Skip to main content

Iselder

Adnabyddir yn gyffredin fel: isel, wedi cael llond bol, i lawr, yn drist

Iselder

Archwiliwch iselder drwy sgrolio drwy’r dudalen neu dewiswch opsiwn o’r gwymplen os ydych am neidio i adran berthnasol y dudalen:

need help now

Angen cymorth brys?

Os ydych chi’n teimlo bod eich bywyd chi, neu fywyd rhywun arall, mewn perygl ffoniwch 999 neu ewch i’ch Adran Achosion Brys leol.

Beth yw iselder?

Mae’n normal teimlo’n isel neu wedi cael llond bol o bryd i’w gilydd. Os nad yw hwyliau isel yn mynd i ffwrdd gall fod yn arwydd o iselder. Mae arwyddion a symptomau iselder yn amrywio. Bydd profiad pawb yn wahanol. Os bydd unrhyw un o’r arwyddion neu’r symptomau a restrir isod yn para mwy nag ychydig wythnosau, ceisiwch gyngor. Gweler ein hadran cyngor hunangymorth isod.

Mae pobl yn disgrifio ystod o symptomau sy’n gysylltiedig ag iselder, gan gynnwys:

  • Teimlo’n drist neu’n fyr eich tymer ac yn flin
  • Teimlad o golled
  • Yn ddagreuol
  • Ddim yn mwynhau’r pethau oedd yn arfer eich gwneud chi’n hapus mwyach
  • Euog ac ymdeimlad eich bod yn ddiwerth, bod neb yn eich caru chi
  • Diffyg hyder a hunan-barch
  • Teimlo’n anobeithiol am y dyfodol
  • Meddyliau am hunanladdiad a hunan-niwed
  • Teimlo’n flinedig iawn / yn ddiegni

Gall y teimladau hyn arwain at newidiadau yn y ffordd yr ydym yn ymddwyn, megis

  • Peidio codi o’r gwely
  • Osgoi cyswllt cymdeithasol
  • Ddim yn bwyta neu’n bwyta am gysur
  • Dod yn aflonydd a chynhyrfus neu’n cael trafferth symud
  • Cynyddu’r defnydd o alcohol, sigaréts, cyffuriau
  • Canolbwyntio a chof gwael

 

Cyngor hunangymorth i reoli iselder

  • Dysgwch fwy am iselder a sut y gellir ei reoli. Gweler ein hadnoddau hunangymorth isod.
  • Dysgwch sgiliau newydd i reoli iselder. Gweler ein cyrsiau hunangymorth isod.
  • Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n digwydd yn eich ardal leol. Darganfyddwch beth sy’n digwydd yn eich ardal chi trwy ymweld â’n tudalen yn eich ardal chi.
  • Mae yna bethau syml y gallwn ni i gyd eu gwneud i helpu i ofalu am ein hiechyd meddwl. Er enghraifft, mae rhai pobl yn gweld bod yn egnïol yn ddefnyddiol iawn wrth reoli eu hiselder. Ewch i’n hadran gofalu amdanoch eich hun am ragor o wybodaeth a chyngor.
  • Nid oes angen i chi brofi’r teimladau hyn ar eich pen eich hun. Siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo neu edrychwch ar ein hadran ‘llinellau cymorth’ isod. Ac os oes angen help brys arnoch chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod – ewch i’n tudalen cymorth brys ar unwaith.

 

Os oes angen cymorth pellach arnoch i reoli iselder

Os nad yw’r wybodaeth, cyngor, adnoddau a chyrsiau ar y dudalen hon wedi bod yn ddefnyddiol a/neu rydych chi’n meddwl bod angen mwy o help arnoch chi, mae llawer o wasanaethau cymorth am ddim ar gael.

Os ydych yn byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a thros 18 oed, gallwch wneud apwyntiad gydag Ymarferydd Iechyd Seicolegol (PHP) neu Feddyg Teulu trwy gysylltu â’ch meddygfa leol. Mae PWPs yn ymarferwyr iechyd meddwl y GIG sy’n darparu gwasanaeth am ddim i bobl sy’n profi problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol.

Os ydych o dan 18 oed neu’n poeni am rywun o dan 18 oed ac angen cyngor/hunan gyfeirio ar frys i wasanaethau iechyd meddwl a lles lleol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, cysylltwch â SPACE-Wellbeing.

Neu fel arall cysylltwch â llinell gymorth gymeradwy arall. Mae rhai gwasanaethau ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Last updated: 16.12.2022

Adnoddau hunangymorth i helpu i reoli iselder

Os ydych yn teimlo eich bod am wneud rhywbeth am eich hwyliau, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi roi cynnig ar un o’n hadnoddau hunangymorth rhad ac am ddim.

MathTeitlYn gysylltiedig â…Darparwr
Gwefannau Gwefannau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – Gwasanaeth Ymarferwyr Iechyd Seicolegol (PHP) a chymorth gan Feddygon Teulu

Dicter, Hunan-niwed, Hwyliau Isel, Iechyd Meddwl, Iechyd Meddwl Dynion, Iselder, Pobl Hŷn, Pryder, Pryder Cymdeithasol, Straen mind
Gwefannau Gwefannau

Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc – Hwyliau Isel

Hwyliau Isel, Iechyd Meddwl Myfyrwyr, Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, Iselder, Lles Meddyliol Plant, Straen mind
Darllen Darllen

Iselder a hwyliau isel – Canllaw Hunangymorth y GIG

Hwyliau Isel, Iselder mind
Darllen Darllen

Iselder Ôl-enedigol – Canllaw Hunangymorth y GIG

Beichiogrwydd, Hwyliau Isel, Iselder mind
Darllen Darllen

Iselder – Canllaw Hawdd ei Ddeall y GIG (Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael)

Hwyliau Isel, Iselder mind
Darllen Darllen

Iselder a Hwyliau Isel Carcharorion – Canllaw Hunangymorth y GIG (Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael)

Hwyliau Isel, Iselder mind
Darllen Darllen

Darllen yn Dda – Llyfrau am Ddim ar gyfer Iechyd Meddwl o’ch Llyfrgell Leol

Cwsg, Dicter, Galar a Phrofedigaeth, Hunan-barch, Hunan-niwed, Hunanofal, Hwyliau Isel, Iselder, Pryder, Pryder Cymdeithasol, Straen, Ymwybyddiaeth Fyfyriol mind
Gwefannau Gwefannau

Ap Hunangymorth y Samariaid (Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael)

Hunan-niwed, Hunanladdiad, Hwyliau Isel, Iechyd Meddwl Myfyrwyr, Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, Iselder mind
Gwefannau Gwefannau

Heads Above The Waves – sefydliad nid er elw sy’n hyrwyddo ffyrdd cadarnhaol o ddelio ag iselder a hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc

Hunan-niwed, Hunanladdiad, Iechyd Meddwl Myfyrwyr, Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, Iselder mind
Gwefannau Gwefannau

GIG 111 Cymru – Iselder

Iselder mind
Yn dangos 10 allan o 42 o ganlyniadau Gweld pob

Fideos cysylltiedig

1 munud Gofod Anadlu | Rheoli Straen – Melo Cymru

Yn dangos 1 allan o 6 o ganlyniadau Gweld pob

Llinellau cymorth yn darparu gwybodaeth a chyngor os ydych yn teimlo'n isel

Gweler isod am linellau cymorth sy’n berthnasol i iselder. I weld ein rhestr lawn o linellau cymorth, ewch i’n tudalen llinellau cymorth.

CALL Mental Health Listening Line Logo

Llinell Wrando Iechyd Meddwl C.A.L.L.

Cyngor Cymunedol a Llinell Wrando

Darparu llinell gymorth emosiynol a gwrando gyfrinachol ar iechyd meddwl sydd ar agor 24/7. Gall CALL hefyd gyfeirio at gefnogaeth mewn cymunedau lleol ac ystod o wybodaeth ar-lein.

Ewch i wefan CALL ➝

Shout

Tecstiwch Shout i 85258 – Shout yw gwasanaeth testun 24/7 cyntaf y DU, sydd am ddim ar bob rhwydwaith symudol mawr, i unrhyw un mewn argyfwng unrhyw bryd, unrhyw le.

Mae’n lle i fynd os ydych chi’n cael trafferth ymdopi a bod angen cymorth ar unwaith arnoch.

Mae Shout yn cael ei gynnal gan dîm o wirfoddolwyr, sydd wrth galon y gwasanaeth. Rydym yn mynd â phobl o argyfwng i dawelwch bob dydd.

Ewch i wefan Shout ➝
Childline Logo

Childline – ar gyfer plant a phobl ifanc dan 19 oed

Mae Childline yma i helpu unrhyw un o dan 19 oed yn y DU gydag unrhyw fater maent yn mynd drwyddo. Gallwch siarad am unrhyw beth. P’un a yw’n rhywbeth mawr neu fach, mae ein cynghorwyr hyfforddedig yma i’ch cefnogi chi.

Mynnwch help a chyngor ar ystod eang o faterion, ffoniwch ni, siaradwch â chynghorydd ar-lein, anfonwch e-bost at Childline neu postiwch ar y byrddau negeseuon.

Ffoniwch 0800 1111 – ni fydd y rhif yn ymddangos ar eich bil ffôn.

Ewch i wefan Childline ➝
Yn dangos 3 allan o 6 o ganlyniadau Gweld pob