Skip to main content

Mis Balchder: Sut y gwnes i oresgyn meddyliau negyddol

Jun 14, 2021

gan Gino Parisi*

Wrth bendroni ynglŷn â chynnwys y blog hwn mewn perthynas ag iechyd meddwl, rydw i’n edrych yn ôl ar fy mywyd a’r heriau rydw i wedi’u profi. Roedd tyfu i fyny yn hoyw mewn teulu Eidalaidd caeth a mynychu ysgol breswyl Gatholig yn y 70au a’r 80au yn sicr yn heriol a dweud y lleiaf. Fodd bynnag, dydw i ddim yn meddwl bod yna lawer ohonom all ddweud nad ydym wedi cael cyfnodau “da ac anodd”. Os oes unrhyw un allan yno sy’n darllen hwn ac erioed wedi cael cyfnodau “anodd” cysylltwch, hoffwn wybod eich cyfrinach. Er hynny, wrth i mi agosáu at fy hanner cant yn 2021, gallaf ddweud â llaw ar fy nghalon fy mod yn teimlo fy mod yn dechrau cael gafael ar fy lles meddyliol fy hun ac mae’r adegau anodd yn mynd yn fwy prin.

Cofleidio fy meddwl 'rhydd'

Yn sicr bu heriau i bawb yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ond gydag agwedd feddyliol fwy cadarnhaol, defnyddiais y “diffyg rhyddid corfforol” fel cyfle i arafu fy mywyd a threulio amser yn myfyrio. Dim mwy o gymudo, sownd mewn traffig am oriau, rhuthro o un lle i’r llall ac yna’n dod adref a theimlo dan straen ac wedi llwyr ymlâdd. Heb y rhain i gyd gwnaeth fy iechyd meddwl wella’n aruthrol.

Ar ddechrau’r cyfnod clo penderfynais, er bod fy “rhyddid corfforol” wedi’i gyfyngu, nad oeddwn i’n mynd i adael i’r rhai sydd mewn grym fynd â’m “rhyddid meddyliol”. Caniataodd y penderfyniad hwn i fod yn rhydd yn fy meddwl fi i ddadlwytho fy hun o’r byd llawn anrhefn rydym yn byw ynddo yn y gorllewin, y clo a phopeth, a gyda hynny daeth teimlad o ryddhad ac mae hwnnw’n dal gennyf hyd heddiw. Felly, am fisoedd ar fisoedd, gartref ar fy mhen fy hun gyda fy ngŵr, ymhyfrydais yn yr amser oedd gennym gyda’n gilydd a bod yn “rhydd” yn fy meddwl.

Roedd y drefn arferol yn syml:

  • Brecwast
  • Gwaith
  • Cyfarfod yn y gegin am ginio am hanner dydd
  • Gweithio eto tan bump
  • Pryd figan iach a noson o ymlacio yn gwylio holl gyfresi Ru Pauls Drag Race (unwaith eto)

Roedd y cyfle i rannu fy niwrnod gyda’r dyn rydw i’n ei garu yn rhyddid gwirioneddol. Ni wnes i feddwl unwaith fy mod wedi colli fy rhyddid gan fy mod wedi plannu’n bwrpasol yn fy meddwl fy mod yn fod dynol “rhydd” ac rwy’n credu hyn yn ddiamod.

Defnyddio datganiadau cadarnhaol

Am nifer o flynyddoedd rydw i wedi bod yn defnyddio datganiadau cadarnhaol. Mewn geiriau eraill newid y storïau negyddol hynny sydd yn fy mhen yn rhai cadarnhaol. Drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf rydw i wedi dweud wrth fy hun fy mod yn fod dynol “rhydd” a dyna’r “teimlad” oedd gen i. Rydw i’n gredwr cryf “eich bod yn creu’r hyn rydych yn ei gredu”. Felly os ydw i’n meddwl meddyliau cadarnhaol yna byddaf yn teimlo’n gadarnhaol a bydd fy realiti yn un cadarnhaol. Os ydych yn credu hyn ai peidio, mae’n gweithio i mi.

Drwy fy natganiadau cadarnhaol dyddiol, y byddaf yn eu trafod yn fy meddwl neu’n eu hysgrifennu yn fy nyddlyfr, gallaf greu’r diwrnod rydw i am ei gael. Mae’r amser myfyrgar rydw i wedi ei gael yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi caniatáu i mi ystyried y storïau yn fy mhen sydd ddim mor gadarnhaol. Rydw i wedi treulio amser gyda phob un o’r storïau negyddol hyn i weld o lle y daethant, a phwy â’u plannodd yno. Des ar draws rai o’r 70au a’r 80au. Yna penderfynais eu taflu allan o’m meddwl. Disodlir pob un gan ei gyfatebydd cadarnhaol y byddaf yn eu creu a’u datgan i mi fy hun bob dydd. Yn y pen draw mae’r meddyliau negyddol yn diflannu’n raddol, ac fe’m gadewir gyda llu o feddyliau cadarnhaol sy’n gwneud i mi deimlo’n dda ac o ganlyniad caf ddiwrnod da. Credaf fod rhywbeth cadarnhaol ar gyfer pob peth negyddol – i mi, y gwaith yw dod o hyd i’r cadarnhaol, canolbwyntio arno a’i wneud yn realiti. 

Wrth gwrs, fel y gallwn weld canlyniadau cadarnhaol ein datganiadau mae angen i ni gofio bod y cyfan yn ymwneud â momentwm. Mae angen i ni sicrhau bod momentwm y meddyliau cadarnhaol yn fwy na’r momentwm negyddol, ac mae angen gweithio ar hynny. Dychmygwch pe byddech yn gweld cert ar ben bryn yn dechrau symud i lawr a bod angen i chi ei stopio. Y man hawsaf i stopio’r momentwm yw ar ben y bryn. Os byddwch yn ceisio stopio’r cert wrth iddo gyrraedd y gwaelod bydd yn fwy anodd gan y bydd wedi casglu momentwm cyflymder. Fy syniad yw hwn, cydiwch yn y meddyliau negyddol cyn eu bod yn casglu momentwm. Felly gwnewch yn siŵr bod y meddyliau cadarnhaol hynny yn llifo i mewn i’ch meddwl drwy ddweud y datganiadau cadarnhaol fel eu bod yn casglu momentwm ac yn fuan iawn ni fydd gan y meddyliau negyddol unrhyw obaith.

Creu’r bywyd rydw i am ei gael

Rwy’n credu mai’r meddwl yw’r peth mwyaf pwerus yn y bydysawd a’r crëwr gorau oll. Cafodd popeth a welwch o’ch cwmpas, o gar i roced ofod, eu creu gyntaf yn y meddwl a gyda chred ddiamod fe’u gwireddwyd. Felly gadewch i bawb ohonom gymryd perchnogaeth o’n meddyliau ac yn gyntaf creu’r bywyd rydym am ei gael yn ein meddyliau a’n teimladau; yn fuan bydd yn dod yn realiti.

Blog Gwesteion – Barn bersonol yr awdur yw unrhyw farn neu safbwyntiau yn y blogiau gwesteion hyn, ac nid barn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Cefnogaeth a llinellau cymorth LGBTQ+

Er mwyn cael cefnogaeth a chymorth i unrhyw un sy’n uniaethu’n LGBTQ+, gan gynnwys eu teulu neu ffrindiau, cliciwch ar y ddolen isod i gael rhestr o adnoddau a llinellau cymorth.

Rhannwch eich cefnogaeth yn ystod y Mis Ymwybyddiaeth Balchder hwn. Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael cynghorion, adnoddau a chyrsiau lles meddyliol yn ystod y mis Balchder hwn.

‘Dylem yn wir gadw aros dan reolaeth yn wyneb gwahaniaeth, a byw ein bywydau mewn cyflwr o gynhwysiant a rhyfeddu at amrywiaeth dynoliaeth.’

– George Takei

Nôl i’r newyddion

I weld cynghorion ac adnoddau am lesiant, ewch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a dysgu mwy!