Skip to main content

Poeni amdanoch chi'ch hun neu rywun arall?

Llinellau Cymorth a Gwasanaethau

Os ydych yn byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd neu Torfaen) ac yn poeni am eich iechyd meddwl cysylltwch â GIG 111 Cymru a Gwasgwch 2.

Angen cymorth brys? Ewch i’n tudalen cymorth brys.

Gallwch hefyd geisio cymorth gan un o’r llinellau cymorth neu wasanaethau isod drwy hidlo yn ôl maes pwnc neu’r math o gefnogaeth rydych am ei chael yn y bar chwilio.

Hidlo Erbyn

Dangos
Yn dangos 4 o ganlyniadau
Dangos
Aneurin Bevan University Health Board

Ymarferwyr Iechyd Seicolegol (PHPs)

Os ydych yn teimlo bod angen cymorth parhaus arnoch i wella eich iechyd meddwl, yna efallai y bydd angen cymorth proffesiynol arnoch gan y GIG. Mae hwn yn wasanaeth am ddim a byddwch yn gallu cael gafael ar y cymorth hwn yn eich meddygfa. Gofynnwch a oes Ymarferydd Iechyd Seicolegol yn eich meddygfa. Os nad oes, yna gall eich meddyg teulu ddarparu cymorth.

Rhagor o wybodaeth ➝
Gwent N-Gage

N-Gage Gwent: Gwasanaeth ar gyfer rhai dan 18 oed yng Ngwent

Mae Gwent N-Gage yn darparu gwasanaethau cyffuriau ac alcohol diogel a chyfrinachol am ddim i rai dan 18 oed yng Ngwent. Mae’n darparu cymorth i bobl ifanc a’u teuluoedd, a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw.

Ewch i wefan N-Gage Gwent ➝
GDAS - Gwent Drug & Alcohol Service

GDAS – Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent

Mae GDAS yn darparu gwasanaethau cyffuriau ac alcohol diogel a chyfrinachol am ddim. Mae GDAS yn gweithredu o amrywiaeth eang o ganolfannau lleol ledled Gwent. Mae GDAS yn gweithredu mewn lleoliadau cymunedol ac yn cynnig gwasanaeth allgymorth.

Ewch i wefan GDAS ➝
DAN 247 Bilingual Alcohol Helpline

DAN – 24/7: Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru

Llinell gymorth cyffuriau ac alcohol gyfrinachol am ddim yw DAN 24/7. Gallwch ffonio DAN 24/7 ar y rhif radffôn 0808 808 2234 neu decstio DAN i 81066 unrhyw bryd o’r dydd neu’r nos a byddwn yn rhoi cymorth a chyngor i chi.

Mae unrhyw beth a ddywedwch wrth DAN 24/7 yn gyfrinachol ac ni fydd angen i chi roi eich enw iawn. NI fydd DAN 24/7 i’w weld ar eich bil eitemedig cartref.

Bydd y llinell gymorth hon yn cynorthwyo unigolion, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr cymorth.

Mae gan DAN 24/7 hefyd gronfa ddata ar-lein o asiantaethau cyffuriau ac alcohol A gwybodaeth am niwed cyffuriau.

Ewch i wefan DAN 24/7 ➝

Archwiliwch ragor o ffyrdd o ofalu am eich lles meddyliol

Self-Help Wellbeing Resources

Adnoddau Hunangymorth

Adnoddau hunangymorth sydd wedi'u cymeradwyo'n broffesiynol i'ch helpu i wella'ch lles meddyliol.

Archwiliwch adnoddau →

Local Opportunities for Mental Wellbeing in your Community

Cyrsiau Lles Meddyliol

Cyrsiau manwl i'ch helpu i ddysgu sgiliau i reoli a gwella eich lles meddyliol.

Pori cyrsiau →

Local Opportunities for Mental Wellbeing in your Community

Cymryd Rhan yn eich Cymuned

Dod o hyd i gyfleoedd yn eich ardal leol i ofalu am eich lles gan gynnwys digwyddiadau a gweithgareddau.

Darganfod mwy →