Gall bywyd fod yn anodd iawn weithiau.
Ar gyfer unrhyw un sy’n dioddef o iechyd meddwl, lles meddyliol gwael ac/neu’n teimlo’n hunanladdol, mae’n bwysig siarad â rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo/ynddi.
Rhowch wybod i aelodau’ch teulu neu’ch ffrindiau beth sy’n digwydd. Efallai y gallant gynnig cefnogaeth a chymorth i’ch cadw’n ddiogel. Neu, gallwch gysylltu ag un o’r gwasanaethau cefnogi isod.
Ydych chi angen cymorth brys nawr?
Os ydych chi’n meddwl eich bod angen cymorth brys nawr, defnyddiwch y cysylltiadau sydd yn y ddolen isod i chwilio am gymorth.

Llinell Wrando Iechyd Meddwl CALL
Mae’n darparu llinell wrando iechyd meddwl a chymorth emosiynol cyfrinachol sydd ar gael 24/7. Gall CALL hefyd gyfeirio unigolion at gefnogaeth mewn cymunedau lleol ac at ystod o wybodaeth ar-lein.
Ffoniwch nawr ar
Tecstiwch 'help' i
Neu ewch i
Samariaid – i bawb
Os ydych chi’n cael amser anodd, neu os ydych chi’n poeni am rywun arall. Beth bynnag yw eich sefyllfa, bydd aelod o’r Samariaid yn barod i’w hwynebu gyda chi.
Rydym yma 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Ffoniwch nawr ar
E-bostiwch
Neu ewch i
Shout
Tecstiwch Shout i 85258 – Shout yw gwasanaeth negeseuon testun 24/7 am ddim, cyntaf y DU ar holl brif rwydweithiau ffonau symudol, ar gyfer unrhyw un mewn argyfwng, unrhyw bryd ac yn unrhyw le.
Mae’n fan i fynd iddo os ydych yn cael anhawster i ymdopi a’ch bod angen cymorth ar unwaith.
Gweithredir Shout gan dîm o wirfoddolwyr, sy’n ganolog i’r gwasanaeth. Rydym yn mynd â phobl o argyfwng i sefyllfa dawelach bob dydd.
Tecstiwch 'shout' i
Neu ewch i
Hub of Hope
Cred Hub of Hope yw beth bynnag fo’ch sefyllfa, ni ddylech orfod ymdopi ar eich pen eich hun. Mae’n eich galluogi i ddod o hyd i wasanaethau sy’n lleol i chi gan ddefnyddio technoleg geoleoliad.
Ewch i
Rethink
Mae Rethink yn gwella bywydau pobl yr effeithir arnynt yn ddifrifol gan salwch meddwl drwy ein rhwydwaith o grwpiau a gwasanaethau lleol, gwybodaeth arbenigol ac ymgyrchu llwyddiannus. Ein nod yw gwneud yn siŵr fod gan bawb yr effeithir arnynt gan salwch meddwl difrifol ansawdd bywyd da.
Cyngor a gwybodaeth am sut i gefnogi rhywun sy’n teimlo’n hunanladdol.
Ffoniwch nawr ar
Campaign Against Living Miserably (CALM) i ddynion
Mae Campaign Against Living Miserably (CALM) yn fudiad blaenllaw i atal hunanladdiadau. Bob wythnos bydd 125 o bobl yn y DU yn lladd eu hunain ac mae 75% o’r holl achosion yn y DU yn ddynion. Mae CALM yn bodoli i newid hyn.
Mae’r llinellau ffôn ar agor o 5pm hyd hanner nos bob diwrnod.
Ffoniwch nawr ar
Neu ewch i
Staying Safe
Mae Staying Safe yn cynnig ffyrdd tosturiol, caredig a hawdd i helpu i gadw pobl yn ddiogel rhag meddyliau’n ymwneud â hunan-niweidio a hunanladdiad, i geisio cymorth a chael gobaith o wella drwy fideos pwerus gan bobl sydd â phrofiad personol.
Os ydych yn cael anhawster gyda sefyllfa anodd ac yn cael meddyliau hunanladdol, mae’r wefan hon yn rhoi syniadau ynglŷn â sut i weithio’ch ffordd drwyddi a’r pethau y gallwch chi – a phobl eraill – eu gwneud i wneud wella pethau.
Ewch i

Papyrus – ar gyfer pobl dan 35 oed a’r rheini sy’n gweithio gyda nhw
Sefydlwyd PAPYRUS ym 1997 gan Jean Kerr, mam o Swydd Gaerhirfryn, wedi i’w mab ladd ei hun. Sefydlwyd PAPYRUS yn wreiddiol fel Parents’ Association for the Prevention of Young Suicide, a dyna darddiad yr enw.
Ers 1997, mae PAPYRUS wedi parhau i wrando er mwyn dysgu gan brofiadau'r rheini sydd wedi’u cyffwrdd yn bersonol gan hunanladdiad ymhlith yr ifanc. Heddiw mae PAPYRUS yn gweithio mewn nifer o ffyrdd i atal achosion o hunanladdiad ymhlith yr ifanc.
HOPELINE UK – Ar agor rhwng 9am a hanner nos bob dydd o'r flwyddyn
Ffoniwch nawr ar
E-bostiwch
Tecstiwch

Childline – ar gyfer plant a phobl ifanc dan 19 oed
Mae Childline yn bodoli i helpu unrhyw un dan 19 oed yn y DU gydag unrhyw broblem sydd ganddynt. Gallwch sgwrsio am unrhyw beth. Boed yn fater bach neu fawr, mae ein cwnselwyr hyfforddedig yma i’ch cefnogi.
Gallwch gael cymorth a chyngor am ystod eang o faterion, ein ffonio ni, siarad â chwnselydd ar-lein, anfon e-bost at Childline neu bostio neges ar y byrddau negeseuon.
Ffoniwch 0800 1111 – ni fydd y rhif yn dangos ar eich bil ffôn
Ffoniwch nawr ar

2 Wish Upon A Star
Cymorth mewn profedigaeth yn dilyn marwolaeth drwy hunanladdiad
2 Wish Upon A Star – cymorth yn dilyn marwolaeth sydyn ymhlith plant neu bobl ifanc 25 oed ac iau ledled Cymru.
Yn ddiweddar llwyddodd 2 Wish Upon A Star i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu prosiect peilot ar gyfer cefnogi teuluoedd yr effeithir arnynt gan hunanladdiad unigolyn, beth bynnag ei oed, yng Ngwent (siroedd Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen) yn 2020-21.
Ffoniwch nawr ar
E-bostiwch
Meddwl
Mae’r wefan hon yn lle i gael cefnogaeth, gwybodaeth a phrofiadau iechyd meddwl – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
E-bostiwch
Neu ewch i
Isod ceir dolenni i ffynonellau cefnogaeth a chymorth ar gyfer unrhyw un sy’n uniaethu’n LGBTQ+, gan gynnwys eu teulu a’u ffrindiau. ↓
Stonewall
Mae Stonewall wedi llunio rhestr o sefydliadau sy’n gweithio i gefnogi pobl LGBT yn y DU. Mae’r rhestr yn cynnwys gwasanaethau cefnogi ar gyfer lles meddyliol a chymdeithasol, cyngor defnyddiol, cefnogaeth ar gyfer pobl drawsryweddol a gwybodaeth am drais a cham-drin.
Ffoniwch nawr ar
E-bostiwch
Neu ewch i

LGBT+ Switchboard
Mae Switchboard LGBT+ yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a gwasanaeth atgyfeirio ar gyfer lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol a thrawsryweddol – ac unrhyw un sy’n ystyried materion yn ymwneud â’u rhywioldeb a/neu hunaniaeth o ran rhywedd.
Ffoniwch nawr ar
E-bostiwch
Neu ewch i
Llinell Gymorth LGBT Cymru
Llinell gymorth ar gyfer pobl LGBT a’u teulu a’u ffrindiau. Ei nod yw darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar amrywiaeth o bynciau sy’n effeithio ar bobl yn y gymuned LGBT.
Ffoniwch nawr ar
GOV.UK
Mae Llywodraeth y DU wedi creu’r dudalen canllawiau hon sy’n cynnwys gwybodaeth a dolenni i wasanaeth ar gyfer pobl sy’n lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol.
Pride Cymru
Dyma restr o wasanaethau cefnogi, gan gynnwys llinellau cymorth, ar gyfer pobl LGBT yng Nghymru a grëwyd gan Pride Cymru.
Dewis
Gelir dod o hyd i ffynonellau cefnogaeth eraill drwy chwilio am ‘LGBT’ ar wefan Dewis.
Cefnogaeth drwy Apiau Ffôn Symudol
Isod fe welwch restr o apiau ffôn symudol sy’n gallu cynnig cymorth, adnoddau a chefnogaeth mewn adeg o angen.
Stay Alive
Adnodd atal hunanladdiad er mwyn helpu i’ch cadw’n ddiogel mewn argyfwng. Gallwch ei ddefnyddio os ydych yn cael meddyliau am gyflawni hunanladdiad neu os ydych yn poeni am rywun arall a allai fod yn ystyried lladd ei hun.


distrACT
Mae’r ap yn cynnig cyngor a gwybodaeth am feddyliau hunan-niweidiol a hunanladdol a gall eich helpu i ddarganfod technegau ac adnoddau hunangymorth a allai wneud i chi deimlo’n well.
Ap Bwrdd Gwaith a Chefnogaeth Ar-lein
Gallwch ddod o hyd i hunangymorth, adnoddau a hyfforddiant iechyd meddwl ar-lein gydag apiau bwrdd gwaith a gwefannau.
Ap Hunangymorth y Samariaid
Eich helpu i gadw golwg ar sut rydych yn teimlo, a chael argymhellion am bethau y gallwch eu gwneud er mwyn helpu eich hun i ymdopi, i deimlo’n well a chadw’n ddiogel mewn argyfwng.
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad Ar-lein am Ddim
Gall adnabod arwyddion rhybudd ar gyfer hunanladdiad a sut i gael cymorth achub bywydau.
Zero Suicide Alliance
Mae Zero Suicide Alliance’s* yn darparu cyrsiau hyfforddiant ymwybyddiaeth o hunanladdiad ar-lein am ddim: cwrs cyflwyno byr iawn (5-10 munud) cwrs ymwybyddiaeth bellach (20 munud). Mae’r ddau yn rhoi sgiliau i bobl helpu rhywun a allai fod yn meddwl am ladd ei hun.
Er mwyn cwblhau cwrs hyfforddiant ymwybyddiaeth o hunanladdiad ar-lein am ddim ewch i Zero Suicide Alliance.

Dolenni cyflym i adnoddau lles meddyliol
Dewiswch un o’r pynciau isod i ddod o hyd i’r adnoddau lles meddyliol perthnasol