Cymorth a chefnogaeth iechyd meddwl a lles ar gyfer teimladau neu symptomau penodol.
Mae Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, neu ADHD, yn anhwylder niwroddatblygiadol. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau dibynadwy i’ch helpu i ddeall a rheoli ADHD yn well.
Dysgu mwy ➝Cyflwr iechyd meddwl yw anhwylder bwyta. Mae pobl sydd ag anhwylderau bwyta yn defnyddio bwyta di-drefn i ymdopi â sefyllfaoedd neu deimladau anodd.
Dysgu mwy ➝Mae awtistiaeth yn gyflwr datblygiadol gydol oes sy’n effeithio ar sut mae rhywun yn meddwl ac yn teimlo a sut mae’n cyfathrebu ac yn rhyngweithio â’r byd o’i gwmpas. Gall awtistiaeth ddigwydd gyda chyflyrau iechyd meddwl a niwroddatblygiadol eraill, megis gorbryder, iselder, ADHD ymhlith eraill.
Dysgu mwy ➝Mae dicter yn emosiwn dynol normal y bydd pawb ohonom yn debygol o’i brofi rywbryd. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau dibynadwy i’ch helpu i ddeall a rheoli dicter yn well.
Dysgu mwy ➝Gellir disgrifio gorbryder fel teimlad o anesmwythder, fel ofn neu bryder. Mae'n normal i deimlo'n bryderus am bethau bywyd bob dydd. Mae teimladau o bryder fel arfer yn mynd heibio. Rydym wedi coladu adnoddau ar gyfer ymdopi â phryder a sut i reoli bod yn bryderus.
Dysgu mwy ➝Rydyn ni i gyd yn teimlo'n isel neu wedi cael llond bol o bryd i'w gilydd. Mae teimlo'n isel fel arfer yn para ychydig ddyddiau neu wythnosau, ac yna mae ein hwyliau'n dychwelyd i normal. Rydym wedi coladu adnoddau i'ch helpu gyda'r teimladau hwyliau isel hynny i'ch helpu i ymdopi.
Dysgu mwy ➝Mae'n arferol i ni deimlo'n isel neu wedi cael llond bol o bryd i'w gilydd. Os nad yw hwyliau isel yn mynd i ffwrdd gall fod yn arwydd o iselder. Dewch o hyd i gyrsiau rhad ac am ddim, adnoddau a ffynonellau cymorth i'ch helpu gyda theimladau o iselder.
Dysgu mwy ➝Os yw straen yn effeithio ar eich bywyd mewn ffordd negyddol, mae yna bethau rydych chi'n ceisio eu helpu eich hun. Dyma gasgliad o ddeunyddiau i'ch helpu i ymdopi â lefelau straen uchel.
Dysgu mwy ➝Ein nod yw darparu gwybodaeth gymeradwy, cyngor, adnoddau am ddim a chyrsiau i'ch helpu i ofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles eich hun. Gwefan yw Melo ac nid gwasanaeth iechyd meddwl. Felly ni allwn ddarparu cyngor na chymorth unigol.
Os oes angen cyngor neu gefnogaeth arnoch ar gyfer eich iechyd meddwl yna cysylltwch ag un o'r llinellau cymorth a restrir ar ein gwefan.
Archwiliwch weddill ein categorïau pwnc trwy glicio ar y dolenni isod.
Eich helpu i ofalu am eich iechyd a lles corfforol a meddyliol o ddydd i ddydd.
Help i ofalu am eich lles meddyliol pan fyddwch chi’n profi sefyllfaoedd neu adegau anodd yn eich bywyd.
Cymorth a chefnogaeth ar gyfer cyflyrau emosiynol, teimladau a chyflyrau iechyd meddwl penodol.