Skip to main content

Rhieni

Adnabyddir yn gyffredin fel: rhianta, rhieni, gofalwr, gwarcheidwad, plant, pobl ifanc, pobl ifanc yn eu harddegau

Rhieni

Archwiliwch rhieni drwy sgrolio drwy’r dudalen neu dewiswch opsiwn o’r gwymplen os ydych am neidio i adran berthnasol y dudalen:

Rhieni ac iechyd meddwl

Er y gall magu plant roi boddhad mawr, rydym ni yn Melo yn gwybod pa mor heriol y gall fod i gydbwyso’r holl ofynion y mae’n rhaid i rieni a gofalwyr ymdopi â nhw. Gall hyn effeithio ar eich lles corfforol a meddyliol. Mae pob teulu yn cael anhawster o bryd i’w gilydd. Weithiau gall fod yn anodd meddwl pa wybodaeth neu help sydd ei angen arnoch.

Os ydych chi’n profi hwyliau isel neu iselder, neu’n poeni am blentyn yn eich gofal sy’n cael y teimladau hyn, yna mae’n bwysig estyn allan am gymorth. Siaradwch â ffrind, aelod o’r teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol – gweler yr adran isod ‘os oes angen cymorth pellach arnoch’.

Gofalu amdanoch eich hun fel rhiant

Mae dod yn rhiant newydd yn newid mawr a gall newidiadau mawr fod yn heriol. Gallant effeithio ar sut rydym yn teimlo.

Yn dilyn genedigaeth babi gall rhai menywod deimlo’n isel ac yn emosiynol. Gall hyn ddigwydd 2 neu 3 diwrnod ar ôl genedigaeth. Yn aml mae’n ysgafn ac yn gwbl arferol. Efallai y byddwch yn clywed pobl yn ei alw’n ‘baby blues’. Os bydd y symptomau hyn yn para mwy nag ychydig ddyddiau neu’n dechrau’n hwyrach, dylech siarad â’ch bydwraig neu ymwelydd iechyd.

Gall rhai mamau newydd brofi iselder ôl-enedigol. Gall symptomau iselder ôl-enedigol ddigwydd ddyddiau, wythnosau neu hyd yn oed fisoedd ar ôl genedigaeth eich babi ac mae’n effeithio ar 1 o bob 10 mam newydd. Efallai y byddwch yn teimlo’n drist ac yn isel, yn ddagreuol am ddim rheswm, yn ddiwerth, yn flinedig, yn methu ag ymdopi, yn flin ac yn ddig, yn euog, yn elyniaethus neu’n ddi-hid tuag at eich gŵr neu bartner neu’n elyniaethus neu’n ddi-hid tuag at eich babi.

Os ydych yn teimlo bod gennych symptomau iselder ôl-enedigol yna dylech siarad â’ch Ymwelydd Iechyd neu Feddyg Teulu a fydd yn gallu trefnu cymorth ychwanegol i chi os bydd ei angen arnoch.

Cyngor hunangymorth i rieni

Gall dod o hyd i amser i chi’ch hun fod yn anodd iawn fel rhiant/gofalwr. Fodd bynnag, mae’n bwysig iawn fel rhiant i gael rhywfaint o amser i chi’ch hun a gwneud rhywbeth i chi. Ni ddylech deimlo’n euog. Mae neilltuo amser i chi’ch hun nid yn unig yn werthfawr i chi ond hefyd i’ch plentyn. Mae’n ei helpu i ddysgu pwysigrwydd hunanofal a hunan-dosturi. Mae hefyd yn eich helpu i ailegnïo, a all roi teimlad o dawelwch a/neu egni newydd, gan ei gwneud hi’n haws ymdopi â’r elfennau mwy heriol o fod yn rhiant!

Mae yna gamau y gall pawb ohonom eu cymryd i amddiffyn a gofalu am ein lles meddyliol:

  • Efallai y byddwch yn gallu ffitio rhai o’r ‘Pum Ffordd at Les’ yn eich diwrnod.
  • Os ydych yn cael trafferth gyda’ch teimladau, byddwch yn dawel eich meddwl bod hyn yn arferol. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi siarad â’ch teulu a’ch ffrindiau ynglŷn â sut rydych yn teimlo. Neu gysylltu â’ch Ymwelydd Iechyd neu Feddyg Teulu. Gallwch hefyd edrych ar ein hadnoddau, cyrsiau a llinellau cymorth isod.
  • Efallai y bydd y wybodaeth ar ein tudalen Ymwybyddiaeth Ofalgar yn ddefnyddiol i chi.
  • Neu rhowch gynnig ar un o’n cyrsiau myfyrio neu ymwybyddiaeth ofalgar am ddim.
  • Os ydych yn rhiant newydd, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ymuno â grŵp rhieni a phlantos yn eich ardal leol. Holwch eich Ymwelydd Iechyd, neu edrychwch ar ein tudalen ‘yn eich ardal’ i gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau lleol.
  • Os ydych yn rhiant newydd, beth am roi cynnig ar un o’n cyrsiau ‘Byw Bywyd yn Llawn’ am ddim. Mae llawer o rieni wedi teimlo eu bod yn ddefnyddiol.
  • Os ydych yn rhianta plentyn sydd ag anghenion cymhleth, efallai y bydd rhai o’r adnoddau hyn yn ddefnyddiol: Plant ag anghenion cymhleth – Iachach Gyda’n Gilydd
  • Os ydych yn rhiant i blentyn hŷn/person ifanc yn ei arddegau ac yn poeni am ei iechyd meddwl, gweler ein cyrsiau SilverCloud, a restrir isod. Mae gennym hefyd ystod o wybodaeth ar ein gwefan a allai fod yn ddefnyddiol fel rhiant i berson ifanc yn ei arddegau, i chi neu riant arall, sy’n ymdrin â hunan-niweidio, teimladau hunanladdol, gamblo, LGBTQIA+
  • Ewch i wefan Iachach Gyda’n Gilydd sy’n cynnwys ystod o wybodaeth a chyngor i rieni/gofalwyr. Gellir gweld yr adnodd hwn isod. Iachach Gyda’n Gilydd
  • Os ydych yn poeni am arian ewch i’n tudalen Pryderon Ariannol am gyngor. Os ydych yn feichiog neu os oes gennych blentyn dan 4 oed, efallai y bydd gennych hawl i gymorth ychwanegol ar gyfer ffrwythau, llysiau, llaeth a fitaminau.
  • Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, angen cymorth brys – ewch i’n tudalen cymorth brys ar unwaith.

Os oes angen cymorth pellach arnoch

Os nad yw’r wybodaeth, y cyngor, yr adnoddau a’r cyrsiau ar y dudalen hon wedi bod yn ddefnyddiol a/neu os ydych yn meddwl bod angen mwy o help arnoch, mae llawer o wasanaethau cymorth am ddim ar gael. Gweler ein llinell gymorth isod am wasanaethau penodol sy’n cefnogi rhieni/teuluoedd/pobl ifanc.

Am gymorth nad yw’n frys i’ch plentyn os yw’n oedran cyn-ysgol, dilynwch ddolen hon i ddarganfod sut i gysylltu â’ch Ymwelydd Iechyd Ymwelwyr Iechyd – Iachach Gyda’n Gilydd.

Am gymorth nad yw’n frys i’ch plentyn os yw’n oedran ysgol, dilynwch y ddolen hon i gael gwybod sut i gysylltu â’ch Nyrs Ysgol Map Cysylltu â Nyrs Ysgol.

Os ydych chi’n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, angen help gyda’ch iechyd meddwl a’ch bod dros 18 oed, gofynnwch am apwyntiad gydag Ymarferydd Iechyd Seicolegol (PHP). Mae Ymarferwyr wedi’u lleoli ym mhob meddygfa leol. Neu cysylltwch â’ch Meddyg Teulu.

Os ydych dan 18 oed neu’n poeni am rywun dan 18 oed ac angen cyngor/hunan-atgyfeiriad i wasanaethau iechyd meddwl a lles lleol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, cysylltwch â SPACE-Wellbeing.

Neu fel arall cysylltwch â llinellau cymorth cymeradwy eraill. Mae rhai gwasanaethau ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Last updated: 19.04.2023
feedback

A yw’r dudalen hon yn ddefnyddiol?

Rhowch eich adborth i ni

Mae gwybod beth oedd yn ddefnyddiol neu’n annefnyddiol i chi yn bwysig iawn i ni. Os oes gennych rywfaint o amser, rhowch wybod i ni beth oedd yn ddefnyddiol i chi ac os oes unrhyw beth y gallem ei wella. Diolch.

Enjoy Your Infant Course

Cwrs Mwynhau Eich Plentyn Ifanc – Byw Bywyd yn Llawn

Wedi’i gynllunio ar gyfer rhieni plentyn bach/ifanc sy’n dechrau archwilio’r byd – a herio’r ffiniau o’i gwmpas. Ei nod yw helpu i feithrin cysylltiad – ac ymwybyddiaeth emosiynol. Mae gan y cwrs hwn 5 modiwl.

Dysgu mwy
Ar-lein Hunan-gyfarwyddo
Enjoy Your Baby Course for new parents

Cwrs Mwynhau Eich Babi i Rieni Newydd – Byw Bywyd yn Llawn

Mae’r llyfr a’r cwrs hwn wedi’u hanelu at rieni sydd â babi newydd. Mae’n rhoi gwybodaeth, awgrymiadau a syniadau i’ch helpu i fwynhau’ch babi, creu cysylltiad cadarn, a gofalu amdanoch eich hun hefyd.

Dysgu mwy
Ar-lein Hunan-gyfarwyddo
Enjoy Your Bump/Pregnancy Course

Cwrs Mwynhau Eich Bwmp/Beichiogrwydd – Byw Bywyd yn Llawn

Gall y cwrs hwn helpu mamau a rhieni i gael y gorau o’u profiadau cyn-geni. Mae cyfranogwyr yn dysgu ffyrdd o wella sut maent yn teimlo fel eu bod yn mwynhau eu beichiogrwydd ac yn paratoi ar gyfer y newidiadau sydd i ddod. Mae gan y cwrs hwn 5 modiwl.

Dysgu mwy
Ar-lein Hunan-gyfarwyddo
Relationship issues

Materion yn ymwneud â pherthynas – Byw Bywyd yn Llawn

Cwrs sy’n cynnwys dau bwnc:
1. Ti Fi a Ni.
Ar gyfer pobl mewn perthynas dan bwysau. Allwch chi wella pethau – neu a yw’n bryd gadael?

2. Symud Allan a Symud Ymlaen.
I unrhyw un sy’n wynebu diwedd perthynas i’ch helpu i ddeall eich ymatebion, a chynllunio eich camau nesaf.

Dysgu mwy
Ar-lein Hunan-gyfarwyddo
Anxiety Course - SilverCloud

Man rhag Pryder – SilverCloud

Gall y rhaglen hon eich helpu i reoli pryder, herio meddyliau pryderus a theimlo’n well. Mae’n dysgu sgiliau a strategaethau i chi fynd i’r afael â phryder nawr ac yn y dyfodol.

Dysgu mwy
Ar-lein Hunan-gyfarwyddo
SilverCloud Mental Health Courses

SilverCloud Cefnogi Pobl Ifanc Pryderus

Gwasanaeth ar-lein am ddim gan GIG Cymru sydd ar gael i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru neu sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru yw SilverCloud.

Mae SilverCloud Cefnogi Pobl Ifanc Pryderus ar gyfer rhieni/gofalwyr i’w helpu i gefnogi pobl ifanc yn eu harddegau i reoli eu pryder.

Gall rhieni/gofalwyr gofrestru ar gyfer y cyrsiau hyn ar-lein, heb fod angen atgyfeiriad gan feddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Maent am ddim ac ar gael 24/7 o unrhyw ddyfais ddigidol.

Dysgu mwy
SilverCloud Mental Health Courses

SilverCloud Cefnogi Plentyn Pryderus

Gwasanaeth ar-lein am ddim gan GIG Cymru sydd ar gael i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru neu sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru yw SilverCloud.

Mae SilverCloud Cefnogi Plentyn Pryderus ar gyfer rhieni/gofalwyr i’w helpu i gefnogi plant 4-11 oed i reoli pryder.

Gall rhieni/gofalwyr gofrestru ar gyfer y cyrsiau hyn ar-lein, heb fod angen atgyfeiriad gan feddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Maent am ddim ac ar gael 24/7 o unrhyw ddyfais ddigidol.

Dysgu mwy
SilverCloud Mental Health Courses

SilverCloud Man rhag Hwyliau Isel (16-18 Oed)

Gwasanaeth ar-lein am ddim gan GIG Cymru ar gyfer pobl ifanc sy’n byw yng Nghymru neu sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru yw SilverCloud Man rhag Hwyliau Isel ar gyfer rhai 16–18 oed.

Mae’r cwrs yn darparu therapi rhyngweithiol ar-lein dros gyfnod o 12 wythnos i helpu pobl ifanc i ddeall a rheoli pryder.

Gall pobl ifanc gofrestru heb fod angen caniatâd oedolyn neu atgyfeiriad gan feddyg teulu. Mae’r cwrs am ddim ac ar gael 24/7 o unrhyw ddyfais ddigidol. Mae SilverCloud yn seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT).

Dysgu mwy
SilverCloud Mental Health Courses

SilverCloud Man rhag Pryder (16-18 Oed)

Gwasanaeth ar-lein am ddim gan GIG Cymru ar gyfer pobl ifanc sy’n byw yng Nghymru neu sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru yw SilverCloud Man rhag Pryder ar gyfer rhai 16–18 oed.

Mae’r cwrs yn darparu therapi rhyngweithiol ar-lein dros gyfnod o 12 wythnos i helpu pobl ifanc i ddeall a rheoli pryder.

Gall pobl ifanc gofrestru heb fod angen caniatâd oedolyn neu atgyfeiriad gan feddyg teulu. Mae’r cwrs am ddim ac ar gael 24/7 o unrhyw ddyfais ddigidol. Mae SilverCloud yn seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT).

Dysgu mwy
Yn dangos 9 allan o 10 o ganlyniadau Gweld pob

Adnoddau hunangymorth i rieni, gofalwyr a theuluoedd

MathTeitlYn gysylltiedig â…Darparwr
Darllen Darllen

Dull Meddwl Tosturiol ar gyfer Iselder Ôl-enedigol: defnyddio therapi tosturiol i wella hwyliau, hyder a bondio Trechu Iselder: sut i ddefnyddio’r bobl yn eich bywyd i agor y drws i adferiad (Saesneg yn unig)

Beichiogrwydd, Iselder, Rhieni mind
Darllen Darllen

Iselder Ôl-enedigol – Canllaw Hunangymorth y GIG

Beichiogrwydd, Hwyliau Isel, Iselder mind
Gwefannau Gwefannau

Iachach Gyda’n Gilydd – Rhieni/Gofalwyr

Rhieni mind
Yn dangos 3 allan o 16 o ganlyniadau Gweld pob

Cefnogaeth a llinellau cymorth i rieni, gofalwyr a theuluoedd

Gweler isod am linellau cymorth sy’n berthnasol i rieni, gofalwyr a theuluoedd. I weld ein rhestr lawn o linellau cymorth, ewch i’n tudalen llinellau cymorth.

Mind Newport Logo

Gwasanaethau CYPF Mind Casnewydd

Mae tîm Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Casnewydd (CYPF) Mind yn gweithio ledled Casnewydd i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc 0-25 oed a’u teuluoedd. Mae’n cynnig ystod o wasanaethau gan gynnwys cymorth un i un, cymorth gan gymheiriaid, cymorth i deuluoedd, grwpiau gweithgarwch cymdeithasol, gwasanaethau cwnsela a chyfleoedd gwirfoddoli.

Ewch i wefan Mind Casnewydd ➝
Aneurin Bevan University Health Board

SPACE Wellbeing Blaenau Gwent

Proses aml-asiantaeth i gydlynu cymorth, gan gynnwys ymyrraeth gynnar a darpariaeth arbenigol, ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol plant yw SPACE Wellbeing.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyffredinol ynglŷn â Gwasanaeth Lles SPACE, cysylltwch â Llinell Gymorth Lles SPACE:

Ffoniwch: 07977 065376 | Ebost

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan SPACE ➝
Yn dangos 2 allan o 6 o ganlyniadau Gweld pob
feedback

A yw’r dudalen hon yn ddefnyddiol?