithio i un o’r sefydliadau uchod, ond yn gweithio neu’n gwirfoddoli yn ardal BIP AB/Gwent yna cofrestrwch trwy glicio ar y dolenni isod i ddod o hyd i gyrsiau lleol.

Os na allwch ddod o hyd i gwrs ar ddyddiad sy’n addas i chi, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am Connect 5 Gwent, cysylltwch â ABB.InfoGC5@wales.nhs.uk

Beth sydd ei angen i ddod yn Hyfforddwr Connect 5 Gwent?

  • Oes gennych chi ddiddordeb mewn iechyd meddwl a lles?
  • Ydych chi’n berson tosturiol?
  • Ydych chi’n angerddol am wella lles meddyliol pobl eraill?
  • Hoffech chi ddatblygu sgiliau newydd a dod yn Hyfforddwr Connect 5 Gwent?

Os felly, efallai yr hoffech chi gael gwybod sut i ymuno â’n Tîm Hyfforddi Connect 5 Gwent ysbrydoledig.

Mae rhaglen Connect 5 Gwent yn darparu’r canlynol i’n holl Hyfforddwyr Connect 5 Gwent:

  • Cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwr (T4T) wedi’i ariannu’n llawn, cefnogaeth barhaus a DPP.
  • Cefnogaeth Rhwydwaith Hyfforddwyr Cymheiriaid.

Deunyddiau hyrwyddo a hyfforddi am ddim i’ch helpu i wreiddio ethos Connect 5 Gwent yn eich sefydliad a/neu gymunedau lleol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am ddod yn Hyfforddwr Connect 5 Gwent yna cysylltwch ag ABB.InfoGC5@wales.nhs.uk

Byddem yn hoffi clywed gennych!

I gael rhagor o wybodaeth gweler Taflen Wybodaeth Connect 5 Gwent:
Information Sheet Icon
Taflen Wybodaeth Connect 5 Gwent

Gweld y manylion. (Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael).

Lawrlwtho nawr ↓

Information Sheet Icon
Taflen Wybodaeth Connect 5 Gwent

Gweld y manylion. (Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael).

Lawrlwtho nawr ↓

A yw eich sefydliad eisiau gwella lles gweithwyr?

  • Ydych chi eisiau helpu i feithrin diwylliant o dosturi drwy arfogi staff â’r wybodaeth a’r sgiliau i gael sgyrsiau effeithiol am les meddyliol?
  • Ydych chi eisiau helpu i feithrin diwylliant o dosturi drwy arfogi staff â’r wybodaeth a’r sgiliau i gael sgyrsiau effeithiol am les meddyliol?

Ydych am ddarparu mynediad i staff at raglen hyfforddi ryngweithiol o ansawdd uchel, y profwyd ei bod yn gwella eu gwybodaeth a’u sgiliau i wella eu lles meddyliol?

Os felly, darganfyddwch sut y gall Rhaglen Connect 5 Gwent gefnogi’r weledigaeth hon drwy gysylltu â’n Tîm Rhaglen yn ABB.InfoGC5@wales.nhs.uk

Mae Connect 5 Gwent yn rhan o Raglen Lles Emosiynol a Meddyliol leol ehangach, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a reolir gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.