Beth yw ADHD?
Mae Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, neu ADHD, yn gyflwr niwroddatblygiadol sy’n cael ei ddiagnosio fel arfer yn ystod plentyndod. Weithiau ni chaiff ei gydnabod yn ystod plentyndod a chaiff ei ddiagnosio’n ddiweddarach, fel oedolyn. Mae cyflyrau niwroddatblygiadol fel ADHD yn effeithio ar sut y mae ein hymennydd yn datblygu ac yn gweithio. Gall hyn effeithio ar ymddygiad a’r ffordd y mae pobl yn profi’r byd o’u cwmpas.
Amcangyfrifir y gall 2.5% o’r boblogaeth oedolion fod ag ADHD.
Arwyddion a symptomau ADHD
Nodweddir ADHD gan symptomau diffyg sylw, gorfywiogrwydd a byrbwylltra. Gall unigolion gael symptomau sy’n perthyn i un neu i bob un o’r categorïau:
- Diffyg sylw – anhawster canolbwyntio neu orffen tasg, anhrefnus, pethau’n tynnu sylw yn hawdd, anghofus, methu â gwrando pan fydd pobl yn siarad.
- Gorfywiogrwydd – gwingo, methu eistedd yn llonydd, siarad yn ormodol, ar fynd drwy’r amser fel pe bai ‘wedi’i bweru gan fodur’.
- Byrbwylltra – gweithredu’n gyflym heb feddwl am y canlyniadau, torri ar draws pobl eraill, anhawster aros eu tro.
Gall llawer ohonom brofi’r symptomau hyn o bryd i’w gilydd ond i bobl ag ADHD, maent yn digwydd o ddydd i ddydd a gallant gael effaith ar eu hiechyd meddwl.
Efallai y bydd pobl sy’n byw gydag ADHD yn cael trafferth mewn lleoliadau addysg neu anhawster i gynnal swydd oherwydd ‘dallineb amser*’, sgiliau trefnu gwael, a diffyg ffocws.
Efallai y byddant yn mynd i ddyled os ydynt yn gwario’n fyrbwyll ac yn teimlo cywilydd na allant reoli eu harian. Efallai eu bod yn cael trafferth gyda hunan-barch isel a achosir gan feirniadaeth o sut maent yn byw.
*Dallineb amser yw’r anhawster neu’r anallu i synhwyro treigl amser neu i gofio pryd y digwyddodd rhai atgofion. Mae’n symptom cyffredin ymhlith pobl sy’n cael diagnosis o anhwylderau niwroddatblygiadol, gan gynnwys ADHD ac awtistiaeth. Fodd bynnag, gall unrhyw un ei brofi o bryd i’w gilydd.
Gall ADHD gyd-ddigwydd â llawer o gyflyrau niwroddatblygiadol ac iechyd meddwl eraill. Gall y rhain gynnwys (ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i) awtistiaeth, gorbryder, iselder, anhwylder deubegynol a chamddefnyddio sylweddau.
Mae’n bosibl bod llawer o bobl sy’n cael diagnosis yn ddiweddarach mewn bywyd wedi cael diagnosis o un o’r cyflyrau hyn i ddechrau. Mae hyn oherwydd y gall llawer o’r arwyddion/symptomau fod yn debyg ac yn anoddach eu hadnabod.
Cyngor hunangymorth i oedolion ag ADHD
Mae gofalu am eich lles corfforol a meddyliol eich hun yn bwysig. Mae yna bethau syml y gall pawb ohonom eu gwneud i helpu i ofalu am ein hiechyd meddwl:
- Ewch i’n hadran gofalu am eich hun i gael rhagor o wybodaeth a chyngor.
- Mae 5 cam y pawb ohonom eu cymryd i ofalu am ein lles meddyliol. Tybed a allwch chi gynnwys rhai o’n Pum Ffordd at Les yn eich bywyd bob dydd. Yno gallwch ddod o hyd i syniadau ynglŷn â sut i wneud hyn, neu greu rhai eich hun.
- Os ydych chi’n teimlo’n bryderus, edrychwch ar dudalen Gorbryder Melo.
Gall awgrymiadau hunanofal i’w defnyddio os oes gennych ADHD, neu os ydych yn amau bod gennych ADHD, gynnwys:
- Gosod larymau/amserwyr ar eich ffôn/oriawr/cyfrifiadur ar gyfer apwyntiadau, meddyginiaeth, seibiannau rheolaidd, bwyta ac yfed a gwneud ymarfer corff. Mae hyn er mwyn helpu i reoli dallineb amser.
- Gwneud ymarfer corff rheolaidd boed hynny’n gerdded, rhedeg, mynd i’r gampfa neu fynd â’r ci am dro, mae’r cyfan yn cyfrif. Pan fydd gennych ADHD, rydych yn anghofio gwneud y pethau a fydd yn helpu’ch ymennydd i reoleiddio ei hun felly gall mynd allan i’r awyr iach helpu gyda gwell canolbwyntio a gorbryder hefyd.
- Cynllunio prydau bwyd. Gall coginio fod yn brofiad llethol i bobl sydd ag ADHD. Un awgrym defnyddiol a rennir gan bobl sydd ag ADHD yw coginio mewn swmp. Gwnewch fwy nag sydd ei angen ar gyfer un pryd a storio’r bwyd ychwanegol ar gyfer pryd arall, a fydd yn helpu gyda’r teimlad ei bod wedi’ch gorlethu.
- Chwilio am grŵp cymorth ar gyfryngau cymdeithasol neu yn eich ardal leol. Gall siarad â phobl eraill sy’n profi’r un pethau â chi fod yn fuddiol iawn.
- Gall rheoli arian pan fydd gennych ADHD fod yn straen. Efallai y byddwch yn teimlo cywilydd neu’n bryderus i ddweud wrth unrhyw un os ydych chi mewn dyled a ddim yn gwybod beth i’w wneud. Gofynnwch am help. Gallwch ddod o hyd i sefydliadau a all eich cefnogi os ydych yn cael trafferth gyda’ch arian ar ein tudalen Pryderon Ariannol.
- Siaradwch â theulu a ffrindiau am sut rydych chi’n teimlo, efallai y gallant eich helpu
Os oes angen cymorth pellach arnoch
Os nad yw’r wybodaeth, cyngor, adnoddau a chyrsiau ar y dudalen hon wedi bod o gymorth a/neu os ydych yn teimlo bod angen mwy o help arnoch, mae llawer o wasanaethau am ddim ar gael.
Mae gennych yr opsiwn i drefnu apwyntiad gydag Ymarferydd Iechyd Seicolegol (PHP) neu eich Meddyg/Meddyg Teulu (MT). Ymarferwyr iechyd meddwl y GIG yw PHPs sy’n darparu gwasanaeth am ddim i bobl sy’n cael problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol.
Rwy’n oedolyn ac rwy’n meddwl bod gennyf ADHD; sut mae cael asesiad?
Yn y man cyntaf, siaradwch â’ch Meddyg/Meddyg Teulu a all drafod eich pryderon gyda chi. Mae’n helpu i fynd â nodiadau gyda chi ynglŷn â sut rydych chi wedi bod yn teimlo a pha symptomau rydych chi wedi bod yn eu cael er mwyn i’ch Meddyg Teulu gael gwell syniad.
Os yw’r meddyg yn meddwl bod achos dros asesiad, bydd wedyn yn eich atgyfeirio i’ch tîm iechyd meddwl cymunedol (CMHT) lleol. Bydd eich atgyfeiriad yn cael ei ystyried, a byddwch yn cael gwybod yn ysgrifenedig a ydych wedi cael eich ychwanegu at y rhestr aros am asesiad.
Pa mor hir yw’r aros am asesiad ADHD?
Gan fod y gwasanaeth lleol yn eithaf newydd, yn anffodus ni allwn roi amcangyfrif o amser aros ar gyfer asesiad. Gwyddom y gall hyn fod yn rhwystredig ond wrth i’r gwasanaeth ddatblygu rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu darparu’r wybodaeth hon yn y dyfodol.
Beth sy’n digwydd yn yr asesiad?
Gall y broses asesu/diagnostig ddigwydd dros sawl apwyntiad a chaiff ei chynnal gan ddefnyddio cyfweliadau strwythuredig gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig. Mae BIP AB yn dilyn canllawiau cenedlaethol ar gyfer asesu a gwneud diagnosis o ADHD ymhlith Oedolion.
A fydd yr asesiad wyneb yn wyneb neu ar-lein?
Gellir cynnal asesiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Oes angen i mi ddod ag unrhyw un gyda mi?
Gallwch ddod â rhywun gyda chi i’ch cefnogi. Gall fod yn ddefnyddiol dod â rhywun sy’n eich adnabod yn dda gyda chi
Beth fydd yn digwydd os caf ddiagnosis o ADHD? Beth yw’r camau nesaf?
Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn trafod unrhyw opsiynau triniaeth posibl gyda chi, bydd hefyd yn rhoi gwybodaeth a chyngor defnyddiol i chi ar reoli unrhyw anawsterau y gallech fod yn eu profi.
Last updated: 12.04.2023