Beth yw anffrwythlondeb?
Anffrwythlondeb yw pan na all cwpl feichiogi (cenhedlu plentyn), er gwaethaf cael rhyw heb ddiogelwch yn rheolaidd.
Bydd tua un o bob chwe chwpl yn y DU yn cael anawsterau beichiogi, mae hyn yn cyfateb i oddeutu 3.5 miliwn o bobl ledled y wlad. Mae llawer o achosion posibl anffrwythlondeb, gyda phroblemau ffrwythlondeb yn effeithio ar ddynion a menywod. Fodd bynnag, weithiau gall fod yn anodd dod o hyd i’r achos. Gallwch ddarganfod mwy am rai o’r cyflyrau a all effeithio ar eich ffrwythlondeb yma: Achosion | Fertility Network UK (fertilitynetworkuk.org)
Gall Fertility Network UK helpu unrhyw un sy’n ceisio beichiogi, yn mynd trwy driniaeth neu’n byw heb blant. Maen nhw’n gwybod nad oes ‘un dull addas i bawb’ o ran ffrwythlondeb, felly dyna pam maent yn cynnig ystod eang o adnoddau a chymorth, gan gynnwys grwpiau cymorth cymheiriaid, cymuned ar-lein, gweminarau, llinell gymorth a chyfoeth o wybodaeth a thaflenni ffeithiau ffrwythlondeb ar-lein.
Yn Melo, rydym yn gwybod bod effaith emosiynol anffrwythlondeb yn enfawr a gall effeithio’n sylweddol ar eich iechyd meddwl a’ch lles. Mae teimladau o dristwch, rhwystredigaeth, unigedd, dagrau, annigonolrwydd, euogrwydd a dicter i gyd yn gyffredin.
Os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl a’ch lles o ganlyniad i broblemau ffrwythlondeb, efallai y bydd y cyngor hunangymorth a’r adnoddau isod yn ddefnyddiol i chi.
Cyngor hunangymorth
Mae gofalu am eich iechyd meddwl a chorfforol yn bwysig. Mae cael digon o gwsg yn y nos, bwyta’n dda a bod yn gorfforol egnïol i gyd yn gamau y gallwch eu cymryd a all arwain at welliannau mawr yn eich iechyd meddwl a chorfforol. Darllenwch ein tudalen gofalu am fy lles meddwl am ragor o wybodaeth.
Mae triniaeth ffrwythlondeb yn broses hir gydag uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ar hyd y daith. Gallai Ymwybyddiaeth Ofalgar neu fyfyrdod fod yn ddefnyddiol.
Os ydych chi’n teimlo dan straen, edrychwch ar ein tudalen straen am adnoddau ychwanegol.
Cofiwch, os oes gennych bartner efallai y bydd ganddo ef neu hi hefyd lefelau straen uwch na’r arfer wrth fynd trwy’r daith o archwiliadau a thriniaethau. Dysgwch sut i siarad â’ch gilydd a rhannu eich teimladau.
Gall fod llawer o bethau sy’n mynnu eich sylw yn ystod archwiliadau a thriniaeth ffrwythlondeb, ac mae’n bwysig treulio amser yn gwneud rhywbeth i chi’ch hun yn unig. Gallai hynny olygu cael sesiynau aciwbigo neu dylino, cael bath i ymlacio, cynnau canhwyllau.
Efallai y byddwch am ymuno â grŵp cymorth sy’n rhoi cyfle i chi gael gwybodaeth a chefnogaeth, trafod gwasanaethau, gwrando ar sgyrsiau arbenigol, a siarad ag eraill sy’n deall yn iawn yr hyn yr ydych yn mynd drwyddo.
Gall siarad â ffrindiau a theulu fod yn ddefnyddiol, mae llawer o emosiynau yn codi yn ystod IVF a gall helpu i ddod o hyd i rywfaint o gefnogaeth
Mae llawer o gyngor defnyddiol ar wefan Fertility Network UK.
Os oes angen cymorth pellach arnoch
Os nad yw’r wybodaeth, y cyngor, yr adnoddau a’r cyrsiau ar y dudalen hon wedi bod yn ddefnyddiol a/neu os ydych yn meddwl bod angen mwy o help arnoch, mae llawer o wasanaethau am ddim ar gael, gan gynnwys Llinell Gymorth Fertility Network UK.
Os nad ydych wedi bod yn llwyddiannus ar ôl 12 mis o geisio beichiogi, dylech ymgynghori â’ch meddyg teulu, ac os ydych dros 35 oed neu’n gwybod bod gennych broblem ffrwythlondeb dylech ofyn am gymorth yn gynharach.
Os ydych yn cael triniaeth ffrwythlondeb mewn canolfan drwyddedig yna dylai fod gennych fynediad at wasanaethau cwnsela yno. Defnyddiwch hwy, maent yno i’ch helpu chi.
Os ydych yn teimlo bod pethau’n effeithio ar eich iechyd meddwl gallech drefnu apwyntiad gyda’ch ymarferydd iechyd seicolegol (PHP) neu’ch meddyg teulu. Ymarferwyr iechyd meddwl y GIG yw PHP sy’n darparu gwasanaeth am ddim i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol.
Neu cysylltwch â gwasanaeth/llinell gymorth gymeradwy arall. Mae rhai gwasanaethau ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Last updated: 27.01.2023