Deall Trawma
Cwrs ar-lein am ddim, wedi’i recordio ymlaen llaw, yw hwn sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddeall symptomau trawma cyffredin a datblygu sgiliau ymdopi syml er mwyn eu rheoli.
Bydd pob sesiwn yn cymryd tua 20-25 munud i’w chwblhau. Bydd y sesiwn yn edrych ar un o symptomau trawma ac yn rhoi arweiniad ar sgiliau ymdopi i’ch helpu i’w rheoli a chefnogi eich adferiad.
Sut i fynychu
Dechreuwch y cwrs trwy glicio ar y fideo Sesiwn 1 isod. Mae pum fideo, pob un yn para tua 20 munud. Gallwch seibio’r fideos unrhyw bryd a dod yn ôl atynt os oes angen seibiant arnoch.
Rydym yn argymell cael ychydig ddyddiau rhwng pob fideo fel y gallwch ymarfer y dysgu.
Cynhyrchwyd gan
Sesiwn 1
Beth yw Trawma?
Nod y sesiwn hon yw ein helpu i ddeall adweithiau i drawma drwy edrych ar ddiffiniadau o drawma, sut mae profiadau trawmatig yn effeithio ar yr ymennydd a sut rydym yn prosesu digwyddiadau. Mae’n cynnwys sgiliau ymdopi anadlu sylfaenol ac ystyriol.
Sesiwn 2
Gorbryder ac Osgoi
Mae’r sesiwn hon yn edrych ar symptomau pryder a’r effaith ar ein cyrff. Mae’n ein helpu i ddeall pam y gall rhywun droi at ymddygiad osgoi i reoli’r gorbryder a sut i ddatblygu sgiliau ymdopi er mwyn rheoli hyn. Mae’r sgil ymdopi y rhoddir sylw iddi yn y sesiwn hon yn dechneg ymwybyddiaeth ofalgar i helpu i reoli meddyliau digroeso.
Sesiwn 3
Gor-effrogarwch
Mae’r sesiwn hon yn edrych ar or-effrogarwch, sy’n gyflwr uwch o ymwybyddiaeth sy’n gyffredin ar ôl profi digwyddiad trawmatig. Mae hefyd yn archwilio’r Ffenestr Goddefgarwch, sef y parth lle gallwn weithredu a rheoli ein hemosiynau. Y sgil ymdopi sy’n cael sylw yn y sesiwn hon yw anadlu lliw.
Sesiwn 4
Symptomau Ail-fyw
Mae’r sesiwn hon yn edrych ar reoli symptomau ail-fyw megis ôl-fflachiau, hunllefau a meddyliau ymwthgar. Y sgil ymdopi sy’n cael sylw yn y sesiwn hon yw ymlacio cyhyrau cynyddol.
Sesiwn 5
Lles a Gweithrediad
Yn ogystal â’r symptomau cyffredin yn y sesiynau blaenorol, mae’r fideo hwn yn archwilio sut y gall trawma effeithio ar ein lles cyffredinol. Yma rydym yn rhoi sylw i hwyliau, cwsg a pherthynas ac yn pwysleisio pwysigrwydd hunanofal a hunan-dosturi. Y sgil ymdopi yn y sesiwn hon yw’r ymarfer golau iachau.
Archwiliwch ragor o ffyrdd o ofalu am eich lles meddyliol
Llinellau Cymorth a Chefnogaeth
Gwasanaethau cymorth y gallwch eu cyrraedd dros y ffôn, neges destun, e-bost neu wefannau i helpu i'ch cadw'n ddiogel.
Dod o hyd i linellau cymorth →
Adnoddau Hunangymorth
Adnoddau hunangymorth sydd wedi'u cymeradwyo'n broffesiynol i'ch helpu i wella'ch lles meddyliol.
Archwiliwch adnoddau →
Cymryd Rhan yn eich Cymuned
Dod o hyd i gyfleoedd yn eich ardal leol i ofalu am eich lles gan gynnwys digwyddiadau a gweithgareddau.
Darganfod mwy →