Beth yw hunan-niweidio?
Mae hunan-niweidio fel arfer yn cyfeirio at rywun sy’n achosi niwed iddo/iddi ei hun yn fwriadol a gall fod ar sawl ffurf. Gall gynnwys niwed corfforol a achosir i’r corff, yn ogystal â niwed emosiynol.
Gall torri, llosgi, crafu, tynnu gwallt, pigo croen, camddefnyddio alcohol neu gyffuriau, ymddygiad cymryd risg a pheidio â gofalu amdanoch eich hun i gyd fod yn fathau o hunan-niweidio.
Mae rhai pobl yn defnyddio hunan-niweidio fel ffordd o ymdopi â bywyd, emosiynau, sefyllfaoedd a meddyliau anodd, ond mae’n bwysig cofio bod rheswm pawb dros hunan-niweidio mor unigol â hwy eu hunain.
Gwybodaeth a chyngor defnyddiol
Weithiau mae arwyddion clir bod rhywun yn hunan-niweidio, ar adegau eraill gall fod yn anoddach dweud.
Mae pobl yn aml yn ceisio cuddio hunan-niweidio oherwydd cywilydd neu ofn y bydd eraill yn dod i wybod am hynny.
Gall fod yn fater i deulu a ffrindiau agos sylwi pan fydd rhywun yn hunan-niweidio, ac ymdrin â’r pwnc gyda gofal a dealltwriaeth.
Gall arwyddion bod person yn hunan-niweidio gynnwys newid mewn ymddygiad, encilio o weithgareddau arferol, gwisgo topiau llewys hir i guddio, anafiadau anesboniadwy neu hwyliau isel.
Gall rhywun sy’n hunan-niweidio frifo ei hun yn ddifrifol, felly mae’n bwysig eu bod yn siarad â rhywun am gymorth a chyngor. Gallai hyn fod yn feddyg teulu, gweithiwr iechyd proffesiynol arall, neu oedolyn y gellir ymddiried ynddo.
Cyngor hunangymorth
Yn ogystal â gwasanaethau/llinellau cymorth, mae yna adnoddau sy’n darparu gwybodaeth i helpu pobl i ddeall pam mae pobl yn hunan-niweidio. Maent yn rhoi cyngor ar sut i wrthsefyll neu reoli’r ysfa i hunan-niweidio.
Mae ein hadnoddau hunangymorth isod yn cynnwys:
- Gwefannau cymeradwy sy’n helpu pobl i ddeall hunan-niweidio, yn ogystal â rhoi cyngor.
- Apiau cymeradwy am ddim, sy’n darparu gwybodaeth a chyngor i’ch helpu i wrthsefyll neu reoli’r ysfa i hunan-niweidio.
- Gwybodaeth ddefnyddiol gan gynnwys canllaw ‘Dod o Hyd i’ch Ffordd’ y Samariaid, sy’n cynnwys cyngor ar sut i ddatblygu cynllun diogelwch hunan-niweidio. Mae gwybodaeth hefyd wedi’i chynhyrchu gan PAPYRUS Prevention of Young Suicide.
- Gall dod o hyd i ffyrdd sy’n eich helpu i osgoi, oedi neu leihau hunan-niweidio helpu i’ch cael chi drwy’r teimladau rydych chi’n eu profi. Gall hyn gynnwys siarad â rhywun, gwneud ymarfer corff, gwrando ar gerddoriaeth, gwylio’r teledu, tynnu lluniau, canu, sgrechian i mewn i obennydd, taro clustog neu gadw dyddiadur.
- Os oes angen rhai syniadau eraill arnoch ar gyfer dulliau i dynnu sylw, gallech lawrlwytho’r Ap Calm Harm
- Gallech wneud blwch cysur. Dyma flwch lle rydych yn cadw casgliad o bethau sy’n dod â chysur i chi a allai eich helpu i ddelio â straen ac emosiynau anodd. Ceisiwch gynnwys pethau yn y blwch a fydd yn lleddfu eich holl synhwyrau a chanolbwyntio ar eich synhwyrau corfforol pan fyddwch yn eu defnyddio e.e.
- Golwg – albwm lluniau, llyfr rydych chi’n ei fwynhau, nodyn atgoffa ar gyfer ffilmiau sy’n gwneud i chi deimlo’n dda.
- Clyw – rhestr chwarae hapus, llyfr sain, rhifau llinellau cymorth fel y gallwch siarad â rhywun.
- Arogl – cannwyll sent, coffi, persawr.
- Blas – hoff ddanteithion neu ddiod.
- Cyffwrdd – hufen llaw, colur, blanced, pêl straen neu degan esmwytho.
- Efallai y byddwch am gael gwybod am Ymwybyddiaeth Ofalgar sy’n ein hannog i ddod yn fwy ymwybodol o’n meddyliau a’n teimladau fel y gallwn eu rheoli mewn ffordd wahanol gyda chanlyniadau mwy cadarnhaol.
- Os nad yw’r wybodaeth, cyngor, adnoddau a chyrsiau ar y dudalen hon wedi bod yn ddefnyddiol a/neu os ydych yn meddwl bod angen mwy o help arnoch, mae llawer o wasanaethau cymorth ar gael am ddim. Gweler isod.
Os oes angen cymorth pellach arnoch
- Os ydych yn teimlo y gallech niweidio eich hun a/neu eisoes yn hunan-niweidio, nid oes angen i chi brofi’r teimladau hyn ar eich pen eich hun. Siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo/ynddi neu siaradwch â’ch meddyg teulu. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi siarad â sefydliad gwrando neu gefnogi am ddim. Gweler ein hadran ‘llinellau cymorth’ isod.
- Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod angen cymorth brys – ewch i’n tudalen ‘cymorth brys’ ar unwaith.
- Yn aml gellir trin hunan-niweidio neu anafiadau gartref; fodd bynnag, dylech geisio sylw meddygol ar unwaith os nad yw gwaedu yn peidio, os oes llosgiad sy’n fwy na darn 5c, os yw’r person wedi llyncu rhywbeth neu wedi cymryd gorddos. Os oes gennych glwyfau ar eich croen a’u bod yn edrych fel pe baent wedi mynd yn heintus neu nad ydynt yn gwella’n iawn, cysylltwch â’ch meddyg teulu i gael asesiad.
- Os ydych dan 18 oed ac angen cyngor hunan-atgyfeiriad i wasanaethau iechyd meddwl a lles lleol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, cysylltwch â SPACE Wellbeing. Mae’r manylion i’w cael ar y wefan.
- Os ydych yn byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a dros 18 oed, gallwch drefnu apwyntiad gydag Ymarferydd Iechyd Seicolegol (PHP) neu Feddyg Teulu trwy gysylltu â’ch meddygfa leol. Ymarferwyr iechyd meddwl y GIG yw PHPs sy’n darparu gwasanaeth am ddim i bobl sy’n cael problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol.
Last updated: 25.09.2023