Tidy Butt: Mae dynion yn rhy galed i siarad!
Cyflwyno Tidy Butt
Gan fy mod yn dod o bentref bach yng nghymoedd De Cymru nid yw sgwrsio am deimladau ac emosiynau yn rhywbeth a wneir. Rydym yn dod o linach o weithwyr balch. Roedd dangos breguster yn arwydd o wendid; dweud dim a dal ati oedden ni ei wneud.
Roedd yr anallu hwn i ymdrin â theimladau ac emosiynau, neu beidio bod â’r hyder i siarad, oherwydd poeni bod hynny’n arwydd o wendid, yn golygu bod pethau’n cael eu trin mewn ffyrdd eraill. Mae mynd ar y llwybr o hunan-ddinistr, yfed, cyffuriau ac ymladd yn dueddol o fod yr opsiynau a ddefnyddir ar gyfer delio â’r problemau y mae pobl yn eu hwynebu.
Mae delio â’ch meddyliau, teimladau ac emosiynau yn y modd hwn nid yn unig yn gwaethygu’r broblem wreiddiol, ond hefyd yn creu problemau newydd. Mae dyddiau ‘oddi ar y llwybr cywir’ yn troi’n wythnosau, yna’n fisoedd a chyn i chi droi mae eich bywyd mewn anhrefn llwyr.
I rai, mae’r ffyrdd hyn o ymdopi yn ymddygiad sydd wedi cael ei ddysgu gan rieni a’u rhieni hwythau. Ond mae ffyrdd mwy cadarnhaol i ddelio â’n problemau a’r heriau rydym yn eu hwynebu mewn bywyd. Y cyntaf yw wynebu’r ffaith bod yna broblem, yr ail yw siarad amdani.

Felly, sut allwn ni annog dynion i siarad, dangos breguster a deilio â theimladau ac emosiynau?
Beth allwch chi ei wneud os ydych yn cael anhawster?
Os nad oes gennych yr hyder i siarad wyneb yn wyneb, mae opsiynau eraill a allai helpu.
- Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Dechreuwch drwy fynd ar-lein. Mae nifer o fforymau lle gallwch ddarllen am anawsterau a storïau pobl eraill.
- Postiwch eich stori neu’ch anawsterau ar y fforymau hyn neu ar fforymau eraill. Hyd yn oed os mai dim ond fersiwn fer ydyw, mae cyfathrebu ac ysgrifennu am anawsterau yn ffordd i ni “ysgafnhau’r baich”.
- Mynychwch grŵp cymorth. Mae llawer ohonynt yn rhai y gellir aros yn ddienw.
Ein nod yn Tidy Butt yw creu man diogel i ddynion a menywod allu siarad yn agored a gonest am eu hiechyd meddwl.
Trwy ein grŵp siarad, grŵp cerdded llesol a throchwyr dŵr oer rydym yn dod ynghyd gyda phobl debyg i ni ac yn cefnogi ein gilydd ym mha bynnag ffordd y gallwn.
Nid sgwrs am les yw hi bob amser, mae’n ymwneud â gwybod nad ydych ar eich pen eich hun a bod yna bobl eraill sy’n mynd trwy brofiadau tebyg. Mae’r fenter wedi rhoi canlyniadau gwych i aelodau ein cymuned ac mae cymuned Tidy Butt yn tyfu ac yn cryfhau bob wythnos.
Cysylltwch a dilynwch Tidy Butt
Os ydych angen cefnogaeth neu os oes yna rywbeth y gallwn eich helpu gydag ef mae croeso i chi gysylltu â ni ar:
Neu ymunwch â’n Grŵp Facebook Tidy Butt preifat, neu e-bostiwch matthew@tidybutt.co.uk
Nôl i’r newyddion
I weld cynghorion ac adnoddau am lesiant, ewch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a dysgu mwy!