Skip to main content

Wythnos Gofalwyr: Daliwch ati, mae gobaith bob amser

Jul 6, 2022

gan Leigh *

Keep going as there is always hope Guest Blog Holding hands

Rwy’n gweithio fel Ymarferydd Adfer ar hyn o bryd, yn cefnogi gofalwyr yn Sir Fynwy. Cyn dechrau yn y swydd hon, doeddwn i ddim yn sylweddoli fy mod i hefyd yn ofalwr. Roeddwn i’n gofalu am fy merch hynaf, ac roeddwn i’n meddwl fy mod yn bod yn rhiant trwy ofalu amdani.

Mae fy merch yn dioddef gan fwlimia heb ei ddiagnosio. I mi, roedd hyn yn beth mawr, ac fe wnes i wthio am ddiagnosis am fy mod yn meddwl y byddai’n helpu. Chawson ni fyth un, ond dwi nawr yn sylweddoli na fyddai rhoi label arno wedi helpu.

Roeddwn i mewn trallod, yn teimlo mewn dyfroedd dyfnion ac yn gwbl unig, a doeddwn i ddim yn gwybod ble i droi am help a chyngor.

Dros y blynyddoedd, cynigiwyd llawer o gefnogaeth i fy merch drwy CAHMS a gwasanaethau iechyd meddwl eraill y GIG. Yn ystod yr holl amser hwn, ni chynigiwyd unrhyw gefnogaeth i mi ar gyfer fy rôl ofalu. Roeddwn yn aml yn meddwl bod hyn i gyd wedi digwydd oherwydd fy mod yn rhiant gwael, ac roeddwn yn lladd ar fy hun yn rheolaidd. Rwy’n meddwl pe bawn wedi cael cynnig rhywfaint o gymorth gyda fy meddyliau a’m teimladau y gallwn fod wedi bod yn ofalwr gwell i fy merch.

Rwyf wedi dysgu dros y blynyddoedd i wrando a pheidio ag ymateb heb feddwl.

Mae pethau’n dal yn anodd, a dwi’n dal i ddweud y peth anghywir yn aml, ond rydym ar y trywydd cywir.  

Gan gefnogi gofalwyr, rwyf wedi dysgu bod eraill yn rhannu fy mhrofiad. Rwyf bellach mewn sefyllfa i gynnig y cyngor a’r arweiniad iddynt ar gael y cymorth y byddwn i wedi elwa ohono, yn ogystal â’r cyfle i deimlo bod rhywun yn gwrando arnynt.

Mae Melo yn adnodd gwych, ac rwy’n cyfeirio Gofalwyr at y wefan yn rheolaidd i gael awgrymiadau ar sut i ofalu amdanyn nhw eu hunain.

Daliwch ati, mae gobaith bob amser.

Nôl i’r newyddion

I weld cynghorion ac adnoddau am lesiant, ewch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a dysgu mwy!