Ydych chi’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a adnabyddir fel ardal ‘Gwent’ (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd neu Dorfaen)?
Ydych chi eisiau gwella eich lles meddyliol?
Ydych chi eisiau teimlo’n fwy hyderus i gael sgyrsiau am iechyd a lles meddyliol a gwybod lle i gyfeirio pobl am gymorth?
Isod fe welwch ddolenni i’ch helpu i ddysgu mwy am raglen Connect 5 Gwent. Dewiswch opsiwn i fynd i lawr i’r adran berthnasol ar y dudalen.
Ydych chi’n poeni ammdanoch eich hun neu rywun arall?
Os ydych chi’n poeni amdanoch eich hun, rhywun sy’n annwyl i chi, ffrind neu gydweithiwr, mae’n bwysig ceisio cymorth.
Beth yw Connect 5 Gwent?
Lansiwyd Connect 5 Gwent yn ardal BIP Aneurin Bevan ym mis Ionawr 2021. Ei nod yw gwella lles meddyliol y boblogaeth drwy helpu cyfranogwyr i wneud y canlynol:
- Deall yn well sut i wella eu lles meddyliol eu hunain a lles meddyliol pobl eraill
- Gwella eu sgiliau a’u hyder i gael sgyrsiau pob dydd ynglŷn â lles meddyliol
Connect 5 yw’r rhaglen hyfforddiant hybu iechyd meddwl seiliedig ar dystiolaeth gyntaf, a’r unig un o’i bath, sydd ar gael yn y DU. Ardal BIP Aneurin Bevan yw’r unig ardal yng Nghymru sy’n darparu’r rhaglen hyfforddiant hon.

Taflen Connect 5 Gwent
Gweld y daflen ar-lein fyw.
Dim ond yn Saesneg y mae hon ar gael.
Lawrlwytho nawr ↓

Ar gyfer pwy mae’r hyfforddiant?
Mae cyrsiau wedi’u hariannu’n llawn ar gael i holl staff iechyd a gofal cymdeithasol lleol. Gall gweithluoedd eraill naill ai gyrchu’r hyfforddiant hwn trwy eu sefydliad eu hunain (os oes ganddynt Hyfforddwr) neu drwy Hyfforddwr cymeradwyedig lleol. Mae cyfyngiad ar niferoedd.
Mae BIP Aneurin Bevan yn annog pob sefydliad mawr yn ardal ein Bwrdd Iechyd i fanteisio ar gyrsiau Hyfforddi’r Hyfforddwr am ddim fel y gallant gyflwyno Connect 5 Gwent yn fewnol. Mae holl leoedd ar gyrsiau Hyfforddi’r Hyfforddwr wedi’u hariannu’n llawn gan BIP Aneurin Bevan a bydd pob hyfforddwr lleol yn derbyn deunydd hyfforddi, cefnogaeth barhaus ac aelodaeth o rwydwaith Hyfforddwyr lleol a hynny am ddim.
Ariennir Connect 5 Gwent gan raglen Trawsnewid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22.
Beth yw diben Connect 5 Gwent?
Mae Connect 5 Gwent yn rhoi gwybodaeth a sgiliau i gyfranogwyr yr hyfforddiant i wella eu lles meddyliol eu hunain. Mae hefyd yn cynyddu eu hyder i gael sgyrsiau pob dydd am iechyd a lles meddyliol gan gynnwys ymwybyddiaeth o hunanladdiad.
Mae hyfforddiant Connect 5 Gwent yn darparu pecyn cymorth atal cydweithredol seiliedig ar dystiolaeth sy’n hyrwyddo gwybodaeth, dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth seicolegol a datblygiad sgiliau. Mae hyn yn annog y rheini sydd wedi’u hyfforddi i ofalu am eu hunain a hefyd cefnogi’r bobl y maent yn cysylltu â nhw i wneud hynny.

Modiwlau Hyfforddiant
Mae tri modiwl hyfforddiant a phob un yn gynyddol o ran sgiliau. Nid oes angen i’r cyfranogwyr fynychu pob un o’r tri modiwl ond rhaid eu mynychu mewn modd dilynol.
Modiwl 1
Cyngor Byr (Hanner Diwrnod)
Cyflwyniad i Connect 5 Gwent ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwella ei les meddyliol ac sydd â’r cyfle i roi cyngor byr am les.
Modiwl 2
Ymyriad Byr (Hanner Diwrnod)
Mae hwn yn adeiladu ar Fodiwl 1 fel bod cyfranogwyr yn deall anghenion lles ac yn gallu cynnig ymyriadau lles byr untro fel rhan o’u rôl.
Modiwl 3
Ymyriad Byr Estynedig (Hanner Diwrnod)
Ehangu ar y wybodaeth a’r sgiliau a ddatblygwyd ym modiwlau 1 a 2 er mwyn ysgogi a chefnogi pobl i wneud newidiadau i wella eu hiechyd a lles meddyliol.
Trwy ddewis y lefel/au mwyaf priodol bydd y cyfranogwyr yn cael yr hyder, y wybodaeth a’r sgiliau i’w defnyddio yn eu rhyngweithio â phobl bob dydd er mwyn gwella eu lles meddyliol, ar y lefel gywir iddynt hwy.
Sut cyflwynir Connect 5 Gwent?
Ar hyn o bryd cyflwynir y 3 ar-lein. Y platfform a ffafrir yw Zoom, er y gall rhai hyfforddwyr eu cyflwyno drwy Microsoft Teams. Pan fydd y canllawiau pellter cymdeithasol yn caniatáu hynny, cynigir y cwrs wyneb yn wyneb hefyd.
Pwy sy’n cyflwyno’r hyfforddiant yng Ngwent?
Yng Ngwent rydym yn mabwysiadu model Rhaeadru neu Hyfforddi’r Hyfforddwr ar gyfer cyflwyno Connect 5 Gwent. Rydym yn chwilio am Hyfforddwyr o sefydliadau lleol y mae eu staff yn cyflwyno ar hyn o bryd, neu’n barod i gyflwyno fel rhan o’u rôl, hyfforddiant i gymheiriaid, cydweithwyr a/neu bartneriaid.
Mae’r cwrs Hyfforddiant Rhaeadru am ddim. Bydd gofyn i Hyfforddwyr ymuno â rhwydwaith Hyfforddwyr Connect 5 Gwent lleol a rhoddir mynediad iddynt at adnoddau hyfforddiant, adnoddau lles meddyliol, deunydd darllen cefndir ac offer gwerthuso. Bydd gofyn i Hyfforddwyr gefnogi gwerthusiad y rhaglen.
Faint mae’n gostio?
Mae rhaglen hyfforddiant Connect 5 Gwent am ddim ac wedi’i hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.
Beth sydd wedi’i gynnwys?
Bydd yr holl gyfranogwyr yn derbyn copïau o adnoddau hyfforddiant Connect 5 Gwent, gwybodaeth ynglŷn â lle i ddod o hyd i adnoddau lleol yn ogystal â thystysgrif presenoldeb. Trwy gofrestru gan ddefnyddio Offeryn Rheoli Digwyddiad Connect 5 Gwent gallwch gael mynediad at yr adnoddau hyn a dilyn eich cynnydd.
Sut ydw i’n archebu lle?
Os ydych yn byw neu’n gweithio yn yr ardaloedd canlynol yna cliciwch ar y ddolen ar gyfer eich Hyfforddwr lleol:
Gwiriwch a oes gan eich sefydliad ei hyfforddwr Connect 5 Gwent ei hun:
Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill am Connect 5 Gwent cysylltwch ag [email protected]
Beth sydd ei angen i ddod yn Hyfforddwr Connect 5 Gwent?
I gael rhagor o wybodaeth gweler enghraifft o Ffurflen Ymrwymiad Hyfforddwr Connect 5 Gwent.
- Profiad o gyflwyno hyfforddiant NEU fod yn barod i dreulio amser yn datblygu sgiliau hyfforddi.
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da.
- Profiad o gyflwyno hyfforddiant ar-lein NEU fod yn barod i dreulio amser yn datblygu’r sgil hon.
- Diddordeb mewn iechyd a lles meddyliol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ddod yn Hyfforddwr Connect 5 Gwent cysylltwch â [email protected]
Byddem yn hoffi clywed gennych!
I gael rhagor o wybodaeth gweler enghraifft o Ffurflen Ymroddiad Hyfforddwr Connect 5 Gwent:
Ffurflen Ymrwymiad
Gweler y telerau ac amodau ar gyfer dysgu. (Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael).
Lawrlwtho nawr ↓
Ffurflen Ymrwymiad
Gweler y telerau ac amodau ar gyfer dysgu. (Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael).
Lawrlwtho nawr ↓