Wythnos Gofalwyr: Rwyf wedi canfod bod Melo o gymorth mawr wrth roi ffyrdd i mi ganoli fy hun

gan Vicky*

Fy enw i yw Vicky, ac rwy’n Ofalwr. Mae hyn bob amser wedi teimlo’n rhyfedd i mi ei ddweud, ac mae’n dal yn rhyfedd ei ysgrifennu, am fy mod wedi teimlo o’r blaen nad oes gennyf ‘hawl’ na fy mod yn ‘deilwng’ o gael fy ngalw’n Ofalwr. Mae gan fy mhartner, yr wyf yn gofalu amdano, broblemau iechyd meddwl, felly mae’n gallu cerdded o gwmpas a gwneud pethau drosto’i hun. Rwyf bob amser wedi meddwl am rôl Gofalwr fel rhywun sy’n siopa i rywun oherwydd na allant gerdded, neu eu hymolchi yn y gwely am eu bod yn gaeth i’r gwely. Nid yw hyn yn wir o gwbl.
Ces i fy nghyfeirio at Hafal, elusen iechyd meddwl yng Nghymru sy’n cefnogi pobl sy’n dioddef afiechyd meddwl difrifol, gan fy meddyg teulu tua 18 mis yn ôl, i mi fy hun a’r teulu. Gyda chefnogaeth sefydliadau a sgyrsiau, mae wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod yn Ofalwr.
Cofrestrais fel Gofalwr trwy fy meddyg teulu, ac rwyf hefyd wedi cael cefnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr a Hafal trwy sgyrsiau ar y ffôn, gwybodaeth trwy’r post, grantiau a dolenni i wefannau. Mae gwybodaeth a chymorth ar gael, ond mae angen gwybod ble i ddod o hyd iddynt. Mae Melo hefyd wedi bod yn gefnogaeth wych i fy iechyd meddwl fy hun, gan fy nghyfeirio at weithgareddau lleol neu ddefnyddio’r offer ar eu gwefan i’m helpu os ydw i’n cael diwrnod gwael.
Ynghyd â’r holl gefnogaeth anhygoel rwyf wedi’i chael, mae anawsterau wedi bod. Mae ochr ‘gwaith papur’ pethau wedi bod yn heriol i mi. Nid oes gennyf hawl i Lwfans Gofalwr oherwydd rhai blychau nad wyf yn eu ticio. Mae hyn yn golygu na allaf hawlio rhai o’r grantiau ariannol sydd ar gael i ofalwyr di-dâl. Ac mae hynny’n anodd. A yw hyn yn golygu nad wyf yn gofalu am fy mhartner yr un ffordd â rhywun arall?
Un o’r heriau niferus yr wyf wedi’i hwynebu yw fy nghyfathrebu fy hun ar ran fy mhartner. Mae wedi siarad â’i feddyg teulu sawl gwaith, yn ogystal â chlinig iechyd meddwl difrifol. Nid wyf erioed wedi gallu siarad ag unrhyw un am ei iechyd meddwl na’r hyn sydd ei angen arno. Fi sy’n ei adnabod orau, ac yn gweld ei fywyd o ddydd i ddydd a sut nad yw iechyd meddwl byth yr un peth o un diwrnod i’r llall. Yn anffodus, nid yw wedi cael y cyfeirio y dylai fod wedi’i roi, oherwydd byddai’n ceisio dangos bod popeth yn iawn wrth siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, yn lle dweud sut beth yw ei ddyddiau mewn gwirionedd. Pe bawn i’n gallu cael y sgwrs honno wrth ei ochr, fel grŵp, byddai pethau’n wahanol iawn. Mae hon wedi bod yn un o’r heriau mwyaf rhwystredig.
Ochr yn ochr ag anawsterau iechyd meddwl fy mhartner a bod yn Ofalwr iddo, rwyf hefyd yn dioddef gyda fy iechyd meddwl fy hun. Mae gen i orbryder a PTSD, ac rwy’n mynd ar fy ffordd fy hun i gael help, megis ceisio cwnsela. Er fy mod yn cael dyddiau da, byddaf hefyd yn cael dyddiau pan fyddaf wedi fy llethu. Rwyf wedi canfod bod Melo o gymorth mawr wrth roi ffyrdd i mi ganoli fy hun. Rwyf hefyd, dros amser, wedi dod o hyd i ffyrdd o helpu i wella a chynnal fy lles meddwl fy hun. Rwyf wrth fy modd yn darllen llyfrau hanes a theimlo’r llyfr yn fy nwylo, a chaniatáu i’m meddwl grwydro i fyd gwahanol. Rwyf hefyd wedi mwynhau creu rhandir bach yn fy ngardd, ac yn teimlo tawelwch meddwl pan fyddaf allan yn yr awyr iach, a gweld planhigion yn tyfu (er ddim mor hapus gyda’r gwlithod!) Rwyf hefyd wedi dechrau cyflwyno rhywfaint o ymwybyddiaeth ofalgar i’m hwythnos os gallaf, o 5 munud o dechnegau anadlu i ysgrifennu fy holl feddyliau a theimladau ar bapur neu ddyddlyfr. Dydw i ddim yn rhoi pwysau ar fy hun i wneud y pethau hyn, ond yn teimlo pan fydd angen rhywfaint o amser arnaf ac rwy’n gallu eu gwneud, yna rwy’n gwneud hynny.
Rwyf wedi dysgu cymaint ar fy siwrnai fer o fod yn ofalwr, a gobeithio y gallaf helpu i wneud newidiadau i ochr lai teg rhai systemau penodol. Y peth pwysicaf yw bod fy mhartner yn hapus, gallwn weld ffordd ymlaen gydag arweiniad gwasanaethau anhygoel a, ni waeth beth, mae yna gymuned anhygoel o ofalwyr allan yna sydd i gyd yn gwneud yr un peth (boed hynny â thâl ai peidio!)… Gofalu.
Nôl i’r newyddion
I weld cynghorion ac adnoddau am lesiant, ewch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a dysgu mwy!