Her 5 Diwrnod 5 Ffordd: Y cyfan sydd angen i chi ei wybod
#5Diwrnod5ffrodd
Mae’r 5 Ffordd at Les yn ffyrdd hawdd, seiliedig ar dystiolaeth i wella eich lles meddyliol, sef:
- Cysylltu
- Bod yn Fywiog
- Bod yn Sylwgar
- Dal ati i Ddysgu
- Rhoi
Rydym am eich herio i roi cynnig arnynt drosoch eich hun drwy gydol yr haf a gweld pa wahaniaeth mae hynny’n ei wneud i’ch lles meddyliol.
Ar gyfer pwy mae’r her hon?
Ar gyfer pwy mae’r her hon? Yr hyn sy’n dda am y 5 Ffordd at Les yw y gall unrhyw un eu gwneud! Felly os ydych chi eisiau gwella eich lles meddyliol, neu os ydych yn chwilio am her sy’n hwyl i’w gwneud dros yr haf, rhowch gynnig ar y #5Diwrnod5Ffordd.
Cyngor da! Cynhwyswch eich teulu, ffrindiau a chydweithwyr hefyd; mae’n ffordd llawn hwyl i gysylltu a helpu pawb i wella eu lles meddyliol. Gallwch hefyd rannu cynghorion a syniadau er mwyn helpu i gadw’ch cymhelliant!
Sut i gymryd rhan?
Yn ffodus, er mwyn gwneud yr her 5Diwrnod5Ffordd nid oes angen i chi ymrwymo i gynllun, neu hyd yn oed gofrestru! Y cyfan sydd angen i chi ei wneud i gymryd rhan yw lawrlwytho ein dalenni 5 Ffordd (cynlluniwr Wythnosol neu Ddalen Un Ffordd, chi sydd i ddewis!) a chofnodi eich gweithgarwch er mwyn eich helpu i dracio sut rydych yn teimlo cyn, yn ystod ac ar ôl yr her.
Ac os oes angen help arnoch gyda syniadau ar gyfer pob un o’r pum ffordd, rydym wedi paratoi ein dalenni syniadau!
Yn olaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu eich siwrnai #5Diwrnod5Ffordd ar eich cyfryngau cymdeithasol! Defnyddiwch ein postiadau cyfryngau cymdeithasol a grëwyd yn arbennig i ddangos eich bod yn cymryd rhan yn yr her! Lawrlwythwch hwy isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein tagio gan ddefnyddio @melo_cymru a’r hashnod #5Diwrnod5Ffordd ar bob platfform cyfryngau cymdeithasol!
Sut mae’n gweithio?
Mae tair ffordd y gallwch wneud yr her hon, gallwch wneud cymaint neu gyn lleied ag yr hoffech!
- UN Y DYDD – Dewiswch UN o’r 5 Ffordd pob diwrnod am 5 diwrnod. Er enghraifft, dydd Llun – Cysylltu, dydd Mawrth – Rhoi, dydd Mercher – Dal ati i ddysgu, ac ati. Gallwch benderfynu pa rai yr hoffech eu gwneud ar ba ddiwrnod. Cofnodwch eich gweithgaredd ar y Ddalen Ddyddiol
- 5 Y DYDD Gallwch wneud POB UN o’r 5 ffordd, bob dydd, am 5 diwrnod! Ceisiwch amrywio pethau ychydig, efallai drwy gysylltu â phobl wahanol, neu fynd ar lwybr gwahanol pan fyddwch yn mynd am dro bob dydd! Gweler ein dalenni i gael syniadau! Cofnodwch eich cynnydd ar y Cynlluniwr Wythnosol
- 5 WYTHNO – Ar gyfer yr her eithaf, gwnewch yr her #5Diwrnod5Ffordd (opsiwn 1 neu opsiwn 2 uchod), am 5 wythnos!
Beth am gychwyn arni?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu eich siwrnai gyda ni drwy dagio @melo_cymru a defnyddio’r hashnod #5Diwrnod5Ffordd ar unrhyw blatfform cyfryngau cymdeithasol!
Nôl i’r newyddion
I weld cynghorion ac adnoddau am lesiant, ewch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a dysgu mwy!