Skip to main content

Teimladau Hunanladdol

Adnabyddir yn gyffredin fel: hunanladdiad, hunanladdol, syniadaeth hunanladdol, meddyliau hunanladdol, eisiau marw, syniadaeth am hunanladdiad

Teimladau Hunanladdol

Archwiliwch teimladau hunanladdol drwy sgrolio drwy’r dudalen neu dewiswch opsiwn o’r gwymplen os ydych am neidio i adran berthnasol y dudalen:

need help now

Mewn argyfwng ffoniwch 999

Os ydych chi'n poeni amdanoch chi'ch hun, ffrind neu aelod o'r teulu neu'ch ymddygiad eich hun, mae'n argyfwng.

Lawrlwytho’r dudalen hon fel PDF (agor mewn ffenestr newydd)

Ydych chi’n cael meddyliau hunanladdol?

Os ydych chi’n teimlo eich bod chi eisiau marw, neu os yw rhywun rydych chi’n ei adnabod yn dweud wrthych ei fod/bod eisiau marw, mae’n bwysig iawn siarad am y teimladau hyn cyn gynted â phosibl. Mae llawer o bobl yn cael meddyliau hunanladdol ar ryw adeg yn eu bywydau. Nid oes angen i chi brofi’r teimladau anodd hyn ar eich pen eich hun. Mae yna bob amser rywun ar ben arall y ffôn, neges destun neu e-bost sydd wedi’i hyfforddi ac yn barod i wrando arnoch – ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.

Os daw’r meddyliau hyn yn fwy eithafol ac aml, mae’n bwysig IAWN ceisio cymorth a chyngor cyn gynted â phosibl.

Cysylltwch ag un o’r gwasanaethau cyfrinachol arbenigol am ddim (a restrir isod). Maent ar gael 24 awr y dydd a 365 diwrnod y flwyddyn. Maent yn cynnig lle diogel i chi siarad. Maent yn gwrando. Ni fyddant yn eich barnu.

Os ydych chi eisoes wedi cymryd camau i ddod â’ch bywyd i ben, neu’n pryderu am rywun sydd mewn perygl ar y pryd, ffoniwch 999 neu ewch/ewch â nhw i’r adran damweiniau ac achosion brys ar unwaith.

 

Beth i’w wneud os ydych chi’n cael meddyliau hunanladdol

  • Os ydych yn teimlo eich bod eisiau marw, mae’n bwysig siarad â rhywun am y teimladau hyn. Mae llinellau cymorth a gwasanaethau cyfrinachol am ddim ar gael nawr, gyda staff sydd wedi’u hyfforddi yn barod i wrando. Codwch y ffôn, anfonwch neges destun neu e-bost.
  • Mae’r Samariaid yn cynnig gwasanaeth gwrando 24/7 am ddim – dros y ffôn neu drwy e-bost – i unrhyw un o unrhyw oedran.
  • Mae HOPELINE247 yn cynnig gwasanaeth gwrando 24/7 – dros y ffôn, drwy neges destun neu e-bost – i bobl o dan 35 oed neu i’r rheini sy’n pryderu am berson ifanc sy’n meddwl am hunanladdiad.
  • Mae SHOUT 85258 yn wasanaeth cymorth testun cyfrinachol, dienw am ddim sydd ar gael 24/7 i unrhyw un o unrhyw oedran. Gallwch anfon neges destun at y gwasanaeth o ble bynnag yr ydych yn y DU.
  • Neu siaradwch â rhywun rydych yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo/ynddi. Peidiwch â brwydro gyda theimladau anodd ar eich pen eich hun.
  • Os oes gennych gynllun diogelwch, dilynwch eich cyngor eich hun.
  • Os nad oes gennych gynllun diogelwch a’ch bod yn brwydro gyda theimladau hunanladdol, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ysgrifennu un. Mae cynllun diogelwch yn eich helpu i nodi beth sy’n eich cadw’n ddiogel. Mae gwefan Staying Safe yn rhoi gwybodaeth am sut i wneud hyn.
  • I gael rhagor o wybodaeth am sut i gadw’ch hun yn ddiogel os ydych yn cael teimladau hunanladdol, edrychwch ar ein rhestr o wefanau ac apiau am ddim a dibynadwy isod.
  • Cofiwch, nid oes angen i chi brofi’r teimladau hyn ar eich pen eich hun. Siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo/ynddi neu cysylltwch ag un o’r llinellau cymorth a’r gwasanaethau isod.
  • Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod angen cymorth brys – ewch i’n tudalen Cymorth Brys ar unwaith.

 

Sut i siarad â rhywun sydd yn, neu a allai fod yn, cael meddyliau hunanladdol

  • Os oes rhywun wedi dweud wrthych ei fod/bod yn cael meddyliau hunanladdol, neu os ydych yn amau bod rhywun yn hunanladdol, mae’n bwysig eu bod yn siarad â rhywun am eu teimladau.
  • Peidiwch â phoeni y bydd gofyn iddynt sut maent yn teimlo, neu ofyn iddynt a ydynt yn teimlo’n hunanladdol, yn gwaethygu pethau.
  • Gall gwrando ar yr hyn y maent yn ei ddweud a chymryd hynny o ddifrif fod o gymorth mawr.
  • Byddwch yn dosturiol. Peidiwch â bod yn feirniadol a pheidiwch â siarad am eich profiadau eich hun.
  • Peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi lenwi’r distawrwydd. Gwrandewch. Yn fyr: ‘gofynnwch, gwrandewch a dangoswch eich bod yn poeni’.
  • Rhowch wybod iddynt ei bod yn bwysig siarad â rhywun y maent yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo/ynddi, os ydynt yn teimlo y gallant wneud hynny.
  • Dywedwch wrthynt nad oes angen iddynt frwydro gyda’u teimladau ar eu pen eu hun. Rhowch fanylion llinellau cymorth a gwasanaethau arbenigol cyfrinachol am ddim sydd ar gael 24/7.
  • Rhowch wybod iddynt y gallant godi’r ffôn, anfon neges destun neu e-bost ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Bydd staff sydd wedi’u hyfforddi yn aros i siarad â nhw, heb farnu, waeth pa mor anodd y gallai’r sgwrs fod.
  • Rhowch wybod iddynt fod yna apiau am ddim a gwefannau dibynadwy gyda gwybodaeth a chyngor i bobl sy’n cael teimladau hunanladdol. Dywedwch wrthynt fod yr adnoddau hyn ar gael ar wefan Melo.
  • Os hoffech ragor o gyngor ar sut i ddechrau’r sgwrs hon, ewch i wefannau y Samariaid a PAPYRUS, sy’n cynnwys cyngor ardderchog.
  • Os ydych chi eisiau dysgu sut i adnabod yr arwyddion rhybudd am hunanladdiad a sut y gallwch chi helpu i achub bywydau, edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau am ddim isod.

 

Os effeithiwyd arnoch chi gan farwolaeth rhywun drwy hunanladdiad

  • Mae cymorth am ddim ar gael i bobl sy’n byw yn ardal BIP Aneurin Bevan i unrhyw un yr effeithiwyd arno/arni gan farwolaeth rhywun oherwydd hunanladdiad, pryd bynnag y digwyddodd y farwolaeth honno.
  • Mae Cymorth wrth Law Cymru yn adnodd am ddim i bobl sydd wedi cael profedigaeth oherwydd hunanladdiad neu farwolaeth anesboniadwy arall, a’r rheini sy’n eu helpu.

 

Cwrs am ddim i Staff Rheng Flaen

Os ydych yn weithiwr proffesiynol ac eisiau dod o hyd i gyfleoedd hyfforddi ewch i’r adran cyrsiau proffesiynol.

Last updated: 01.08.2023
feedback

A yw’r dudalen hon yn ddefnyddiol?

Rhowch eich adborth i ni

Mae gwybod beth oedd yn ddefnyddiol neu’n annefnyddiol i chi yn bwysig iawn i ni. Os oes gennych rywfaint o amser, rhowch wybod i ni beth oedd yn ddefnyddiol i chi ac os oes unrhyw beth y gallem ei wella. Diolch.

Adnoddau ymwybyddiaeth ac atal hunanladdiad am ddim

Porwch drwy ein hadnoddau atal hunanladdiad hunangymorth am ddim sydd wedi’u cymeradwyo gan arbenigwyr.

Math Teitl Yn gysylltiedig â… Darparwr
Darllen Darllen

Dod o hyd i’ch ffordd – Canllaw i unrhyw un sy’n cael trafferth i ymdopi | Samariaid

Arian, Hunan-niwed, Hunanladdiad, Hwyliau Isel, Unigrwydd mind
Gwefannau Gwefannau

Y Samariaid – Gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sy’n cael trafferth, yn poeni am rywun ac i sefydliadau/gweithleoedd

Hunan-niwed, Hunanladdiad, Hwyliau Isel, Unigrwydd mind
Gwefannau Gwefannau

PAPYRUS Atal Hunanladdiad Ifanc – Cymorth, cyngor, adnoddau, hyfforddiant ac offeryn cynllunio diogelwch

Hunan-niwed, Hunanladdiad, Iechyd Meddwl Myfyrwyr, Rhieni mind
Gwefannau Gwefannau

Cadw’n Ddiogel | Gwybodaeth a chyngor i’ch helpu i gadw’n ddiogel – fideos a chynlluniau diogelwch y gellir eu lawrlwytho

Hunanladdiad mind
Gwefannau Gwefannau

Ap Hunangymorth y Samariaid (Dim ond yn Saesneg y mae hwn ar gael)

Hunan-niwed, Hunanladdiad, Hwyliau Isel, Iechyd Meddwl Myfyrwyr, Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, Iselder, Ymwybyddiaeth Fyfyriol mind
Yn dangos 5 allan o 14 o ganlyniadau Gweld pob

Llinellau Cymorth a Gwasanaethau i bobl sy’n cael teimladau hunanladdol

Isod fel welwch linellau cymorth a gwasanaethau sy’n cynnig cefnogaeth i bobl sy’n cael meddyliau hunanladdol. Mae pob un am ddim ac mae’r rhan fwyaf ar gael 24 awr y dydd a 365 diwrnod y flwyddyn. Mae ganddynt bobl sydd wedi’u hyfforddi i wrando a siarad ag unrhyw un sy’n teimlo’n hunanladdol neu sy’n poeni am eu hiechyd meddwl.

Logo Samaritans

Samariaid – Llinell ffôn Cymraeg

Os ydych chi’n cael trafferth i ymdopi ac mae arnoch angen rhywun i siarad â nhw, bydd y Samariaid yn gwrando. Gallwch gysylltu â’r Samariaid 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn ar 116 123 (yn ddi-dâl o unrhyw ffôn) neu drwy anfon neges e-bost at jo@samaritans.org.

Hefyd, gallwch ffonio Llinell Gymorth Gymraeg y Samariaid (yn ddi-dâl o unrhyw ffôn) ar 0808 164 0123 (7pm-11pm bob dydd).

Ewch i wefan Samariaid ➝
Papyrus Logo

HOPELINE247 – PAPYRUS

Os ydych chi’n meddwl am hunanladdiad neu’n pryderu am berson ifanc a allai fod yn meddwl felly, gallwch gysylltu â HOPELINE247 i gael cymorth cyfrinachol a chyngor ymarferol.

Mae cynghorwyr HOPELINE247 eisiau gweithio gyda chi i ddeall pam y gallai meddyliau am hunanladdiad fod yn bresennol. Maent hefyd eisiau rhoi lle diogel i chi siarad am unrhyw beth sy’n digwydd yn eich bywyd a allai fod yn effeithio ar eich gallu chi neu allu unrhyw un arall i gadw’n ddiogel.

Ar gyfer plant a phobl ifanc o dan 35 oed sy’n cael meddyliau hunanladdol.

Ar gyfer unrhyw un sy’n poeni y gallai person ifanc fod yn meddwl am hunanladdiad.

Os oes angen cymorth arnoch mewn iaith heblaw Saesneg, gallwch gael hynny drwy ofyn am y Llinell Iaith pan fyddwch yn ffonio HOPELINE247.

Ewch i wefan Papyrus ➝

Shout

Tecstiwch Shout i 85258 – Shout yw gwasanaeth testun 24/7 cyntaf y DU, sydd am ddim ar bob rhwydwaith symudol mawr, i unrhyw un mewn argyfwng unrhyw bryd, unrhyw le.

Mae’n lle i fynd os ydych chi’n cael trafferth ymdopi a bod angen cymorth ar unwaith arnoch.

Mae Shout yn cael ei gynnal gan dîm o wirfoddolwyr, sydd wrth galon y gwasanaeth. Rydym yn mynd â phobl o argyfwng i dawelwch bob dydd.

Ewch i wefan Shout ➝
Yn dangos 3 allan o 12 o ganlyniadau Gweld pob
feedback

A yw’r dudalen hon yn ddefnyddiol?