Skip to main content

Beichiogrwydd

Adnabyddir yn gyffredin fel: beichiogrwydd, beichiog, cael babi, iechyd y fam, amenedigol, cyn-geni, cyn-geni, cynenedigol, cyn-enedigol

Beichiogrwydd

Archwiliwch beichiogrwydd drwy sgrolio drwy’r dudalen neu dewiswch opsiwn o’r gwymplen os ydych am neidio i adran berthnasol y dudalen:

Beichiogrwydd ac iechyd meddwl

Yn Melo, rydym yn ymwybodol fod bod yn feichiog yn ddigwyddiad enfawr mewn bywyd. Yn ogystal â’r holl newidiadau corfforol, mae’n naturiol i deimlo llawer o emosiynau. Efallai y bydd eich beichiogrwydd wedi’i gynllunio, yn syndod, yn ddigwyddiad y bu aros mawr amdano ac efallai y byddwch yn teimlo’n hapus ac yn gyffrous. Neu o bosibl na fydd eich beichiogrwydd wedi’i gynllunio ac efallai y byddwch yn teimlo’n ansicr, mewn sioc, yn ddryslyd ac yn ofidus, neu efallai na fyddwch yn profi unrhyw un o’r teimladau hyn.

Gall hefyd deimlo’n anodd ymdopi pan fydd pawb yn disgwyl i chi fod yn hapus a chyffrous am y babi newydd os nad dyma sut rydych chi’n teimlo. Neu efallai bod gan eich partner neu eraill sy’n agos atoch wahanol feddyliau a theimladau i chi am eich beichiogrwydd.

Mae rhai pobl yn teimlo’n bryderus am bethau fel yr enedigaeth, neu a fydd y babi’n iach. Efallai y byddwch yn poeni os ydych wedi cael camesgoriad neu broblemau ffrwythlondeb yn y gorffennol. Efallai y byddwch yn teimlo’n bryderus os ydych wedi cael beichiogrwydd nad oedd wedi mynd fel y cynlluniwyd, genedigaeth drawmatig neu wedi profi cam-drin. Efallai y bydd rhai pobl hefyd yn ei chael hi’n anodd ymdopi â newid siâp eu corff.

Mae’r teimladau hyn i gyd yn hollol normal, mae pawb yn wahanol. Gall realiti bod yn feichiog gymryd peth amser i ddod i arfer ag ef, waeth beth fo’ch llwybr i gyrraedd yno.

I bartneriaid, gall darganfod bod eich partner yn feichiog fod yn amser emosiynol i chithau hefyd. Os ydych yn cael trafferth, efallai y byddai’n syniad da ymddiried mewn ffrindiau sydd eisoes yn rhieni ac sy’n gwybod beth rydych yn mynd drwyddo.

I rai gall beichiogrwydd deimlo fel pwysau arall ar ben pethau bob dydd, fel pryderon ariannol, eich swydd, problemau teuluol neu berthynas. Does dim ffordd ‘normal’ o deimlo tra’ch bod yn feichiog ac mae pawb yn wahanol.

Gall cam-drin domestig ddigwydd i unrhyw un, ond mae menywod beichiog a menywod sydd â phlant ifanc mewn mwy o berygl. Os ydych yn meddwl eich bod yn dioddef cam-drin domestig, ewch i’n tudalen pwnc cam-drin i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael neu i ddarganfod sut i adnabod arwyddion cam-drin domestig: Trais Domestig y GIG.

Os ydych yn cael trafferth, mae cael cymorth a chefnogaeth yn gynnar yn bwysig iawn. Gobeithiwn y bydd y wybodaeth ganlynol yn adnodd buddiol a defnyddiol.

Cyngor hunangymorth ar gyfer beichiogrwydd

Yn ystod beichiogrwydd, mae’n bwysig gofalu am eich lles eich hun. Bydd hyn yn eich helpu i ymdopi’n well â’r pethau o ddydd i ddydd y mae bywyd yn eu taflu atoch, neu pan fydd pethau’n anodd.

Mae yna gamau y gall pob un ohonom eu cymryd i amddiffyn a gofalu am ein lles meddyliol:

  • Yn ystod beichiogrwydd, mae’n bwysig gofalu am eich lles eich hun. Bydd hyn yn eich helpu i ymdopi’n well â’r pethau o ddydd i ddydd y mae bywyd yn eu taflu atoch, neu pan fydd pethau’n anodd.
  • Mae yna gamau y gall pob un ohonom eu cymryd i amddiffyn a gofalu am ein lles meddyliol. Efallai y byddwch yn gallu cynnwys rhai o’r ‘Pum Ffordd at Les’ yn eich diwrnod.
  • Ewch i wefan Iachach Gyda’n Gilydd sy’n cynnwys amrywiaeth o wybodaeth a chyngor os ydych chi’n feichiog neu fod gennych fabi newydd gan gynnwys gofalu am eich hun, cadw’n iach, paratoi ar gyfer esgor a geni a gofalu am eich babi.
  • Gall siarad â’ch Bydwraig, Ymwelydd Iechyd neu ffrind neu berthynas rydych chi’n ymddiried ynddo/ynddi am eich teimladau fod yn ddefnyddiol hefyd.
  • Efallai yr hoffech fynychu dosbarthiadau cyn geni i gwrdd â rhieni eraill. Gallwch gael gwybodaeth gan eich Bydwraig neu Ymwelydd Iechyd

Gallech roi cynnig ar ymarferion anadlu i’ch tawelu os ydych yn teimlo wedi’ch llethu, gweler ein hadran ymwybyddiaeth ofalgar am ragor o wybodaeth. Mae gennym hefyd gwrs myfyrio dan arweiniad ar-lein am ddim.

Os oes angen cymorth pellach arnoch

Os oes angen cymorth pellach arnoch: Beichiogrwydd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Neu cysylltwch â llinell gymorth gymeradwy arall a restrir isod. Mae rhai gwasanaethau ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Last updated: 11.04.2023
feedback

A yw’r dudalen hon yn ddefnyddiol?

Rhowch eich adborth i ni

Mae gwybod beth oedd yn ddefnyddiol neu’n annefnyddiol i chi yn bwysig iawn i ni. Os oes gennych rywfaint o amser, rhowch wybod i ni beth oedd yn ddefnyddiol i chi ac os oes unrhyw beth y gallem ei wella. Diolch.

Adnoddau hunangymorth i'r rhai sy'n feichiog

Math Teitl Yn gysylltiedig â… Darparwr
Darllen Darllen

Iselder Ôl-enedigol – Canllaw Hunangymorth y GIG

Beichiogrwydd, Hwyliau Isel, Iselder mind
Darllen Darllen

Dull Meddwl Tosturiol ar gyfer Iselder Ôl-enedigol: defnyddio therapi tosturiol i wella hwyliau, hyder a bondio Trechu Iselder: sut i ddefnyddio’r bobl yn eich bywyd i agor y drws i adferiad (Saesneg yn unig)

Beichiogrwydd, Iselder, Rhieni mind
Gwefannau Gwefannau

Cynnwys Amrywiaeth o Wybodaeth a Chyngor i Bobl Beichiog/Rhieni Ewydd/Gofalwyr – Iachach Gyda’n Gilydd

Beichiogrwydd, Gofalwyr di-dâl, Rhieni mind
Gwefannau Gwefannau

Cael babi os ydych yn LHDT+ – Cael gwybod am ddechrau teulu os ydych yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol neu anneuaidd | GIG (Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael)

Beichiogrwydd, Rhyw a Rhywioldeb (LHDTRhC+) mind
Yn dangos 4 allan o 12 o ganlyniadau Gweld pob

Llinellau cymorth a chefnogaeth

Gweler isod am linellau cymorth sy’n berthnasol i feichiogrwydd. I weld ein rhestr lawn o linellau cymorth, ewch i’n tudalen llinellau cymorth.

Aneurin Bevan University Health Board

Ymarferwyr Iechyd Seicolegol (PHPs)

Os ydych yn teimlo bod angen cymorth parhaus arnoch i wella eich iechyd meddwl, yna efallai y bydd angen cymorth proffesiynol arnoch gan y GIG. Mae hwn yn wasanaeth am ddim a byddwch yn gallu cael gafael ar y cymorth hwn yn eich meddygfa. Gofynnwch a oes Ymarferydd Iechyd Seicolegol yn eich meddygfa. Os nad oes, yna gall eich meddyg teulu ddarparu cymorth.

Rhagor o wybodaeth ➝
Yn dangos 1 canlyniad
feedback

A yw’r dudalen hon yn ddefnyddiol?