Archwiliwch cefnogaeth tai a digartrefedd drwy sgrolio drwy’r dudalen neu dewiswch opsiwn o’r gwymplen os ydych am neidio i adran berthnasol y dudalen:
Mae cael lle i’w alw’n ‘gartref’ yn bwysig i’n lles corfforol a meddyliol
Mae cartref yn fwy na diogelwch, cysgod a chynhesrwydd. Dyma lle rydyn ni’n cysgu, yn bwyta, yn cysylltu â’n hanwyliaid, yn ymlacio ac yn cael hwyl. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fyddwn yn ei chael yn anodd cael y ‘cartref’ hwnnw am lawer o resymau, ac efallai eich bod yn ddigartref neu’n cael problemau tai. Mae amrywiaeth o gymorth ar gael os ydych yn cael anawsterau tai a gwybodaeth am sut i gysylltu â gwasanaethau a fydd yn gallu eich helpu.
Darperir gwasanaethau Cymorth Tai ym mhob awdurdod lleol; eu nod yw helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl. Mae rhai enghreifftiau o’r mathau o gymorth sydd ar gael yn cynnwys:
Help i reoli llety neu ddod o hyd i lety mwy addas
Helpu i atal digartrefedd
Cyngor a chymorth i hawlio budd-daliadau a rheoli dyledion
Cyngor a chymorth gyda chyllidebu a rheoli biliau
Cyngor ar faterion fel cymhorthion ac addasiadau, a diogelwch yn y cartref
Helpu i gysylltu ag asiantaethau perthnasol, fel meddygon neu weithwyr cymdeithasol
Cefnogaeth i gael mynediad i addysg, cyflogaeth, gwaith gwirfoddol a hyfforddiant
Pobl Ifanc 16 – 24 ag anghenion cymorth (gan gynnwys y rhai sy’n gadael gofal)
Dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau
Rhieni sengl a theuluoedd bregus
Anawsterau gyda thenantiaeth a thalu rhent
Os ydych yn cael trafferth talu eich rhent neu wedi cael unrhyw newid mewn amgylchiadau, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i’ch landlord, bydd gan y rhan fwyaf o gymdeithasau tai dimau cymorth arbenigol a all eich helpu i aros yn eich cartref.
Cyfrifoldebau eich cyngor
Os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, mae gan eich cyngor lleol ddyletswydd o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 i ymchwilio i’ch sefyllfa i ddarganfod sut y gallan nhw helpu ac i roi gwybod pa opsiynau sydd ar gael i chi i ddatrys eich sefyllfa dai.
Isod mae dolenni i wefannau pob un o’r cynghorau sydd â manylion cyswllt ar gyfer sut i gysylltu â gwasanaethau tai ym mhob awdurdod lleol:
Mae gwybod beth oedd yn ddefnyddiol neu’n annefnyddiol i chi yn bwysig iawn i ni. Os oes gennych rywfaint o amser, rhowch wybod i ni beth oedd yn ddefnyddiol i chi ac os oes unrhyw beth y gallem ei wella. Diolch.
Stori Katie: Fideo byr yn egluro sut brofiad yw derbyn cefnogaeth a pha help y gallech ei dderbyn (Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael)
Cael cymorth gan y cyngor os ydych yn ddigartref yng Nghymru – Shelter Cymru
Troi Allan – Shelter Cymru
Yn dangos 3 o ganlyniadau
Cymorth tai yng Ngwent
I siarad â rhywun am eich sefyllfa neu i wneud atgyfeiriad cysylltwch â thîm eich Awdurdod Lleol ar y rhifau ffôn neu e-byst isod. Mae’r holl wasanaethau am ddim. I weld ein rhestr lawn o linellau cymorth, ewch i’n tudalen llinellau cymorth.
Shelter Cymru – Cyngor cyfrinachol, annibynnol ac am ddim
Mae llinell gymorth frys yn weithredol rhwng 9.30am a 4.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os byddai’n well gennych ffyrdd eraill o gysylltu, edrychwch ar y wefan.
Mae gan Cyngor ar Bopeth Cymru ganolfannau galw heibio y gallwch ymweld â nhw yn ogystal â gwasanaethau ar-lein. Maent yn cynnig cyngor a chymorth ar faterion ariannol megis anghydfodau, budd-daliadau, cyflogaeth, dyled ac arian, tai a llawer mwy.
Os yw straen yn effeithio ar eich bywyd mewn ffordd negyddol, mae yna bethau rydych chi'n ceisio eu helpu eich hun. Dyma gasgliad o ddeunyddiau i'ch helpu i ymdopi â lefelau straen uchel.