Lawrlwytho’r dudalen hon fel PDF (agor mewn ffenestr newydd)
Beth yw Ymwybyddiaeth Fyfyriol?
Fel bodau dynol, rydym yn treulio llawer o amser yn myfyrio ar y gorffennol neu’n poeni am y dyfodol. Rydym yn aml yn gweld ein bod yn gwneud pethau’n reddfol, gan weithredu heb feddwl, fel arfer oherwydd ein bod wedi’i wneud lawer gwaith o’r blaen. Ydych chi erioed wedi cerdded adref a ddim yn cofio pasio tirnod penodol?
Mae ymwybyddiaeth fyfyriol yn ffordd o roi sylw i, a gweld yn glir beth bynnag sy’n digwydd yn ein bywydau ar yr eiliad honno mewn amser. Gall wella ein lles meddyliol drwy ein helpu i ymgysylltu mwy â’r byd o’n cwmpas a deall ein hunain yn well. Mae’n ffordd ymarferol o sylwi ar feddyliau, teimladau corfforol, golygfeydd, synau, arogleuon – unrhyw beth na fyddwn yn sylwi arno fel arfer.
Mae ymwybyddiaeth fyfyriol yn ein helpu i ymateb i bwysau bywyd mewn modd tawelach sydd o fudd i’n calon, ein pen a’n corff.
Mae’n ein hannog i ddod yn fwy ymwybodol o’n meddyliau a’n teimladau fel y gallwn eu rheoli mewn ffordd wahanol gyda chanlyniadau mwy cadarnhaol.
Er efallai bod gwreiddiau ymwybyddiaeth fyfyriol yn y gorffennol, rydym bellach yn deall manteision ymwybyddiaeth fyfyriol a myfyrdod yn dda. Mae ymchwil wedi cysylltu’n gadarnhaol ymwybyddiaeth fyfyriol a myfyrdod â lleihau straen.
Gyda beth y gall ymwybyddiaeth fyfyriol helpu?
Gall ymwybyddiaeth fyfyriol fod o gymorth gyda’r cyflyrau canlynol:
- pryder
- iselder
- straen
- blinder
- poen cronig
- psymptomau corfforol sydd heb ddiagnosis meddygol
- anawsterau cysgu
- rheoli dicter
Pwy all ymarfer ymwybyddiaeth fyfyriol?
Gall pawb ei wneud a gellir ei wneud yn unrhyw le, wrth aros am fws, golchi’r llestri, mynd â’r ci am dro, yn y swyddfa.
Gall y sgiliau fod yn syml, ond gan ei fod mor wahanol i sut y byddem efallai fel arfer yn ymddwyn, mae angen llawer o ymarfer. Gydag ymarfer, gallwch ddysgu gweithio’n wahanol gyda’ch meddyliau a’ch teimladau.
Sut allaf ddysgu ymwybyddiaeth ofalgar?
I ddysgu ymwybyddiaeth ofalgar, gallwch ddefnyddio cyrsiau neu apiau ar-lein. I roi cynnig ar rai o’r rhain gweler ein hadnoddau hunangymorth a chyrsiau isod.
Mae gennym fwy o wybodaeth am sut i ‘fod yn sylwgar’ ar ein tudalen 5 Ffordd at Les gan gynnwys gweithgareddau y gallwch eu gwneud i ymarfer dangos mwy o ymwybyddiaeth ofalgar a bod yn fwy sylwgar o ddydd i ddydd. Gallwch hefyd gymryd rhan yn ein Her 5 Diwrnod 5 Ffordd.
Tasg ymwybyddiaeth fyfyriol syml?
Gall yr ymarfer pum cam hwn fod yn ddefnyddiol iawn yn ystod cyfnodau o bryder neu banig drwy helpu i’ch gosod yn gadarn yn y presennol.
Cyn i chi ddechrau, rhowch sylw i’ch anadlu. Gall anadliadau hir ac araf eich helpu i deimlo’n dawel.
-
- Sylwch ar 5 peth y gallwch eu gweld o’ch cwmpas. Gallent fod yn gadair, beiro neu lun ar y wal.
- Sylwch ar 4 peth y gallwch eu cyffwrdd. Gallent fod yn ddefnydd eich dillad, eich gwallt neu fwrdd.
- Sylwch ar 3 pheth y gallwch eu clywed. Gallent fod y glaw ar y ffenestr, traffig yn mynd heibio neu gerddoriaeth yn y cefndir.
- Sylwch ar 2 beth y gallwch eu harogli. Gallent fod yn fwyd, arogl sebon ar eich croen neu’n arogl o’r tu allan.
- Sylwch ar 1 peth y gallwch eu blasu. Beth yw’r blas sydd yn eich ceg – coffi, gwm cnoi neu’ch cinio.
Os oes angen rhagor o help arnoch i reoli eich iechyd meddwl
Os nad yw’r wybodaeth, y cyngor, yr adnoddau a’r cyrsiau ar y dudalen hon wedi bod yn ddefnyddiol a/neu os ydych yn meddwl bod angen mwy o help arnoch, mae llawer o wasanaethau cymorth am ddim ar gael.
Os ydych yn poeni am eich iechyd meddwl cyffredinol, cysylltwch ag Iechyd Meddwl GIG 111 Opsiwn 2. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos a gellir ei ffonio am ddim o ffôn symudol (hyd yn oed pan nad oes gan y galwr gredyd ar ôl) neu o linell dir. Bydd y gwasanaeth yn darparu cymorth ar unwaith dros y ffôn er mwyn helpu i ymdopi â sut rydych yn teimlo ac, os oes angen, trefnir atgyfeiriad i wasanaethau iechyd meddwl.
Os ydych chi’n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a dros 18 oed, gallwch gysylltu â’ch meddygfa i drefnu apwyntiad gydag Ymarferydd Iechyd Seicolegol (PHP) neu Feddyg Teulu. Ymarferwyr iechyd meddwl y GIG yw PHP, sydd ar gael mewn rhai meddygfeydd yn ardal BIP Aneurin Bevan ac yn darparu gwasanaeth am ddim i bobl sy’n cael problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol. Gall apwyntiadau fod naill ai wyneb yn wyneb, neu dros y ffôn.
Os ydych dan 18 oed neu’n poeni am rywun sydd dan 18 oed ac angen cyngor brys/hunan-atgyfeiriad i wasanaethau iechyd meddwl a lles lleol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, cysylltwch â SPACE-Wellbeing.
Neu cysylltwch â llinell gymorth neu wasanaeth cymeradwy arall. Mae rhai gwasanaethau ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Os ydych chi’n ofalwr di-dâl i rywun sy’n profi dicter, ewch i’n tudalen Gofalwyr Di-dâl am ragor o wybodaeth a chyngor.
Last updated: 24.08.2023