Skip to main content

Ffyrdd o Leihau Symptomau Straen – #DiwrnodYmwybyddiaethStraen

Oct 31, 2022

Ymateb arferol i sefyllfaoedd yr ydym yn teimlo sy’n fygythiol, yn wahanol, neu pan fyddwn yn teimlo nad oes gennym lawer o reolaeth dros sefyllfa yw straen. Mae’n rhan o fywyd pob dydd. Mae pawb ohonom yn teimlo straen yn wahanol.

 Isod mae rhai o arwyddion mwyaf cyffredin straen:

  • Cur pen
  • Chwysu
  • Problemau stumog
  • Tensiwn yn y cyhyrau
  • Teimlo’n flinedig neu’n benysgafn
  • Problemau rhywiol
  • Ceg sych
  • Prinder anadl
  • Poeni am y dyfodol neu’r gorffennol
  • Dychmygu’r gwaethaf
  • Bod yn anghofus
  • Methu canolbwyntio
  • Teimlo’n bigog
  • Meddyliau’n rasio
  • Gwneud camgymeriadau
  • Teimlo’n isel
  • Crio
  • Bwyta mwy neu lai
  • Cnoi eich ewinedd
  • Osgoi pobl eraill
  • Problemau cysgu
  • Cynnydd yn y defnydd o alcohol neu gyffuriau

Mae 74% o oedolion yn y DU wedi teimlo cymaint o straen ar ryw adeg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf fel eu bod yn teimlo wedi’u llethu neu’n methu ag ymdopi.

Fodd bynnag, er nad yw sefyllfaoedd llawn straen byth yn diflannu, mae yna ffyrdd i’ch helpu i ymdopi, gan gynnwys pethau y gallwch chi roi cynnig arnynt eich hun!

Stressed woman looking through window

Sut alla i helpu fy hun?

Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i leihau symptomau straen:

Cadw dyddiadur straen ✍️

Os nad ydych yn siŵr beth sy’n achosi’ch straen, fe allai fod o gymorth i gadw dyddiadur straen am ychydig wythnosau.

Gallwch ysgrifennu ynddo pan fyddwch yn teimlo dan straen neu gofnodi beth sy’n gwneud i chi deimlo felly a bydd hyn wedyn yn eich helpu i atal neu ragweld sefyllfaoedd sy’n achosi straen.

Gall hefyd eich helpu i adnabod eich ‘sbardunau’ – dyma’r pethau sy’n gwneud i chi deimlo dan straen. Gall gweithio allan beth yw’r rhain eich helpu i gael mwy o reolaeth dros eich lefelau straen.

Cael cyngor ymarferol 🔍

Ewch i’n tudalen ‘Rheoli Straen‘ – lle cewch wybodaeth a chyngor defnyddiol ar sut i helpu i reoli eich straen. Mae llawer o fannau lle gallwch gael cyngor ymarferol ar wahanol faterion.

Er enghraifft, efallai y byddwch am gael cyngor ar y canlynol:

Gallwch ddod o hyd i fanylion y gwahanol sefydliadau sy’n rhoi cyngor ymarferol ar ein gwefan.

Rhoi cynnig ar Gwrs Am Ddim 📖

Mae nifer o gyrsiau am ddim ar gael ar Melo a all eich helpu i reoli eich lefelau straen.

Space from Stress – Silvercloud

Gyda ffocws ar wytnwch, mae’r rhaglen hon ar gyfer rheoli straen yn eich helpu i nodi a gwella eich cryfderau a’ch sgiliau presennol a datblygu rhai newydd. Rhaglen ragweithiol ac ymarferol yw hon a ddatblygwyd ar y cyd ag arbenigwyr pwnc a chlinigol blaenllaw sy’n rhoi’r offer a’r technegau i chi reoli straen a dod â chydbwysedd i’ch bywyd.

Cliciwch yma i gofrestru

ACTivate Your Life

Mae’r cwrs fideo ar-lein ‘Activate Your Life’ yn rhannu ffyrdd ymarferol o ymdopi â meddyliau a theimladau sy’n achosi trallod a helpu i fyw bywyd gyda mwy o hyder.

Cliciwch yma i gofrestru

Be Mindful

Yr unig gwrs Therapi Gwybyddol Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar digidol. Wedi’i asesu gan y GIG ac un yr ymddiriedwyd ynddo ers dros ddegawd, mae’r cwrs therapiwtig digidol hygyrch hwn ar y we wedi’i brofi’n effeithiol gan astudiaethau clinigol cyhoeddedig i leihau lefelau straen, pryder ac iselder yn sylweddol ac yn aml mae’n sicrhau canlyniadau sy’n newid bywydau cyfranogwyr.

Cliciwch yma i gofrestru

Rheoli eich arian 💰​​

Gall arian achosi llawer o broblemau a gall greu llawer o straen.

Os ydych chi’n poeni am arian, mae yna fannau y gallwch gael cyngor a chymorth, fel StepChange, Cyngor ar Bopeth a’r Llinell Ddyled Genedlaethol. Ewch i’n tudalen Pryderon Ariannol – https://www.melo.cymru/topic/money-worries/ lle cewch wybodaeth am y gwasanaethau hyn a mwy. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ar sut i wirio a oes gennych hawl i unrhyw daliadau gan y Llywodraeth.

Os yw’r argyfwng costau byw yn achosi straen i chi, ewch i dudalen Cymorth gyda Chostau Byw Aneurin Bevan lle gallwch ddod o hyd i gymorth ar gyfer cadw’n iach, yn ogystal â chymorth gydag arian a biliau ynni.

Cynllunio eich amser ⏳​

Os yw bod mewn rheolaeth o’ch amser yn gwneud i chi deimlo llai o straen, dyma rai syniadau a allai eich helpu:

  • Ysgrifennwch restrau o’r hyn sydd angen i chi ei wneud
  • Blaenoriaethwch y tasgau pwysicaf
  • Rhannwch dasgau ag eraill os gallwch
  • Peidiwch â gohirio gwneud pethau
  • Gosodwch gamau a nodau i’ch hun ar gyfer tasgau cymhleth
  • Gwobrwywch eich hun am unrhyw gyflawniadau

Siarad â rhywun 🗣️​

Gall dweud wrth rywun sut rydych chi’n teimlo helpu gyda straen. Efallai y byddai’n well gennych siarad â rhywun rydych yn ei adnabod, yn yr un modd efallai y byddai’n well gennych siarad â chwnselydd neu ffonio llinell gymorth emosiynol.

Gwneud newidiadau ffordd o fyw

Cyfyngu ar faint o gaffein rydych yn ei gael ☕️​

Gallai lleihau eich cymeriant caffein eich helpu i gysgu’n well, yn enwedig os byddwch yn cyfyngu arno gyda’r hwyr. Gallech roi cynnig ar de llysieuol neu ddiod llaethog cynnes yn lle caffein.

Ymarfer corff 🏃‍♂️​

Gall gweithgaredd corfforol eich helpu i reoli a lleddfu straen. I gael gwybod mwy, ewch i’n tudalennau ar: 5 Ffordd at Les a Bod yn egnïol i gael rhagor o wybodaeth.

Os nad ydych chi’n hoff o fynd i’r gampfa, neu os nad ydych awydd rhedeg yn eich ardal leol, fe allech chi roi cynnig ar gerdded, neu wneud ymarfer corff ar-lein am ddim. Mae gwneud gwaith tŷ neu arddio hefyd yn ffordd wych o ymarfer corff!

Cysgu 😴

Gall straen effeithio ar eich cwsg, ac os na fyddwch chi’n cael digon ohono, gall achosi problemau fel canolbwyntio gwael a hwyliau gwael. Gall problemau cwsg hirdymor arwain at broblemau iechyd meddwl fel gorbryder ac iselder.

Os ydych chi’n cael trafferth gyda chwsg, gallwch chi roi cynnig ar rai o’n hawgrymiadau yn ein hadran cyngor hunangymorth:

  • Bod â threfn amser gwely rheolaidd
  • Cyfyngu ar amser sgrin cyn cysgu
  • Gwneud yn siŵr bod y lle rydych chi’n cysgu yn daclus

Os bydd eich problemau cwsg yn digwydd sawl gwaith yr wythnos, wedi parhau am fisoedd er gwaethaf rhoi cynnig ar arferion cysgu iachach, yna fe allech chi siarad â’ch meddyg teulu.

Bwyta diet cytbwys 🍲

Mae bwyta diet iach yn dda i’ch iechyd meddwl a chorfforol. Mae dilyn diet cytbwys iach yn golygu bod ein cyrff yn cael yr holl ddaioni sydd ei angen arnynt i weithio’n dda, a gall helpu ein cyrff i reoli’r newidiadau ffisiolegol a achosir gan straen.

Gwneud rhywbeth neis i chi’ch hun bob dydd 😌

Mae’n bwysig gwneud rhai pethau oherwydd eich bod chi eisiau eu gwneud, nid oherwydd bod yn rhaid i chi eu gwneud. Gallai hyn gynnwys darllen llyfr, anadlu’n ystyriol neu wylio ffilm.

Ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar 🧘‍♂️

Gallwch ddod o hyd i riliau anadlu ystyriol ar ein huchafbwyntiau Instagram!

Nôl i’r newyddion

I weld cynghorion ac adnoddau am lesiant, ewch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a dysgu mwy!