Gadewch i ni ddechrau
Mae yna bethau syml y gallwn ni i gyd eu gwneud i ofalu am ein hiechyd meddwl a’n lles.
Bydd gofalu am ein lles meddwl – y cyfeirir ato weithiau fel hunanofal – yn wahanol i bawb. Yn syml, mae hunanofal yn golygu gwneud rhywbeth drosoch eich hun.
Mae’n ymwneud â chael rhywfaint o ‘amser i mi’. Gwneud rhywbeth sy’n eich helpu i ymlacio a theimlo’n hapusach. Fel gwrando ar eich hoff gerddoriaeth, gwylio’ch hoff ffilm, mynd am dro neu redeg, siarad â ffrindiau neu anwyliaid. Does dim rhaid iddo gymryd llawer o amser na chostio arian.
Ceisiwch dreulio mwy o amser yn gwneud y pethau sy’n eich gwneud chi’n hapus.Peidiwch â theimlo’n euog.Meddyliwch amdano fel gwaith cynnal a chadw hanfodol bob dydd.
Bydd gofalu amdanoch chi’ch hun a’ch lles yn eich helpu i ofalu am eraill
Mae’n arbennig o bwysig gofalu amdanoch chi’ch hun pan fyddwch chi’n gofalu am eraill – boed yn deulu, ffrindiau neu’ch swydd. Efallai eich bod wedi clywed y dywediad: ‘Ni allwch arllwys o gwpan gwag’.
Ein 10 Awgrym Da Ar Gyfer Gwell Lles Meddyliol
Isod mae ’10 awgrym da’, gan sefydliadau ac arbenigwyr iechyd meddwl blaenllaw, ar sut y gallwn ni i gyd ofalu am ein hiechyd meddwl a’n lles.
Ceisiwch wneud cymaint â phosibl bob dydd. Po fwyaf y byddwch chi’n eu hymarfer, yr hawsaf y byddant yn dod. Byddant yn dechrau dod yn rhan o’ch trefn ddyddiol arferol.
1 i 5 – Awgrymiadau Hunangymorth: Y Pum Ffordd at Les
Mae 5 cam y gallwn ni i gyd eu gwneud i wella ein hiechyd meddwl a’n lles. Fe’u gelwir yn ‘Pum Ffordd at Les’. Cawsant eu datblygu gan y Sefydliad Economaidd Newydd.
- Cysylltu â phobl eraill – Mae wedi’i brofi ein bod yn cael buddion cadarnhaol o gysylltu â phobl o’n cwmpas.
- Byddwch yn Egnïol – Mae gweithgaredd rheolaidd yn helpu i leihau straen a phryder, yn rhoi hwb i hyder, ac yn gwella lefelau egni.
- Sylwch – Dangoswyd bod talu sylw i’r foment bresennol (a elwir hefyd yn ymwybyddiaeth ofalgar) yn gwella eich lles meddyliol.
- Dal ati i Ddysgu – Gall dysgu sgiliau newydd wella’ch hyder a’ch hunan-barch.
- Rhoi – Mae astudiaethau arbenigol yn awgrymu y gall bod yn garedig ag eraill helpu i wella eich lles meddyliol
Gweler ein pwnc ar y 5 Ffordd at Les am ragor o wybodaeth.
Yn ogystal â’r Pum Ffordd at Les mae’r pethau canlynol yn bwysig ar gyfer iechyd meddwl da:
6 – Awgrym hunangymorth: Bwyta Bwyd Iach a Chadw wedi’ch Hydradu
Nid yw’r hyn rydym yn ei fwyta yn effeithio ar ein hiechyd corfforol yn unig: gall hefyd effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles. Mae cysylltiad rhwng yr hyn rydyn ni’n ei fwyta a sut rydyn ni’n teimlo. Gall bwyta’n dda wella’ch synnwyr o les a hwyliau. Mae’r hyn rydych chi’n ei yfed hefyd yn bwysig. Mae ymchwil wedi canfod y gall hyd yn oed dadhydradu ychydig effeithio ar eich hwyliau a gall yfed gormod o gaffein wneud pobl yn bryderus.
Os hoffech chi ddarganfod mwy am effaith bwyd ar ein meddyliau a’n cyrff, gweler ein pwnc bwyta’n iach.
7 – Awgrym hunangymorth: Alcohol – Yfed Risg Isel
Gall yfed alcohol, hyd yn oed ychydig bach, effeithio ar eich corff a’ch meddwl. Mae rhai pobl yn yfed alcohol i ymlacio neu helpu i ymdopi â straen dyddiol. Mae alcohol yn effeithio ar y rhan o’ch ymennydd sy’n rheoli ataliad. Ar ôl ychydig o ddiodydd byddwch chi’n teimlo’n fwy ymlaciol, yn llai pryderus ac yn fwy hyderus.
Mae’n bwysig deall bod alcohol yn iselydd. Mae’n ymyrryd â chemegau yn eich ymennydd sy’n effeithio ar eich teimladau, eich meddyliau a’ch ymddygiad.
Gall yfed yn drwm yn rheolaidd newid cyfansoddiad cemegol eich ymennydd. Gall y newidiadau hyn gael llawer o effeithiau negyddol ar ein meddyliau a’n cyrff, gan gynnwys effeithio ar ein hwyliau, lefelau egni, cwsg a chof.
Os ydych chi eisiau darganfod mwy am effaith alcohol ar ein meddyliau a’n cyrff a/neu os ydych chi’n poeni am rywun yn yfed, ewch i’n pwnc ar alcohol.
8 – Awgrym Hunangymorth: Cael Noson Dda o Gwsg
Mae pawb angen cwsg, ond mae llawer ohonom yn profi problemau cwsg o bryd i’w gilydd. Mae perthynas agos rhwng cwsg ac iechyd meddwl. Gall cwsg gwael arwain at bryderu ac mae gofid yn arwain at gwsg gwael.
Mae yna lawer o resymau pam y gallem gael problemau gyda’n cwsg. Os ydych chi’n profi cwsg gwael gall fod yn achosi problemau gyda’ch bywyd o ddydd i ddydd – gyda pherthnasoedd gyda theulu, ffrindiau neu waith. Efallai y byddwch chi’n teimlo’n flin, yn brin o egni neu’n cael trafferth canolbwyntio.
Gallai problemau cysgu dros gyfnod o amser arwain at broblem iechyd meddwl gyffredin fel gorbryder neu iselder. Ac os oes gennych gyflwr iechyd meddwl eisoes gallai hyn effeithio ar eich cwsg mewn nifer o ffyrdd.
Os oes angen help arnoch gyda’ch cwsg, gweler ein pwnc ar Cwsg am wybodaeth, cyngor ac adnoddau.
9 – Awgrym Hunangymorth: Trafod Pethau
Peidiwch â chael trafferth ar eich pen eich hun os ydych chi’n teimlo’n isel. Siaradwch â rhywun am eich teimladau: boed yn ffrind, yn aelod o’r teulu, yn gydweithiwr neu’n rhywun ar ddiwedd llinell gymorth gydnabyddedig. Gofynnwch am help os oes ei angen arnoch. Gweler ein tudalen llinellau cymorth.
10 – Awgrym Hunangymorth: Dysgwch Sut i Reoli Straen
Straen yw ymateb ein corff i bwysau. Mae’n rhan normal o fywyd. Fodd bynnag, gall gormod o straen eich gadael yn teimlo wedi’ch llethu neu’n methu ag ymdopi. Gall straen effeithio ar eich iechyd meddwl a chorfforol.
Mae Melo yma i’ch helpu chi, mae gennym ni wybodaeth, cyngor, adnoddau a dolenni i gyrsiau rhad ac am ddim sydd â’r nod o’ch helpu i reoli straen. Mae gennym ddolenni i ymarferion anadlu, Apiau Ymwybyddiaeth Ofalgar, gwybodaeth a chyrsiau i’ch helpu i reoli straen. Gweler ein pwnc ar Straen.
Last updated: 21.07.2022