Tystebau Melo Cymru
Beth mae defnyddwyr Melo yn ei ddweud
I fi, mae Melo yn cynnig tawelu rhywun mewn storm.
Rwy’n gwybod os bydd angen rhywfaint o gefnogaeth, cymorth ar unwaith arnaf neu os byddaf angen cael gafael ar wasanaeth, gallaf fynd i wefan Melo a chael y wybodaeth honno. Mae’r wefan hefyd yn edrych yn wych ac yn weledol mae’n fy nhawelu gyda’r lliwiau sy’n wahanol i’r naws ‘meddygol’ arferol a geir ar wefannau eraill. Mae’r wybodaeth yn syml ac yn hawdd dod o hyd iddi ac rwy’n dweud wrth gymaint o bobl ag y gallaf amdani! Rydw i hefyd yn dilyn Melo ar fy nghyfrifon cyfryngau cymdeithasol ac mae’r postiadau yn hwyliog, yn gyfoes ac yn ddefnyddiol. Yr ymarferion anadlu yw fy ffefryn! Rwy’n rhoi’r gorau i beth bynnag rwy’n ei wneud ar y pryd ac yn dilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer 2 funud cyflym o les. Diolch Melo!
Victoria
Mae gwefan Melo yn un o fy mannau ‘troi atynt’ ar gyfer yr unigolion y byddaf yn dod i gysylltiad â nhw drwy fy ngwaith gan ei bod yn hawdd iawn i fynd iddi ac mae ganddi ystod enfawr o wybodaeth a llawer o wahanol fathau o adnoddau i gyd mewn un lle.
Lisa
Rydym wrth ein bodd yn clywed gennych!
Dywedwch wrthym am eich profiad gyda Melo – ydyn ni wedi eich helpu i ofalu am eich lles meddwl o ddydd i ddydd? Neu efallai eich bod chi wedi helpu rhywun sy’n annwyl i chi? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Rydym wrth ein bodd yn clywed gennych!
Dywedwch wrthym am eich profiad gyda Melo – ydyn ni wedi eich helpu i ofalu am eich lles meddwl o ddydd i ddydd? Neu efallai eich bod chi wedi helpu rhywun sy’n annwyl i chi? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!