Skip to main content

Myfyrwyr

Adnabyddir yn gyffredin fel: prifysgol, coleg

Myfyrwyr

Archwiliwch myfyrwyr drwy sgrolio drwy’r dudalen neu dewiswch opsiwn o’r gwymplen os ydych am neidio i adran berthnasol y dudalen:

Myfyrwyr ac iechyd meddwl

Efallai eich bod yn chwilio am wybodaeth gan eich bod yn fyfyriwr neu ar fin dod yn fyfyriwr, neu efallai eich bod yn rhiant i fyfyriwr.

Yn Melo rydym yn ymwybodol y gall bod yn fyfyriwr fod yn gyfnod heriol i bobl ifanc. Mae’r pandemig wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl a lles cymaint o fyfyrwyr. Nid yw’r sefyllfa ariannol bresennol yn helpu chwaith.

Os ydych chi’n profi hwyliau isel neu’n teimlo’n isel, yn poeni am deimladau anodd y gallech fod yn eu profi neu’n pryderu am eich iechyd meddwl, yna mae’n bwysig estyn allan am help.
Os hoffech gael rhywfaint o wybodaeth a chyngor cyffredinol am iechyd meddwl a lles, dylech allu dod o hyd i rywbeth defnyddiol ar hyn ar ein gwefan.

Fodd bynnag, rydym ar hyn o bryd yn datblygu gwybodaeth yn benodol ar gyfer myfyrwyr. Os nad yw unrhyw ran o’r wybodaeth sydd ar ein gwefan ar hyn o bryd yn ddefnyddiol i chi, byddem yn eich annog i:

  • Estynnwch allan a siaradwch â ffrind, aelod o’r teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol. Gweler ein hadran llinellau cymorth.
  • Ewch i wefan yn benodol ar gyfer myfyrwyr/pobl ifanc fel Student Minds neu YoungMinds.

 

Student Minds yw elusen iechyd meddwl myfyrwyr y DU. Mae eu gwefan yn cynnwys yr holl wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr yn y Brifysgol i gyd mewn un lle. Mae’n cynnwys manylion gwasanaeth testun i Fyfyrwyr a llinell gymorth am ddim.

Elusen iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc yw YoungMinds . Mae eu gwefan yn cynnwys gwybodaeth a chyngor ar beth i’w wneud os ydych chi’n cael trafferth gyda sut rydych chi’n teimlo. Mae ganddynt wefan gyda gwybodaeth a chyngor i Bobl Ifanc, Llinell Gymorth i Rieni a Gwe-sgwrs a gwybodaeth i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc.

Last updated: 14.07.2022
feedback

A yw’r dudalen hon yn ddefnyddiol?

Rhowch eich adborth i ni

Mae gwybod beth oedd yn ddefnyddiol neu’n annefnyddiol i chi yn bwysig iawn i ni. Os oes gennych rywfaint o amser, rhowch wybod i ni beth oedd yn ddefnyddiol i chi ac os oes unrhyw beth y gallem ei wella. Diolch.

Adnoddau lles hunangymorth i fyfyrwyr

Math Teitl Yn gysylltiedig â… Darparwr
Gwefannau Gwefannau

Student Minds – Elusen iechyd meddwl myfyrwyr y DU

Iechyd Meddwl Myfyrwyr mind
Gwefannau Gwefannau

Ap Hunangymorth y Samariaid (Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael)

Hunan-niwed, Hunanladdiad, Hwyliau Isel, Iechyd Meddwl Myfyrwyr, Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, Iselder, Ymwybyddiaeth Fyfyriol mind
Gwefannau Gwefannau

YoungMinds – Gwefan gyda gwybodaeth a chyngor defnyddiol ar iechyd meddwl pobl ifanc

Hunan-niwed, Hunanladdiad, Iechyd Meddwl Myfyrwyr, Iechyd Meddwl Pobl Ifanc mind
Gwefannau Gwefannau

Heads Above The Waves – sefydliad nid er elw sy’n hyrwyddo ffyrdd cadarnhaol o ddelio ag iselder a hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc

Hunan-niwed, Iechyd Meddwl Myfyrwyr, Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, Iselder mind
Apiau (iOS) Apiau (iOS)

Ap Iechyd Myfyrwyr: Gwybodaeth Iechyd Corfforol a Meddyliol (iOS)

Iechyd Meddwl Myfyrwyr, Iechyd Meddwl Pobl Ifanc

Expert Self Care

Apiau (Android) Apiau (Android)

Ap Iechyd Myfyrwyr: Gwybodaeth Iechyd Corfforol a Meddyliol (Android)

Iechyd Meddwl Myfyrwyr, Iechyd Meddwl Pobl Ifanc

Expert Self Care

Yn dangos 6 allan o 16 o ganlyniadau Gweld pob

Cefnogaeth iechyd meddwl ychwanegol i fyfyrwyr

Gweler isod am linellau cymorth sy’n berthnasol i fyfyrwyr. I weld ein rhestr lawn o linellau cymorth, ewch i’n tudalen llinellau cymorth.

Shout

Tecstiwch Shout i 85258 – Shout yw gwasanaeth testun 24/7 cyntaf y DU, sydd am ddim ar bob rhwydwaith symudol mawr, i unrhyw un mewn argyfwng unrhyw bryd, unrhyw le.

Mae’n lle i fynd os ydych chi’n cael trafferth ymdopi a bod angen cymorth ar unwaith arnoch.

Mae Shout yn cael ei gynnal gan dîm o wirfoddolwyr, sydd wrth galon y gwasanaeth. Rydym yn mynd â phobl o argyfwng i dawelwch bob dydd.

Ewch i wefan Shout ➝
Yn dangos 1 allan o 6 o ganlyniadau Gweld pob
feedback

A yw’r dudalen hon yn ddefnyddiol?