Skip to main content

Wythnos Gofalwyr 2021

Jun 15, 2021

Beth yw Wythnos Gofalwyr?

Ymgyrch flynyddol yw Wythnos Gofalwyr i godi ymwybyddiaeth o ofalu, er mwyn cydnabod yr heriau a wynebir gan ofalwyr di-dâl yn ogystal â’r cyfraniad y maent yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau ledled y DU. Mae hefyd yn helpu i ganfod gofalwyr nad oeddent yn ystyried eu hunain felly a chaniatáu iddynt gyrchu cefnogaeth y mae mawr ei hangen arnynt. Cynhelir Wythnos Gofalwyr eleni rhwng 7 a 13 Mehefin.

Mae 6.5 miliwn o bobl yn y DU sy’n ofalwyr, a ddiffinnir fel rhywun sy’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind sydd ag anabledd, salwch meddyliol neu gorfforol. Mae gofalu’n effeithio ar bob agwedd ar fywyd mewn modd sylweddol. O berthynas ac iechyd i arian a gwaith, mae gofalwyr yn wynebu amgylchiadau sydd hyd yn oed yn fwy anodd eleni.

Sut mae’r flwyddyn ddiwethaf yn wahanol

Yn ystod y pandemig, mae gofalwyr wedi wynebu heriau enfawr, gyda llawer ohonynt yn darparu rhagor o ofal wrth ddelio â materion ariannol a mwy o ynysu. Er mwyn canolbwyntio ar gydnabod gofalwyr a’u gwerthfawrogi am y cyfraniad hollbwysig y maent yn ei wneud bob dydd, nod Wythnos Gofalwyr eleni yw ‘Gwerthfawrogi Gofalu a’i Wneud yn Weledol.’ Mae angen cydnabod gofalwyr am yr anawsterau y maent yn eu profi, eu parchu am yr hyn y maent yn ei wneud, a rhoi gwybodaeth, cefnogaeth a dealltwriaeth iddynt.

Sut allaf i gymryd rhan

Ar gyfer gofalwyr:

Cynhelir ystod o weithgareddau ar-lein i helpu gyda lles gofalwyr a gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Os ydych chi’n ofalwr sydd eisiau cymryd rhan mewn gweithgareddau yn ystod Wythnos Gofalwyr, dilynwch y ddolen hon a rhowch ‘Gofalwyr Cymru’ yn y bar chwilio sy’n gofyn i chi am eich cod post neu ardal.

Ar gyfer pawb:

Oherwydd y diffyg seibiannau yr oedd hi’n bosibl i ofalwyr eu cael yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r ymgyrch Wythnos Gofalwyr hon yn canolbwyntio ar gynyddu cyllid ar gyfer seibiannau gofalwyr er mwyn galluogi i ofalwyr sy’n darparu oriau sylweddol o ofal gael seibiant. Gall pob person wneud ei gyfraniad yma:

Cyrsiau am ddim i ofalwyr

Mae EPP Cymru yn cynnal cwrs rhithwir arbenigol i ofalwyr:

Looking After Me & You, o ddydd Llun 14 Mehefin hyd 19 Gorffennaf 2021 am 10:30am

Gallwch ddod o hyd i EPP Cymru ar Facebook er mwyn cael y newyddion diweddaraf am gyrsiau newydd. Chwiliwch: rhaglen addysg i gleifion neu @EppGwent ar Twitter.

I ganfod rhagor o gyrsiau lles meddyliol am ddim, ewch i’n tudalen cyrsiau ar-lein.

‘The closest thing to being cared for is to care for someone else.’

– Carson McCullers

Nôl i’r newyddion

I weld cynghorion ac adnoddau am lesiant, ewch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a dysgu mwy!