Manteision nofio gwyllt ar gyfer eich iechyd meddwl – mae’n fwy na dim ond ymarfer corff!
Mae llawer o’r bobl sy’n frwd dros yr awyr agored wedi bod yn sôn am fanteision nofio gwyllt ers tro. Fodd bynnag, yn 2019, cyhoeddodd y British Medical Journal astudiaeth yn dangos y gall mynd am drochfa oer helpu’r rheini sy’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl megis iselder, hyd yn oed pan nad yw meddyginiaeth wedi gwneud hynny.
Os yw’r tywydd cynhesach wedi gwneud i chi feddwl tybed ai nawr yw’r amser i ddechrau ar eich taith nofio gwyllt, nid chi yw’r unig un. Nid yw byth yn rhy hwyr i fwynhau eich llyn, afon neu fôr lleol a phrofi’r manteision drosoch eich hun.
Beth yw nofio gwyllt?
Mae nofio gwyllt mor syml ag y mae’n swnio, rydych chi’n nofio mewn corff o ddŵr gwyllt. Nid oes angen unrhyw offer arbennig (ond rydym yn argymell siwmper drwchus a fflasg o siocled poeth i gynhesu’ch hun wedyn!). Os ydych yn teimlo’n ddewr, gallwch hepgor y siwt wlyb a mynd mewn gwisg nofio, ond mae’n well gan lawer o nofwyr gwyllt gael yr haen ychwanegol.
“Yn ystod oes ein neiniau a’n teidiau, mewn mannau nofio gwyllt byddai pobl yn dysgu nofio ac yn ymgynnull ar ddiwrnod o haf – padlo, mwynhau picnic a chwarae. Heddiw mae adfywiad mewn diddordeb yn y pleser traddodiadol hwn ac mae pobl yn dysgu archwilio eu hafonydd a’u llynnoedd ar gyfer nofio unwaith eto,” meddai Daniel Start, awdur Wild Swimming.

Mae Nofio Gwyllt yn Gwella eich Cysylltiad â Natur
Mae’r 5 Ffordd at Les yn ffyrdd seiliedig ar dystiolaeth y gallwch wella eich iechyd meddwl, sef: Bod yn Sylwgar, Cysylltu, Bod yn Fywiog, Rhoi a Dal Ati i Ddysgu.
Os byddwch yn dechrau nofio’n wyllt, gallwch dicio ‘Bod yn Sylwgar’ wrth i chi sylwi pa mor oer mae’r dŵr yn teimlo (yn enwedig yn y gaeaf!) yn ogystal â sut rydych chi’n teimlo pan fyddwch yn dod allan o’r dŵr ac yn dechrau cynhesu. Rydych hefyd yn ‘Bod yn Fywiog’ drwy wneud ymarfer corff, yn ogystal â cherdded i’ch man nofio, a gallwch hefyd roi tic gyferbyn â ‘Cysylltu’ os byddwch yn mynd gyda ffrind neu aelod o’r teulu!
Mae trochi ein hun ym myd natur, yn fwy penodol corff o ddŵr, yn ein helpu i ailgysylltu â’n hamgylchedd naturiol a throi ein meddyliau oddi wrth straen a phryderon pob dydd. Mae gan nofio gwyllt, a chysylltu â byd natur, gysylltiad profedig â gwella lles meddyliol.
Manteision Iechyd Meddwl Nofio Gwyllt
Fel yr ydym wedi sôn, mae mynd i nofio yn y gwyllt yn eich helpu i ailgysylltu â natur, yn ogystal â’ch cael i ‘Fod yn Fywiog’ – ond beth yw’r manteision eraill o drochi mewn corff oer o ddŵr naturiol?
Gall eich helpu i gysgu’n well 😴
Gall nofio dŵr agored eich helpu i gysgu’n drymach. Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu y gall nofio mewn dŵr agored helpu i wella ansawdd eich cwsg, eich helpu i ymlacio mwy a rhoi teimlad o foddhad i chi, fodd bynnag nid oes astudiaeth wyddonol ar hyn o bryd i gefnogi’r honiad hwn.
Mae ganddo botensial i roi hwb i’ch hwyliau 😄
Mae tystiolaeth anecdotaidd o astudiaeth a gynhaliwyd yn 2020 yn awgrymu y gall nofio awyr agored wella hwyliau. Edrychodd yr astudiaeth ar hwyliau a lles y cyfranogwyr a fynychodd gwrs nofio awyr agored. Roedd y cyfranogwyr yn yr astudiaeth wedi canfod bod eu hwyliau negyddol wedi gostwng, a gwelsant gynnydd mewn lles a chynnydd sylweddol mewn hwyliau cadarnhaol.
Gallai helpu i glirio niwl yr ymennydd 😨
Er nad oes unrhyw astudiaethau gwyddonol wedi’u gwneud ar hyn o bryd, mae nofwyr dŵr oer rheolaidd yn dweud y gall trochi eich hun mewn dŵr oer (yn enwedig os byddwch yn mentro yn ystod misoedd y gaeaf!) glirio niwl yr ymennydd. Dywed Fearne Cotton, cyflwynydd ac eiriolwr dros iechyd meddwl, fod nofio gwyllt yn rhoi ‘ymdeimlad o eglurder a chyffro iddi.’ Mae nofwyr gwyllt eraill wedi sôn am y manteision, gan ddweud eu bod yn teimlo fel newydd ar ôl iddynt ddod allan, a’u bod rhyw wrid o’u cwmpas am ddyddiau wedyn.
Mae’n helpu i leddfu symptomau straen, gorbryder ac iselder 😩
Mae un o’r astudiaethau enwocaf sy’n ymwneud â nofio dŵr oer yn edrych ar fenyw 24 oed a oedd yn dioddef o symptomau anhwylder iselder mawr a gorbryder nad oedd yn ymateb i driniaethau meddygol. Rhagnododd ei meddygon raglen o nofio dŵr agored (oer) wythnosol iddi i’w threialu, ac arweiniodd hyn at welliant ar unwaith mewn hwyliau ar ôl pob sesiwn nofio, a lleihad cyson a graddol yn ei symptomau iselder. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae hi’n parhau i fod yn rhydd o feddyginiaeth ac yn dweud ei bod yn teimlo bod “pwysau wedi’i godi.”
Mae’r gwyddonwyr y tu ôl i’r adroddiad yn priodoli’r newid hwn i’r ffordd y mae trochi mewn dŵr oer yn hyfforddi’r “modd ymladd neu ffoi yn eich corff. I ddechrau, mae mynd i mewn i ddŵr oer yn rhoi eich corff dan straen ac yn cynhyrchu ymateb i sioc. Ond wrth ddod i gysylltiad â dŵr oer dro ar ôl tro rydych yn lleihau’r ymateb hwn i straen. Mae gallu ffrwyno eich ymateb i straen yn golygu eich bod yn gallu ymdopi’n well wrth wynebu unrhyw straen y mae bywyd yn ei daflu atoch.”
Cynghorion i ddechrau ar eich taith nofio gwyllt
Cyn i chi fynd a neidio i mewn i’r llyn agosaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein Cynghorion Da ar gyfer eich nofio gwyllt am y tro cyntaf, yn ogystal â’n Cynghorion Diogelwch ymhellach i lawr y dudalen.
- Cynheswch ymlaen llaw – gallai hyn fod yn daith gerdded egnïol i’ch man nofio, bydd hyn yn helpu i gynyddu curiad eich calon a chodi lefel gwres eich corff, a fydd yn eich atal rhag mynd i sioc dŵr oer pan fyddwch yn mynd i mewn i’r dŵr. Bydd hefyd yn helpu i lacio’ch cyhyrau, gan wella eich hyblygrwydd pan fyddwch yn nofio.
- Gwisgwch siwt wlyb os ydych yn poeni pa mor oer y byddwch chi’n teimlo mewn gwisg nofio yn unig! Mae hefyd yn syniad da i ddod â phâr o esgidiau rydych chi’n hapus i’w gwlychu, boed yn bâr o hen esgidiau ymarfer corff, neu’n bâr penodol ar gyfer y dŵr, rhag ofn bod angen cerdded dros greigiau.
- Ewch i mewn yn araf! Mae hyd yn oed y nofwyr mwyaf profiadol yn teimlo oerfel y dŵr pan fyddant yn mynd i mewn am y tro cyntaf. Gall tasgu rhywfaint o ddŵr ar eich wyneb, eich breichiau a’ch brest cyn trochi’n llwyr eich helpu i addasu i’r gwres. Ni ddylech fyth neidio i’r dŵr gan y gall hyn wneud i chi fynd i sioc dŵr oer.
- Peidiwch â gwthio eich hun yn rhy galed. Os nad ydych wedi nofio’n wyllt o’r blaen, ni fyddwch yn gallu aros yn y dŵr am fwy nag ychydig funudau (ac mae hynny’n normal!).
- Unwaith y byddwch yn dod allan, gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu’ch dillad gwlyb a gwisgo dillad sych a chynnes ar unwaith. Mae rhai nofwyr gwyllt yn hoffi dod â fflasg o de neu siocled poeth gyda nhw i gynhesu wedyn.
- Arhoswch am o leiaf 10 munud i gynhesu cyn cerdded neu yrru adref, bydd hyn yn rhoi amser i’ch corff gynhesu’n fewnol cyn i chi gychwyn.
Cynghorion Diogelwch ⚠️
- Peidiwch byth â nofio ar eich pen eich hun. Os oes gennych ffrindiau a allai fod â diddordeb, gofynnwch iddynt ddod gyda chi, mae hyn yn golygu os byddwch yn mynd i drafferthion tra’n nofio y bydd gennych bobl all helpu. Os nad yw eich ffrindiau’n awyddus, gallwch ddod o hyd i grwpiau nofio gwyllt lleol, lle mae pobl o’r un anian yn dod ynghyd i fynd i nofio. Fel hyn rydych chi gyda grŵp o bobl sy’n brofiadol ac yn debygol o wybod am y mannau gorau (a mwyaf diogel) i nofio’n wyllt.
- Peidiwch byth â nofio mewn camlesi, dŵr llifogydd, llynnoedd llonydd neu ddŵr bas corsennog. Byddwch yn ymwybodol o unrhyw arwyddion rhybudd mewn rhai cyrff o ddŵr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu nofio yn y dŵr. Mae’n helpu i wirio hyn ymlaen llaw er mwyn arbed unrhyw deithiau gwastraffus.
- Cadwch doriadau i’r croen a chlwyfau wedi’u gorchuddio â phlasteri gwrth-ddŵr.
- Osgowch gysylltiad â’r bywyd gwyllt lleol.
- Gweithiwch allan bob amser sut rydych chi’n mynd i ddod allan cyn i chi fynd i mewn.
- Peidiwch byth â neidio i’r dŵr.
Er bod manteision gwyddonol nofio gwyllt yn dal i gael eu harchwilio, mae cyfuniad o’r astudiaethau a gynhaliwyd eisoes a thystiolaeth anecdotaidd gan nofwyr yn awgrymu bod effeithiau nofio gwyllt ar iechyd meddwl yn niferus. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth newydd a hwyliog i roi hwb i’ch lles meddyliol, beth am ystyried gofyn i rai o’ch ffrindiau a fydden nhw’n barod am drochfa!
Ddim yn siŵr bod nofio gwyllt yn addas i chi? Os yw’n well gennych gadw eu hun yn sych a chynnes tra’n gofalu am eich iechyd meddwl, beth am edrych ar ein 5 Ffordd at Les, neu roi cynnig ar ein cyrsiau ar-lein am ddim, does dim angen siwt wlyb!
Nôl i’r newyddion
I weld cynghorion ac adnoddau am lesiant, ewch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a dysgu mwy!