Lawrlwytho’r dudalen hon fel PDF (agor mewn ffenestr newydd)
Beth yw gorbryder?
Emosiwn dynol normal yw gorbryder. Gellir ei ddisgrifio fel teimlad o anesmwythder, fel ofn neu bryder. Mae gorbryder yn dod yn broblem pan fyddwch yn camddehongli a/neu’n trychinebu’r teimladau hyn fel na fydd eich meddyliau’n ddefnyddiol.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo gorbryder neu ofn weithiau. Fodd bynnag, os yw’r meddyliau hyn yn effeithio ar eich bywyd yna gallech fod yn profi ‘anhwylder gorbryder’.
Beth sy’n achosi gorbryder
Achosir teimladau gorbryderus gan ymateb awtomatig ein cyrff i ddigwyddiad sy’n cael ei ystyried yn straen neu’n frawychus. Esblygodd yr ymateb hwn filiynau o flynyddoedd yn ôl. Roedd yno’n wreiddiol i’n helpu i ymateb i beryglon neu fygythiadau sydyn. Roedd yn helpu i gadw bodau dynol cynnar yn fyw pan oeddent yn wynebu peryglon corfforol a oedd yn aml yn bygwth bywyd, megis wynebu anifail gwyllt. Gelwir yr ymateb hwn yn ‘ymladd neu ffoi’. Mae’n achosi adwaith corfforol yn ein cyrff (gweler y disgrifiad ‘ymladd neu ffoi’ isod).
Mae’r ymateb awtomatig hwn yn dal i gael ei sbarduno heddiw. Er bod y sefyllfaoedd o straen a brofwn yn y byd heddiw yn wahanol iawn i’r rheini a oedd yn bygwth bywyd a brofwyd gan ein cyndeidiau, maent yn dal i arwain at yr un ymateb yn union yn ein cyrff. Felly, bydd pa sefyllfa bynnag sy’n peri straen neu fraw i ni yn sbarduno’r ymateb awtomatig hwn. Mae’n rhywbeth sy’n digwydd i’n cyrff pryd bynnag y daw ein hymennydd yn ymwybodol o berygl posibl. Nid oes gennym unrhyw reolaeth drosto.
Pryd mae gorbryder yn broblem iechyd meddwl?
O ganlyniad, gall pawb deimlo’n orbryderus o bryd i’w gilydd. Gall ychydig o bryder fod o gymorth gan ei fod yn eich gwneud yn fwy effro a gall wella eich gallu i ganolbwyntio/perfformio. Fodd bynnag, ar adegau yn ein bywyd, efallai y byddwn yn profi cyfnodau o orbryder cynyddol neu hirfaith. Gall hyn fod oherwydd pethau sy’n digwydd yn ein bywydau neu oherwydd meddyliau neu deimladau o straen penodol. Er enghraifft, efallai y byddwch yn teimlo’n orbryderus yn barhaus os ydych yn poeni am yr hyn y mae pobl yn ei feddwl amdanoch neu wrth gymharu’ch hun ag eraill.
Mae teimladau o orbryder fel arfer yn pasio ar ôl i’r sefyllfa sy’n peri’r straen ddod i ben. Fodd bynnag, os bydd y teimladau hynny’n parhau a’n pryderon yn mynd yn llethol neu’n anoddach eu rheoli, yna gallant effeithio mewn ffordd negyddol ar ein bywydau. Er enghraifft, gall gorbryder effeithio ar eich ymddygiad. Efallai y byddwch yn cuddio oddi wrth eraill neu osgoi lleoedd penodol. Gall wneud i chi deimlo na allwch ymdopi â sefyllfa benodol.
Mae gorbryder yn teimlo’n wahanol i bawb. Gall bara am amser hir neu fe allai fynd a dod. Mae’n ddefnyddiol ceisio deall beth sy’n achosi eich teimladau o orbryder, pam mae’ch corff yn ymateb mewn ffordd arbennig a sut gallwch chi reoli’ch gorbryder. Gweler ein hadnoddau a chyrsiau isod am ragor o wybodaeth a chyngor. Os oes angen rhagor o help arnoch i reoli eich gorbryder, mae help ar gael.
Beth yw Ymateb Ymladd neu Ffoi (dianc)?
Mae’r ymateb ymladd neu ffoi yn sbarduno’ch ymennydd i ryddhau hormonau (cortisol ac adrenalin) a’i fwriad gwreiddiol oedd helpu i baratoi eich corff i redeg i ffwrdd neu ymladd pan oedd yn synhwyro perygl. Mae’r ymateb hwn yn dal i ddigwydd heddiw pan fyddwn yn synhwyro perygl neu sefyllfa o straen. Mae hyn yn digwydd hyd yn oed os nad ydych yn defnyddio’ch corff i ymladd neu ffoi. Gall sbarduno’r symptomau corfforol uniongyrchol canlynol:
-
- Mae ein hanadlu’n cyflymu ac yn mynd yn drymach, felly gallwn gael ocsigen ychwanegol er mwyn rhedeg. Gall hyn arwain at deimlo’n sâl, yn benysgafn, yn chwyslyd neu’n fyr o wynt.
- Mae ein cyhyrau’n tynhau i baratoi i redeg a all wneud i’ch coesau deimlo’n sigledig.
- Mae gwaed yn cael ei ddargyfeirio o’n system dreulio, i greu mwy o egni ar gyfer rhedeg a all arwain at deimlad ‘gloÿnnod byw’ yn y stumog a’n cegau i fynd yn sych.
- Mae ein calon yn curo’n gryfach ac yn gyflymach, ac weithiau’n afreolaidd, er mwyn anfon gwaed i gyhyrau’r coesau.
Mae’n bwysig cofio bod y teimladau hyn yn normal ac yn ymateb corfforol awtomatig. Bydd y teimladau hyn yn pylu’n raddol pan fydd y sefyllfa sy’n achosi’r straen yn mynd heibio a’ch corff yn dychwelyd i gyflwr normal. Fodd bynnag, pan fyddwn yn profi’r teimladau hyn ac nad ydym yn defnyddio’r ‘egni’, gall deimlo’n frawychus ac annymunol.Pan fydd teimladau o orbryder yn parhau am gyfnod o amser gall hyn arwain at arwyddion a symptomau eraill y gallech fod eisiau ceisio cymorth ar eu cyfer. Bydd rhai pobl yn cael y symptomau hyn mor gryf fel eu bod yn meddwl eu bod yn marw; gelwir hyn weithiau’n ‘Bwl o Banig’.
Neu cysylltwch â llinell gymorth neu wasanaeth cymeradwy arall. Mae rhai gwasanaethau ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Os ydych yn ofalwr di-dâl i rywun sy’n profi gorbryder, ewch i’n tudalen Gofalwyr Di-dâl i gael rhagor o wybodaeth a chyngor.
Last updated: 16.08.2023