Archwiliwch LHDTAQ+ drwy sgrolio drwy’r dudalen neu dewiswch opsiwn o’r gwymplen os ydych am neidio i adran berthnasol y dudalen:
Efallai eich bod yn chwilio am wybodaeth fel yr ydych yn adnabod fel LHDTAQ+ (lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol, rhyngrywiol, anneuaidd, queer neu holi).
Mae pobl sy’n nodi eu bod yn LHDTAQ+ yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl fel iselder, pryder neu feddyliau hunanladdol. Mae hyn oherwydd nifer o resymau, sy’n cynnwys profi stigma, gwahaniaethu, ynysu cymdeithasol neu eithrio/gwrthod. Mae cymorth a chefnogaeth ar gael os ydych chi’n profi’r teimladau hyn.
Os ydych chi’n profi unrhyw un o’r teimladau hyn, yna edrychwch o gwmpas ein gwefan. Mae gennym ni wybodaeth, cyngor ac adnoddau yn ymwneud ag amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl cyffredin fel hunan-niweidio, meddyliau hunanladdol, iselder, dicter ac anhwylderau bwyta.
Tra bod y dudalen hon yn cael ei datblygu gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan y llinellau cymorth / gwasanaethau canlynol.
Last updated: 02.08.2022
Rhannwch y dudalen hon gyda ffrind
Os ydych chi'n meddwl y gall y dudalen hon helpu anwyliaid, rhannwch hi trwy'r opsiynau isod.
Adnoddau hunangymorth i'r rhai sy'n nodi eu bod yn LHDTAQ+
Math
Teitl
Yn gysylltiedig â…
Darparwr
Gwefannau
Cefnogaeth iechyd meddwl os ydych yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu draws (LHDTQ+) – GIG (Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael)
Rhyw a Rhywioldeb (LHDTRhC+)
Gwefannau
Cael babi os ydych yn LHDT+ – Cael gwybod am ddechrau teulu os ydych yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol neu anneuaidd | GIG (Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael)
Beichiogrwydd, Rhyw a Rhywioldeb (LHDTRhC+)
Fideo
Amser i Feddwl: Hunaniaeth – Mind Casnewydd (Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael)
Rhieni, Rhyw a Rhywioldeb (LHDTRhC+)
Gwefannau
Iechyd meddwl LHDTRhQ+ – Mind (Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael)
Rhyw a Rhywioldeb (LHDTRhC+)
Gwefannau
LHDTQ+ – GIG 111 Cymru
Rhyw a Rhywioldeb (LHDTRhC+)
Yn dangos 5 o ganlyniadau
Llinellau cymorth a chefnogaeth LHDTAQ+ arbenigol
Gweler isod am linellau cymorth sy’n berthnasol i’r rhai sydd LHDTAQ+. I weld ein rhestr lawn o linellau cymorth, ewch i’n tudalen llinellau cymorth.
Stonewall
Mae Stonewall wedi llunio rhestr o sefydliadau sy’n gweithio i gefnogi pobl LHDT yn y DU. Mae’r rhestr yn cynnwys gwasanaethau cymorth ar gyfer lles meddyliol a chymdeithasol, cyngor defnyddiol, cymorth i bobl draws a gwybodaeth am drais a cham-drin.
Mae Switsfwrdd LHDT+ yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a gwasanaeth cyfeirio i lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol a thraws Ð ac unrhyw un sy’n ystyried materion yn ymwneud â’u rhywioldeb a/neu hunaniaeth o ran rhywedd.
Llinell gymorth ar gyfer pobl LHDT a’u teuluoedd a’u ffrindiau. Ei nod yw darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar gyfer amrywiaeth o bynciau sy’n effeithio ar bobl yn y gymuned LHDT.
This content is restricted to site members. If you are an existing user, please log in. New users m...Darllen mwy ➝
Yn dangos 2 o ganlyniadau
Rhannwch y dudalen hon gyda ffrind
Rhannu yw gofalu. Os ydych chi'n meddwl y gall y dudalen hon helpu anwyliaid, rhannwch hi trwy'r opsiynau isod.
Prif bynciau cysylltiedig
Gorbryder
Gellir disgrifio gorbryder fel teimlad o anesmwythder, fel ofn neu bryder. Mae'n normal i deimlo'n bryderus am bethau bywyd bob dydd. Mae teimladau o bryder fel arfer yn mynd heibio. Rydym wedi coladu adnoddau ar gyfer ymdopi â phryder a sut i reoli bod yn bryderus.
Mae'n arferol i ni deimlo'n isel neu wedi cael llond bol o bryd i'w gilydd. Os nad yw hwyliau isel yn mynd i ffwrdd gall fod yn arwydd o iselder. Dewch o hyd i gyrsiau rhad ac am ddim, adnoddau a ffynonellau cymorth i'ch helpu gyda theimladau o iselder.
Gallai'r wybodaeth ganlynol fod o gymorth os ydych chi'n meddwl am hunanladdiad; neu os ydych chi'n adnabod rhywun sy'n meddwl am hunanladdiad. Mae ganddo syniadau i helpu pobl i aros yn ddiogel a ble i fynd am gefnogaeth.