Skip to main content

Anhwylderau Bwyta

Adnabyddir yn gyffredin fel: anorecsia, bwlimia, gorfwyta

Anhwylderau Bwyta

Archwiliwch anhwylderau bwyta drwy sgrolio drwy’r dudalen neu dewiswch opsiwn o’r gwymplen os ydych am neidio i adran berthnasol y dudalen:

need help now

Angen cymorth brys?

Os oes angen help a chymorth brys arnoch gyda’ch anhwylder bwyta, cysylltwch â’ch meddyg teulu cyn gynted â phosibl, neu ffoniwch GIG 111 Cymru ar radffôn 111.

Lawrlwytho’r dudalen hon fel PDF (agor mewn ffenestr newydd)

Beth yw anhwylder bwyta?

Cyflwr iechyd meddwl yw anhwylder bwyta. Mae pobl sydd ag anhwylderau bwyta yn defnyddio bwyta di-drefn i ymdopi â sefyllfaoedd neu deimladau anodd. Gall bwyta di-drefn gynnwys cyfyngu ar faint o fwyd sy’n cael ei fwyta, bwyta llawer iawn o fwyd mewn un tro ac yna cael gwared ar y bwyd mewn ffyrdd sydd ddim yn iach (megis gwneud eu hunain yn sâl, camddefnyddio carthyddion neu wneud ymarfer corff gormodol) neu gyfuniad o’r ddau.

Gall anhwylderau bwyta effeithio ar unrhyw un o unrhyw oedran, unrhyw ryw, cefndir neu ethnigrwydd. Nid yw anhwylderau bwyta’n ymwneud â’r bwyd sy’n cael neu’n peidio cael ei fwyta yn unig, ond yn hytrach mae’n ymwneud ag ymdopi â theimladau anodd. Nid yw anhwylder bwyta byth yn fai ar y person a dylid ei drin â thosturi bob amser.

Mae’n hanfodol cael triniaeth cyn gynted â phosibl os oes gan rywun anhwylder bwyta neu anhwylder bwyta posibl. Nid oes rhaid i chi fod o dan bwysau; gallwch fod yn bwysau iach neu dros bwysau a dal i fod ag anhwylder bwyta.

Ble i geisio cymorth

Os ydych chi’n credu fod gennych chi anhwylder bwyta, mae’n bwysig ceisio cymorth a chefnogaeth gan eich meddyg teulu cyn gynted â phosibl. Gall eich atgyfeirio at eich gwasanaeth arbenigol lleol.
Beat
Mae yna hefyd elusen anhwylderau bwyta arbenigol genedlaethol o’r enw Beat, sy’n cynnig cymorth cyfrinachol ar-lein a thros y ffôn i unrhyw un sydd angen cymorth gydag anhwylder bwyta.

Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta Lleol

Os credwch fod gennych anhwylder bwyta, gofynnwch am help gan eich meddyg teulu. Gallant eich cyfeirio at gymorth arbenigol. Mae Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta lleol ar gael i bobl sy’n byw ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan y gall eich Meddyg Teulu eich cyfeirio ato.

Mae cymorth ar-lein a llinell ffôn Beat ar gael 365 diwrnod y flwyddyn. Gallwch siarad yn gyfrinachol ag un o’r cynghorwyr drwy ffonio’r llinell gymorth oedolion ar 0808 801 0433 neu’r llinell gymorth ieuenctid ar 0808 801 0711. Gallwch hefyd gael gwybodaeth ar wefan yr elusen. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am anhwylderau bwyta. Os ydych chi’n poeni bod rhywun sy’n annwyl i chi yn dangos arwyddion o anhwylder bwyta gallwch ddod o hyd i gymorth i chi drwy Beat. Mae Beat hefyd yn darparu hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, staff ysgol/prifysgol, rhieni a gofalwyr.

Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Os ydych yn meddwl bod gennych anhwylder bwyta, gofynnwch am gymorth gan eich meddyg teulu. Gall eich atgyfeirio at gymorth arbenigol. Mae Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta lleol ar gael i bobl sy’n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan y gall eich meddyg teulu eich atgyfeirio ato.

Adnoddau defnyddiol

  • Mae gan Beat y wybodaeth a’r cyngor defnyddiol diweddaraf.
  • Darllenwch un o’n taflenni hunangymorth, mae’r rhain i’w gweld isod.
  • Ewch i’ch llyfrgell leol a gofynnwch am y llyfrau Reading Well. Mae amrywiaeth eang o lyfrau ar anhwylderau bwyta y gallwch eu benthyca am ddim. Maent yn cynnwys llyfr ar anhwylderau bwyta o’r enw ‘Getting Better Bite by Bite’ ac ‘Overcoming BingeEating’ gan Christopher Fairburn. Gallwch gael manylion holl lyfrau Reading Well yn y rhestr isod.
Last updated: 11.09.2023
feedback

A yw’r dudalen hon yn ddefnyddiol?

Rhowch eich adborth i ni

Mae gwybod beth oedd yn ddefnyddiol neu’n annefnyddiol i chi yn bwysig iawn i ni. Os oes gennych rywfaint o amser, rhowch wybod i ni beth oedd yn ddefnyddiol i chi ac os oes unrhyw beth y gallem ei wella. Diolch.

Adnoddau hunangymorth i ddeall anhwylderau bwyta yn well

Porwch ein hadnoddau hunangymorth rhad ac am ddim i helpu i ymdopi ag anhwylderau bwyta, sydd wedi’u cymeradwyo gan arbenigwyr iechyd meddwl.

Math Teitl Yn gysylltiedig â… Darparwr
Gwefannau Gwefannau

Beat Eating Disorders – Elusen Anhwylder Bwyta y DU

Anhwylderau Bwyta, Bwyta'n Iach mind
Gwefannau Gwefannau

Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Anhwylderau Bwyta, Bwyta'n Iach mind
Darllen Darllen

Anhwylderau Bwyta – Canllaw Hunangymorth y GIG

Anhwylderau Bwyta mind
Darllen Darllen

Anhwylderau Bwyta – Canllaw Hawdd ei Ddeall y GIG (Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael)

Anhwylderau Bwyta mind
Gwefannau Gwefannau

GIG 111 Cymru – A-Z Iechyd : Anhwylderau Bwyta (Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael)

Anhwylderau Bwyta mind
Darllen Darllen

Overcoming Binge Eating, Christopher G. Fairburn | Darllen yn Dda (Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael) — Benthyca AM DDIM o’ch llyfrgell leol yng Nghymru

Anhwylderau Bwyta mind
Darllen Darllen

Being You: The Body Image Book for Boys | Readwell – Benthyca AM DDIM o’ch llyfrgell leol yng Nghymru.

Anhwylderau Bwyta, Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, Lles Meddyliol Plant mind
Yn dangos 7 allan o 16 o ganlyniadau Gweld pob

Llinellau cymorth a chefnogaeth ar gyfer anhwylderau bwyta

Gweler isod am linellau cymorth ar gyfer anhwylderau bwyta. I weld ein rhestr lawn o linellau cymorth, ewch i’n tudalen llinellau cymorth.

Beat Eating Disorders

Beat Eating Disorders – Elusen Anhwylder Bwyta y DU

Ni yw elusen anhwylderau bwyta’r DU. Wedi ein sefydlu ym 1989 fel y Gymdeithas Anhwylderau Bwyta, ein cenhadaeth yw rhoi terfyn ar y boen a’r dioddefaint a achosir gan anhwylderau bwyta.

Ewch i wefan Beat ED ➝
Yn dangos 1 allan o 2 o ganlyniadau Gweld pob
feedback

A yw’r dudalen hon yn ddefnyddiol?