Lawrlwytho’r dudalen hon fel PDF (agor mewn ffenestr newydd)
Beth yw dicter?
Mae dicter yn emosiwn dynol normal y bydd pawb ohonom yn debygol o’i brofi rywbryd. Gall ein dicter fod yn adwaith i brofiad anodd yn ein bywyd pob dydd, ein gorffennol neu yn y byd o’n cwmpas. Gall dicter weithiau fod yn emosiwn cadarnhaol; mae’n rhan o’n hymateb ymladd neu ffoi sy’n helpu i’n cadw’n ddiogel pan fyddwn yn teimlo dan fygythiad.
Fodd bynnag, i rai pobl ni allant reoli eu dicter yn effeithiol, a gall fynd allan o reolaeth ac achosi problemau gyda pherthnasoedd, gwaith a hyd yn oed y gyfraith.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo’n ddig weithiau, ond os ydych chi’n cael trafferth rheoli’ch dicter a’i fod yn effeithio ar eich bywyd chi neu’r rheini o’ch cwmpas, mae yna bethau y gallwch roi cynnig arnynt a allai helpu.
Gall gael ei sbarduno gan amrywiaeth o bethau gan gynnwys teimlo:
- Wedi cael siom
- Wedi’ch trin yn annheg
- Dan fygythiad neu ofn
- O dan lawer o straen
Symptomau ac arwyddion dicter
Gall dicter achosi gwahanol symptomau. Gall effeithio ar sut rydych chi’n teimlo’n gorfforol, yn feddyliol neu sut rydych yn ymddwyn. Pan fyddwn yn teimlo’n ddig mae ein cyrff yn ymateb mewn gwahanol ffyrdd, mae rhai o’r arwyddion corfforol y gallech eu gweld yn cynnwys:
- Calon yn curo’n gyflym, eich cyhyrau’n teimlo’n dynn, cau eich dyrnau, tyndra yn eich brest, teimlo’n boeth ac yn chwyslyd, teimlo’n llawn tyndra neu’n nerfus, cael trafferth ymlacio neu’n cael eich cythruddo’n hawdd gan bobl eraill
Cyngor hunangymorth i reoli dicter
Mae yna bethau y gallwch eu gwneud i helpu i reoli eich dicter
- Nodwch y pethau sy’n sbarduno eich dicter. Dysgwch i adnabod yr arwyddion eich bod yn dechrau gwylltio. Os yn bosibl, tynnwch eich hun allan o’r sefyllfa, ewch am dro neu cyfrwch i 10 cyn ymateb.
- Rhowch gynnig ar ymarferion ymlacio ac anadlu. Gweler ein fideos isod.
- Tynnwch eich sylw gyda gweithgareddau rydych yn eu mwynhau.
- Darganfyddwch fwy am ddicter a sut y gellir ei reoli. Cadwch gofnod dicter i nodi pan fyddwch chi’n teimlo’n ddig er mwyn monitro beth sy’n sbarduno’r meddyliau a’r teimladau hyn. Gweler ein hadnoddau hunangymorth isod.
- Dysgwch sgiliau newydd i reoli dicter. Gweler ein cyrsiau hunangymorth isod.
- Mae rhai pobl yn gweld bod gweithgaredd corfforol yn ddefnyddiol iawn i reoli eu dicter. Ewch i’n pwnc Bod yn egnïol i gael rhagor o wybodaeth a chyngor.
- Nid oes angen i chi deimlo eich bod ar eich pen eich hun pan gewch y teimladau hyn. Os ydych yn teimlo bod eich dicter yn mynd allan o reolaeth siaradwch â rhywun rydych yn ymddiried ynddo/ynddi neu cysylltwch â gwasanaeth cymorth am ddim. Gweler ein hadran Llinellau Cymorth a Gwasanaethau isod. Os oes angen cymorth brys arnoch chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod – ewch i’n tudalen cymorth brys ar unwaith.
- Os ydych yn rhiant a/neu yn ofalwr ac angen cyngor ar ddeall ac ymateb i ymddygiad eich plant, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Os oes angen cymorth pellach arnoch i reoli dicter
Os nad yw’r wybodaeth, y cyngor, yr adnoddau a’r cyrsiau ar y dudalen hon wedi bod yn ddefnyddiol a/neu os ydych yn meddwl bod angen mwy o help arnoch, mae llawer o wasanaethau cymorth am ddim ar gael.
Os ydych yn poeni am eich iechyd meddwl cyffredinol, cysylltwch ag Iechyd Meddwl GIG 111 Opsiwn 2. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos a gellir ei ffonio am ddim o ffôn symudol (hyd yn oed pan nad oes gan y galwr gredyd ar ôl) neu o linell dir. Bydd y gwasanaeth yn darparu cymorth ar unwaith dros y ffôn er mwyn helpu i ymdopi â sut rydych yn teimlo ac, os oes angen, trefnir atgyfeiriad i wasanaethau iechyd meddwl.
Os ydych chi’n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a dros 18 oed, gallwch gysylltu â’ch meddygfa i drefnu apwyntiad gydag Ymarferydd Iechyd Seicolegol (PHP) neu Feddyg Teulu. Ymarferwyr iechyd meddwl y GIG yw PHP, sydd ar gael mewn rhai meddygfeydd yn ardal BIP Aneurin Bevan ac yn darparu gwasanaeth am ddim i bobl sy’n cael problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol. Gall apwyntiadau fod naill ai wyneb yn wyneb, neu dros y ffôn.
Os ydych dan 18 oed neu’n poeni am rywun sydd dan 18 oed ac angen cyngor hunan-atgyfeiriad i wasanaethau iechyd meddwl a lles lleol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, cysylltwch â SPACE-Wellbeing.
Neu cysylltwch â llinell gymorth neu wasanaeth cymeradwy arall. Mae rhai gwasanaethau ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Os ydych chi’n ofalwr di-dâl i rywun sy’n profi dicter, ewch i’n tudalen Gofalwyr Di-dâl am ragor o wybodaeth a chyngor.
Last updated: 25.09.2023