Manteision Gwirfoddoli!
gan Bethan Warrington *
Sut y gall gwirfoddoli gynorthwyo eich lles a lleihau unigrwydd.
Helo! Fy enw i yw Bethan Warrington a fi yw’r Swyddog Gwirfoddoli ar gyfer GAVO yn Sir Fynwy. Fy rôl yw gweithio gydag elusennau i wneud yn siŵr bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i’w helpu i recriwtio a gofalu am wirfoddolwyr. Rydw i hefyd yn gweithio gydag unigolion sydd am wirfoddoli, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau, drwy eu helpu i ddod o hyd i gyfleoedd y byddant yn eu mwynhau a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Mae gan GAVO Swyddog Gwirfoddoli a Swyddog Gwirfoddoli Ieuenctid sydd bob amser yn barod i helpu yn:
- Sir Fynwy
- Casnewydd
- Blaenau Gwent
- Caerffili
Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 9 – 15 Mai
Thema Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni yw Unigrwydd, sydd, yn fy marn i, yn rhywbeth y mae gwir angen tynnu sylw ato. Mae hyn yn arbennig o bwysig wedi i ni gael gwybod i gadw draw oddi wrth ein hanwyliaid a ‘chynnal pellter cymdeithasol’ am bron i ddwy flynedd. Er (gobeithio) bod y gwaethaf o’r pandemig drosodd, mae’r effaith y mae wedi’i chael ar iechyd meddwl llawer o bobl yn para’n hir. Dyma pam mae GAVO yn falch iawn i fod yn cefnogi Melo Cymru eleni.

Felly, sut gall gwirfoddoli helpu i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol?
Pan fydd pobl yn sôn am effaith gwirfoddoli, rydym yn aml yn clywed sut mae hynny o fudd i bobl sydd mewn angen. Yr hyn nad sy’n cael digon o sylw yw pa mor rhyfeddol ydyw i’r gwirfoddolwr ei hun! Mae gwirfoddoli gyda grŵp cymunedol neu elusen yr ydych yn angerddol yn ei chylch yn ffordd wych o dreulio eich amser sbâr a lleihau ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd. Drwy wirfoddoli, rydych yn debygol o:
- Gwrdd â phobl o’r un anian â chi
- Cynyddu eich hyder
- Gweithio mewn tîm
- Gwneud ffrindiau
- Cael hwyl!
Cofiwch ddewis y rôl a fydd o fudd i’ch lles chi yn ogystal â helpu’r gymuned!
Mae sawl elfen i wirfoddoli. Boed hynny’n wirfoddoli mewn siop elusen ac ymgysylltu â chwsmeriaid, ymuno â gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn, neu ddefnyddio eich sgiliau technegol i helpu elusen i ddiweddaru eu gwefan, dylai gwirfoddoli bob amser gael effaith gadarnhaol ar eich lles eich hun. Mae yna nifer o ffyrdd i roi eich amser sbâr i eraill, felly treuliwch amser yn dewis y cyfle iawn i chi.
Mae gwefan Gwirfoddoli Cymru yn arf gwych i bori am gyfleoedd gwirfoddoli yn eich ardal. Os hoffech chi wirfoddoli ond ddim yn gwybod beth sydd ar gael, gallwch weld hynny yma:
COFIWCH, dylai pawb fod ar eu hennill BOB AMSER wrth wirfoddoli!
Manteision gwirfoddoli i bobl ifanc
gan Chris Irving *
Mae manteision gwirfoddoli yn cael eu cydnabod fwyfwy fel gweithgaredd a all wneud gwahaniaeth sylweddol i’n lles a’n twf personol ein hunain tra’n cael effaith yn ein cymunedau. Mae gan lawer o bobl ifanc bellach ymwybyddiaeth ehangach o lawer o’r materion sy’n effeithio ar eu bywydau. Gall y rhain gynnwys yr amgylchedd, diwylliant, y celfyddydau a chwaraeon, tlodi bwyd ac anghyfiawnder cymdeithasol.
Mae gwirfoddoli yn rhoi cyfle delfrydol i bobl ifanc gymryd rhan, gwneud gwahaniaeth, datblygu sgiliau ar gyfer y gweithle a chael hwyl ar yr un pryd. Mae ystod enfawr ac amrywiol o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael ledled Gwent ac mae GAVO yma i’ch cefnogi i ddod o hyd i’r cyfle perffaith.
Felly, os ydych yn 14 oed neu hŷn byddem wrth ein bodd yn clywed gennych a chael sgwrs anffurfiol!
Beth am glywed gan y gwirfoddolwyr!
“Roeddwn i wrth fy modd yn teimlo’n fwy na dim ond Mam. Cyflawnais rywbeth gwych a helpu’r amgylchedd ar yr un pryd. Wrth i’r goeden ifanc olaf gael ei phlannu, daeth deigryn i’m llygad, roeddwn wedi gwneud gwahaniaeth mawr.”
“Fe wnes i fwynhau plannu coed heddiw. Rwy’n gweithio i gwmni ym Mryste ond wedi bod yn gweithio o gartref. Fydda’i byth yn gweld neb. Ymunais â’r cynllun plannu coed er budd fy iechyd meddwl fy hun. Roedd yn dda cael sgwrsio ag eraill a mwynhau’r awyr agored.”
“Rydw i wedi diflasu, helpwch fi i ddod o hyd i rywbeth i’w wneud. Cofrestrais ar gyfer 2 ddiwrnod o blannu coed a mwynhau gymaint, ac fe fynychais 7 diwrnod i gyd. Roedd yn wych bod yn yr awyr agored a siarad ag eraill. Roeddwn i’n ofalus, yn golchi fy nwylo’n gyson ac yn gwisgo mwgwd i sicrhau fy niogelwch o ran COVID. “
Os hoffech wirfoddoli, dyma rai cyfleoedd yng Ngwent:
Sir Fynwy
Rhaglen a gynhelir gan Marianne Piper yng Nghanolfan Bridges Trefynwy yw Gwirfoddoli er Lles. Mae digon o gyfleoedd i gael effaith gadarnhaol ar les y gymuned tra’n gofalu am eich lles eich hun!
Casnewydd
Mae Llwybr Arfordir Cymru (y Dyfodol) yn chwilio am geidwaid goleudai yng Nghasnewydd (a Sir Fynwy)! Mae’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau creadigol a sgyrsiau sy’n archwilio ein perthynas â thir a dŵr. Am gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd, gwneud rhywbeth gwahanol a helpu’r amgylchedd! E-bostiwch futurewalescoast@gmail.com am ragor o wybodaeth.
Caerffili
Mae Gerddi Addysgol Tarraggan yn chwilio am wirfoddolwyr i’w cefnogi gyda gwaith garddio, paentio a chynnal a chadw! Ar ôl Covid mae’n bryd edrych ymlaen, cael ffocws, cymryd rhan mewn rhywbeth sy’n llawn hwyl ac addysgol tra’n cymdeithasu ag eraill. Ble gwell i wneud hyn nag yn yr awyr agored!

Blaenau Gwent
Mae’r Caffi Hapus yng Nghanolfan Gymunedol Aber-bîg yn barod i groesawu gwirfoddolwyr cyfeillgar sy’n gallu gwneud te a thost a sgwrsio â’r rheini sy’n galw heibio. Mae’r Caffi yn rhan o gynllun sy’n annog cysylltiadau cymunedol a chynhwysiant. Am ffordd hyfryd o dreulio bore ac efallai gwneud ffrindiau newydd! Gallwch ddarganfod mwy am y cyfle a gwneud cais yma.
Diolch am ddarllen!
Rwy’n mawr obeithio eich bod wedi mwynhau darganfod sut y gellir defnyddio gwirfoddoli fel arf i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol i wirfoddolwyr. Diolch yn fawr iawn am ddarllen y blog, a gobeithio’n fawr eich bod yn teimlo wedi’ch ysbrydoli i wirfoddoli. Cysylltwch â thîm Gwirfoddoli GAVO i roi eich barn!
Nôl i’r newyddion
I weld cynghorion ac adnoddau am lesiant, ewch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a dysgu mwy!