‘Dim Dieithriaid’ – Men’s Den Blaenau Gwent
Does dim dieithriaid yma,dim ond ffrindiau nad ydych wedi’u cyfarfod.
Beth yw Men's Den Blaenau Gwent?
‘Dim Dieithriaid’ yw slogan Men’s Den (Blaenau Gwent), grŵp sydd â’r nod o roi lle i ddynion ddod ynghyd i gefnogi ei gilydd, gyda theimlad o gwmnïaeth a chyfeillgarwch, fel bod pawb yn teimlo bod croeso iddynt.
Sefydlwyd y grŵp gan sefydliad Cymunedau yn Gyntaf i fynd i’r afael â phryderon cynyddol ynglŷn â hunanynysu ymhlith y boblogaeth o ddynion yn lleol. Pan ddaeth Cymunedau yn Gyntaf i ben penderfynodd rhai aelodau barhau â’r grŵp gydag ychydig o wirfoddolwyr ymroddedig.
“Mae her Covid wedi bod yn brawf mawr i’r grŵp’ meddai’r ysgrifennydd, Rafi Abbas,‘Cyn Covid 19 byddem yn cyfarfod yn wythnosol yn Neuadd Gymunedol Bournville. Byddem yn trefnu gweithgareddau yn yr awyr agored i’n holl aelodau, ac roedd llawer ohonynt yn eu mwynhau’n fawr. Yn ystod y cyfnod clo gwnaethom benderfynu cyfarfod yn ddigidol er mwyn ceisio cadw aelodau i deimlo’n gadarnhaol.”
Addasu’n ddigidol i’r Coronafeirws gyda chymorth Age Cymru
Mae Age Cymru wedi darparu hyfforddiant cyfrifiadurol am ddim i aelodau ac mae hyn wedi rhoi’r hyder iddynt ymuno yn y sesiynau digidol. Yn ddiweddar mae rhai aelodau wedi dechrau cyfarfod wyneb yn wyneb, tra bod eraill yn dal i gyfarfod yn ddigidol.
“Yn y cyfnod heriol hwn i bawb ohonom,” meddai Rafi, “mae bod â rhywle y gall pobl leol gyfarfod, cymdeithasu a chwarae gemau yn bwysig iawn. Mae’n gam yn y cyfeiriad cywir, gan helpu i fynd i’r afael â materion unigrwydd ac ynysu, ac yn ffordd gadarnhaol i ymateb i’r angen dybryd am adeilad cymunedol.”
Beth ddywed yr aelodau
Un o’r aelodau yw Jim Morgan o Lynebwy:
“Nid yw’r flwyddyn ddiwethaf, gyda her Covid19, wedi bod yn hawdd i mi. Ond gyda chefnogaeth aelodau fy nheulu, staff iechyd, rhai cymdogion a fy ffrindiau o Men’s Den (Blaenau Gwent), rydw i wedi llwyddo i ddal ati. Mae fy mwji, Bobby, wedi bod yn gwmni gwych, ac mae wedi bod gen i ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn.
Rydw i’n ceisio aros yn gorfforol egnïol a chadarnhaol o ran fy nhrefn bob dydd; fe fyddaf i a’r bois yn cynnal cwis ar-lein yn rheolaidd, un rownd o wybodaeth gyffredinol ac yna byddwn yn cymryd tro i ddewis pwnc arbenigol. Rydw i’n dal i chwarae cerddoriaeth. Weithiau byddaf yn treulio oriau gyda’r gitâr a thro arall fydd gen i ddim awydd gwneud hynny o gwbl. Rydw i’n gweld eisiau chwarae yn y band a chanu ym Mharc yr Ŵyl yng Nglynebwy.
Pan fyddaf yn iach, byddaf wastad yn mynychu cyfarfodydd digidol Men’s Den (Blaenau Gwent), ac rwy’n teimlo bod hynny’n dda. Byddaf yn siarad â’m ffrindiau ac yn gwneud ffrindiau newydd.”

Ymunwch â Men’s Den Blaenau Gwent
Cynhelir cyfarfodydd wythnosol Men’s Den Blaenau Gwent (yn bersonol ac yn ddigidol) ar ddyddiau Mercher rhwng 10:00am a 11:00am.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth chysylltwch â Rafi Abbas trwy e-bost – mensdenbg@gmail.com
Neu ewch i www.mensdenbg.co.uk
Dod o hyd i ragor o gyfleoedd lleol yn eich ardal
Mae llawer o ffyrdd y gallwch wella eich lles meddyliol gyda chyfleoedd lleol yn eich ardal.
― C.S. Lewis
Nôl i’r newyddion
I weld cynghorion ac adnoddau am lesiant, ewch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a dysgu mwy!