Skip to main content

Cyflwr Sbectrwm Awtistiaeth Oedolion

Adnabyddir yn gyffredin fel: asperger, awtistiaeth, asd, asesu, diagnosis, niwroamrywiol, niwroamrywiaeth, oedolyn awtistig

Cyflwr Sbectrwm Awtistiaeth Oedolion

Archwiliwch cyflwr sbectrwm awtistiaeth oedolion drwy sgrolio drwy’r dudalen neu dewiswch opsiwn o’r gwymplen os ydych am neidio i adran berthnasol y dudalen:

Beth yw Awtistiaeth?

Mae awtistiaeth yn gyflwr datblygiadol gydol oes sy’n effeithio ar sut mae rhywun yn meddwl ac yn teimlo a sut mae’n cyfathrebu ac yn rhyngweithio â’r byd o’i gwmpas.

Gall awtistiaeth ddigwydd gyda chyflyrau iechyd meddwl a niwroddatblygiadol eraill, megis gorbryder, iselder, ADHD ymhlith eraill.

Mae awtistiaeth yn gyflwr sbectrwm ac yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Fel pawb arall, mae gan bobl sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth eu cryfderau a’u gwendidau eu hunain.

Gall Arwyddion Awtistiaeth gynnwys, ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i:

  • Llai o gyswllt llygad neu gyswllt llygad anarferol
  • Ymatebion synhwyraidd anarferol
  • Dim yn hoffi newid
  • Ffafrio arferion cyfarwydd
  • Gorbryder
  • Ystod gyfyng o ddiddordebau, arferion
  • Ymddygiadau ailadroddus
  • Llai o ddychymyg neu ddim dychymyg
  • Cymryd pethau’n llythrennol
  • Anawsterau cymdeithasu ag eraill

Yn Melo, rydym yn deall, gyda’r holl anawsterau hyn, y gall bywyd o ddydd i ddydd fod yn heriol ac yn llethol i rai pobl. Gobeithiwn y bydd yr adnoddau isod yn ddefnyddiol ac yn eich helpu gydag unrhyw anawsterau y gallech fod yn eu cael.

Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer oedolion sydd wedi cael diagnosis neu’n amau bod ganddynt Awtistiaeth. Mae ein tudalen ar gyfer Awtistiaeth, Plant ac Oedolion Ifanc wrthi’n cael ei datblygu. Tra bod hon yn cael ei datblygu, ewch i Awtistiaeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Cyngor hunangymorth i Oedolion Awtistig

  • Mae gofalu am eich lles corfforol a meddyliol eich hun yn bwysig. Mae yna bethau syml y gall pawb ohonom eu gwneud i helpu i ofalu am ein hiechyd meddwl. Ewch i’n hadran gofalu am eich hun i gael rhagor o wybodaeth a chyngor.
  • Mae 5 cam y pawb ohonom eu cymryd i ofalu am ein lles meddyliol. Tybed a allwch chi gynnwys rhai o’n Pum Ffordd at Les yn eich bywyd bob dydd. Yno gallwch ddod o hyd i syniadau ynglŷn â sut i wneud hyn, neu greu rhai eich hun.
  • Os ydych chi’n teimlo’n bryderus, edrychwch ar dudalen Gorbryder Melo.
  • Efallai y byddwch am ymuno â grŵp i gwrdd ag eraill sydd â diagnosis o awtistiaeth, i’ch helpu i deimlo’n llai unig a’ch helpu i greu rhwydwaith cefnogi a datblygu cyfeillgarwch. Rhestrir rhai sefydliadau sy’n cynnig grwpiau cymorth yn yr adnoddau isod.
  • Mae llawer o’r gwasanaethau cymorth a restrir isod yn cynnig eiriolaeth, gwybodaeth ac arweiniad ar hyfforddiant, addysg, tai, cyflogaeth a llawer mwy.

Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod angen cymorth brys – ewch i’n tudalen cymorth brys ar unwaith.

Os oes angen cymorth pellach arnoch

Os nad yw’r wybodaeth, cyngor, adnoddau a chyrsiau ar y dudalen hon wedi bod o gymorth a/neu os ydych yn teimlo bod angen mwy o help arnoch, mae llawer o wasanaethau am ddim ar gael. Gweler adnoddau a llinellau cymorth isod.

Beth i’w wneud os ydych yn meddwl bod gennych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, awtistiaeth?

Os ydych yn oedolyn, yn byw yng Ngwent ac yn credu y gallai fod gennych Awtistiaeth gallwch hunanatgyfeirio at y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn BIP AB. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses asesu a diagnosis yma: Gwasanaeth Awtistiaeth BIP AB. Os ydych yng ngofal tîm iechyd meddwl cymunedol, bydd angen i’ch cydlynydd gofal eich atgyfeirio at y gweithiwr proffesiynol priodol.

Beth fydd yr asesiad yn ei gynnwys?

Cynhelir asesiad awtistiaeth gan glinigwyr arbenigol cymwys. Gall sut y cynhelir yr asesiad amrywio, ond fel arfer bydd yn cynnwys o leiaf ddau glinigwr yn cyflawni gwahanol rannau a bydd yn dilyn canllawiau NICE. Gall yr asesiadau gynnwys

  • Ymgynghoriad cyn diagnostig
  • Cyfweliad clinigol gan ddefnyddio offeryn wedi’i ddilysu
  • Asesiad arsylwadol

Lle bo modd, byddem yn ceisio cynnwys rhywun sy’n eich adnabod yn dda, ac yn ddelfrydol oedd yn eich adnabod fel plentyn.

Beth fydd yn digwydd os caf ddiagnosis?

Anfonir copi o’r adroddiad diagnostig atoch. Os cewch ddiagnosis o Awtistiaeth, byddwch yn cael cynnig y cyfle i drefnu apwyntiad dilynol. Bydd hyn yn eich galluogi i drafod beth mae’n ei olygu i chi, a pha gymorth a allai fod ar gael.

I ddarganfod mwy am awtistiaeth a sut y gellir ei reoli, gweler ein hadnoddau isod.

Neu gallwch gysylltu â gwasanaeth / llinell gymorth gymeradwy arall a restrir isod. Mae rhai gwasanaethau ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Os ydych yn poeni am eich iechyd meddwl:

Gallech drefnu apwyntiad gyda’ch Ymarferydd Iechyd Seicolegol (PHP) neu Feddyg Teulu. Ymarferwyr iechyd meddwl y GIG yw PHPs sy’n darparu gwasanaeth am ddim i bobl sy’n cael problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol.

 

Last updated: 12.04.2023
feedback

A yw’r dudalen hon yn ddefnyddiol?

Rhowch eich adborth i ni

Mae gwybod beth oedd yn ddefnyddiol neu’n annefnyddiol i chi yn bwysig iawn i ni. Os oes gennych rywfaint o amser, rhowch wybod i ni beth oedd yn ddefnyddiol i chi ac os oes unrhyw beth y gallem ei wella. Diolch.

Adnoddau hunangymorth i oedolion ag awtistiaeth

MathTeitlYn gysylltiedig â…Darparwr
Gwefannau Gwefannau

Gwefan Awtistiaeth Cymru – Gwybodaeth, gwasanaethau a chyfleoedd hyfforddi sydd ar gael ar-lein a ledled Cymru

Awtistiaeth Oedolion

Awtistiaeth Cymru

Gwefannau Gwefannau

Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth – Cyngor ac arweiniad ar yr heriau y mae pobl awtistig a’u teuluoedd yn eu hwynebu gan gynnwys materion yn ymwneud ag ymddygiad, addysg ac iechyd

Awtistiaeth Oedolion

National Autistic Society

Gwefannau Gwefannau

Autistic Minds – Ystod o gymorth, gwasanaethau a mentrau ledled Cymru, a Hyb Cymorth sy’n cwmpasu’r DU

Awtistiaeth Oedolion

Autistic Minds

Gwefannau Gwefannau

Autistic Spectrum Connections Cymru – Cymorth a chyngor 1:1 ar dai, cyflogaeth a budd-daliadau (16 oed a hŷn)

Awtistiaeth Oedolion

Autism Spectrum Connections Cymru

Gwefannau Gwefannau

Grŵp Cymorth One Life Autism – Darparu cymorth a chefnogaeth i unigolion a theuluoedd ym Mlaenau Gwent a’r cyffiniau yr effeithir arnynt yn bennaf gan awtistiaeth ac anghenion cymhleth eraill, a all ddioddef o unigedd ac iselder

Awtistiaeth Oedolion

One Life Autism Support Group

Yn dangos 5 o ganlyniadau

Llinellau cymorth yn darparu gwybodaeth a chyngor i helpu oedolion awtistig

HelpHub – Autistic Minds

Mae’r HelpHub yn wasanaeth unigryw rydym yn ei ddarparu i gymunedau awtistiaeth ledled y DU.

Wedi’i reoli gan ein tîm awtistig, gall unrhyw un sydd angen cymorth gysylltu â ni dros y ffôn, e-bost neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol i gael cymorth personol a chyfrinachol a gwybodaeth am ystod eang o faterion gan gynnwys diagnosis, cyflogaeth, addysg, budd-daliadau neu unrhyw beth arall y gallent teimlo bod angen cymorth arnynt.

Ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am-4pm

Ewch i’r HelpHub ➝
Yn dangos 1 canlyniad
feedback

A yw’r dudalen hon yn ddefnyddiol?