Dileu Deurywioldeb – Beth yw hyn, a sut y gall effeithio ar eich iechyd meddwl
Rhybudd sbarduno: Cyfeiriadau at ddeuffobia a dileu deurywioldeb, gan gynnwys sylwadau niweidiol a ffug yn ogystal â datganiadau a gymerwyd o ffynonellau.
Diffinnir deurywiol fel “atyniad rhamantus neu rywiol tuag at fwy nag un rhyw.” (Source) Gallai deurywioldeb ymddangos fel cysyniad modern, ond nid ydyw mewn gwirionedd. Mae wedi bod o gwmpas ers amser maith, mewn llawer o ddiwylliannau, o’r Groegiaid Hynafol i’r Americanwyr Brodorol. Fodd bynnag, drwy gydol hanes, er bod deurywioldeb wedi bodoli, felly hefyd mae dileu deurywioldeb.
Beth yw Dileu Deurywioldeb?
Mae pobl ddeurywiol yn cyfrif am dros 52% o’r gymuned LHDTC+ (Source) ond yn anffodus, er gwaethaf hyn, mae eu profiadau’n aml yn cael eu mudo gan y cyhoedd, y cyfryngau a hyd yn oed y gymuned cwiar (Source). Bydd pobl ddeurywiol+ yn aml yn siarad am deimlo rhwng dwy stôl, bod yn “rhy hoyw” i’r bobl syth, ac yn “rhy syth” i’r gymuned LHDTC+.
O ganlyniad, mae dileu deurywioldeb yn digwydd. Yn ôl The Bisexuality Invisibility Report (Source), mae dileu deurywioldeb “yn cyfeirio at ddiffyg cydnabyddiaeth ac anwybyddu’r dystiolaeth glir bod pobl ddeurywiol yn bodoli.”
Dros y blynyddoedd, yn enwedig ar ddechrau’r 2000au, daeth y gair ‘hoyw’ i ddod yn gyfystyr â’r pethau y mae’r rhan fwyaf o fechgyn ifanc yn cael eu dysgu (gan gymdeithas) i’w hofni: gwendid, sensitifrwydd, methiant, diffyg corfforoldeb. Yn ogystal â gwneud i ddynion hoyw ofni eu rhywioldeb, gwnaeth y stereoteipiau niweidiol hyn effeithio hefyd ar ddynion deurywiol. Pan fyddai bachgen (yn enwedig un yr oedd pawb yn ‘tybio’ ei fod yn hoyw yn flaenorol) yn dod allan yn ddeurywiol+, byddai rhai pobl yn cymryd yn ganiataol ei fod yn hoyw mewn gwirionedd, ond ddim yn barod i gyfaddef hynny. Enghraifft gymharol adnabyddus o hyn yw pan ddaeth YouTuber Dan Howell allan yn hoyw a disgrifio’r profiad hwn yn fanwl.
Caiff merched deurywiol ifanc (weithiau, neu gallant gael) eu labelu fel rhai sy’n “chwilio am sylw” os ydynt yn cusanu merch arall ac ar unwaith byddant yn cael eu hystyried yn fwy llac eu moesau hefyd (Source).
Sut ydych chi’n diffinio Deuffobia?
Deuffobia yw “ofn, neu atgasedd at, rywun sy’n uniaethu’n ddeurywiol yn seiliedig ar ragfarn neu agweddau, credoau neu farn negyddol am bobl ddeurywiol. Gall hyn hefyd gynnwys gwadu, neu wrthod derbyn, hunaniaeth ddeurywiol rhywun. Gall deuffobia gael ei dargedu at bobl sy’n ddeurywiol, neu y canfyddir eu bod yn ddeurywiol.” (Source).
- Dyma rai enghreifftiau o sut mae deuffobia i’w weld:
- Cam-labelu pobl enwog deurywiol+ fel lesbiaidd, hoyw neu heterorywiol.
- Tybio os yw person deurywiol+ gyda pherson sy’n uniaethu fel rhyw gwahanol eu bod yn syth, neu os yw gyda rhywun sy’n uniaethu fel rhywun o’r un rhyw, eu bod yn hoyw.
- Gwadu bod deurywioldeb yn bodoli fel cyfeiriadedd cyfreithlon, megis dweud “Dim ond cyfnod yw e.” Neu ddweud bod pobl ddeurywiol yn ‘arbrofi’ cyn dod allan fel hoyw neu syth.

Canlyniadau Dileu Deurywiol ar Iechyd Meddwl
Mae sylwadau deuffobia a deuffobig yn fath o stigma, ac mae llawer o dystiolaeth bod unrhyw fath o stigma yn ddrwg i iechyd meddwl. Yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl, “Gall problemau iechyd meddwl fel iselder, hunan-niweidio, camddefnyddio alcohol a chyffuriau a meddyliau hunanladdol effeithio ar unrhyw un, ond maent yn fwy cyffredin ymhlith pobl sy’n LHDTC+. Nid yw bod yn rhan o’r gymuned LHDTC+ yn achosi’r problemau hyn. Ond gall rhai pethau y mae pobl LHDTC+ yn mynd drwyddynt effeithio ar eu hiechyd meddwl, fel gwahaniaethu, homoffobia neu drawsffobia, ynysigrwydd cymdeithasol, cael eu gwrthod, a phrofiadau anodd o ddod allan. Dangosodd astudiaeth yn 2017 a gyhoeddwyd yn The Journal of Sex Research fod gan bobl ddeurywiol+ gyfraddau uwch o bryder ac iselder na phobl heterorywiol, lesbiaidd neu hoyw. Penderfynodd yr ymchwilwyr mai anweledigrwydd a dileu deurywioldeb oedd un o’r prif resymau posibl am hyn.
Os bydd dileu deurywioldeb ei hun yn cael ei ddileu, gallai’r ynysigrwydd y mae llawer o bobl ddeurywiol+ yn ei deimlo gael ei leihau, gan ostwng cyfraddau problemau iechyd meddwl, megis iselder.
Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl hefyd yn dweud, “Mae’n bwysig nodi y gall cofleidio bod yn LHDTC+ gael effaith gadarnhaol ar les rhywun hefyd. Gallai olygu bod ganddynt fwy o hyder, ymdeimlad o berthyn i gymuned, teimladau o ryddhad a hunan-dderbyn, a gwell perthynas gyda ffrindiau a theulu.”
Sut i Gefnogi Pobl Deurywiol+ a Brwydro yn erbyn Deuffobia
Un o’r pethau gorau y gallwch chi ei wneud i gefnogi pobl ddeurywiol yw eu credu. Fel y trafodir yn y blog hwn, mae pobl ddeurywiol+ yn bodoli ac mae pob hunaniaeth ddeurywiol yn ddilys.
Dyma rai pethau eraill y gallwch chi eu gwneud i gefnogi pobl ddeurywiol+:
- Peidiwch â gwneud unrhyw ragdybiaethau am hunaniaeth rhywun ar sail eu partner(iaid) presennol neu flaenorol. Dylech gael eich arwain gan yr iaith y maent yn ei defnyddio i ddisgrifio eu hunain.
- Codwch a chefnogwch bobl ddeurywiol sydd wedi’u hymyleiddio. Mae pobl ddeurywiol sydd hefyd yn BAME (Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig), traws a POC (pobl o liw) yn cael eu tangynrychioli, eu dileu ac yn dioddef gwahaniaethu ddwywaith.
- Defnyddiwch iaith gynhwysol. Gallwch ddileu pobl ddeurywiol+ yn hawdd wrth ddefnyddio termau megis ‘hoyw’ fel term cyffredinol.
- Cefnogwch sefydliadau ac ymgyrchoedd deurywiol, megis BiPhoria, Pride UK a Stonewall.
- Anogwch eich gweithle, prifysgol neu ysgol i fod yn gynhwysol.
- Cefnogwch eich ffrindiau deurywiol+, rhowch hwb i’w bywydau a’u perthnasoedd.
- Dathlwch bobl ddeurywiol! Ymhelaethwch ar straeon pobl ddeurywiol+, ymgysylltu â’u cynnwys a rhoi lle i’w profiadau.
Mae pobl ddeurywiol+ yn haeddu’r un parch, cefnogaeth ac amlygrwydd ag y mae aelodau eraill o’r gymuned Lesbiaidd a Hoyw yn eu cael. Mae eu hunaniaeth yn ddilys, ac wrth i’r mythau cyffredin hyn gael eu chwalu bydd eu profiadau bywyd yn cael y gwelededd y maent yn ei haeddu.
Nôl i’r newyddion
I weld cynghorion ac adnoddau am lesiant, ewch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a dysgu mwy!